Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cadeirydd, y Cynghorydd S. Curry.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALWYD AR Y 11EG MEHEFIN 2018 PDF 189 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 11 Mehefin 2018 yn gofnod cywir.
|
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GYNLLUN DATBLYGU'R AELODAU 2018/19 PDF 153 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan yr Ymgynghorydd Datblygu Corfforaethol ynghylch y rhaglen Datblygu Aelodau ar gyfer 2018/19.
Atgoffodd yr Ymgynghorydd Datblygu Corfforaethol y Pwyllgor ei fod, yn ei gyfarfod ar 11 Mehefin, wedi cytuno ar broses ar gyfer Aelod-fentoriaid, fodd bynnag nid oedd yr aelodau posibl wedi cael eu nodi eto, felly gofynnodd i'r Pwyllgor roi arweiniad ynghylch a ddylid anfon e-bost at yr holl aelodau yn gofyn am wirfoddolwyr i gymryd rhan. Dywedodd y byddai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn darparu hyfforddiant ar 8 Tachwedd 2018 ar ôl cael nifer digonol o bobl.
Roedd y Pwyllgor o'r farn bod anfon e-bost at yr holl aelodau yn gofyn am wirfoddolwyr yn addas a dywedodd yr aelodau hefyd y byddent yn hyrwyddo'r broses fentora o fewn eu grwpiau gwleidyddol eu hunain.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Datblygu Corfforaethol wrth y Pwyllgor fod sesiwn 'Gwella sgiliau gwneud penderfyniadau' wedi'i threfnu ar gyfer 28 Tachwedd, a byddai'r sesiwn hon yn canolbwyntio ar ddatgelu tueddiadau yn yr isymwybodol wrth wneud penderfyniadau. Roedd hon yn sesiwn arbennig o bwysig a gofynnodd i'r Pwyllgor hyrwyddo presenoldeb o fewn eu grwpiau.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor, yn sgil penderfyniad y Cyngor ar 12 Medi i symud tuag at system ddi-bapur o gyfathrebu â'r holl Gynghorwyr o 2 Medi 2019 ymlaen, fod rhaglen hyfforddi yn cael ei datblygu ar hyn o bryd i sicrhau bod aelodau yn gyfarwydd ac yn gyfforddus o ran defnyddio'r ap gweithio'n ddi-bapur.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynllun Datblygu Aelodau a'r diweddariad yn cael eu derbyn
|
|
DARPARIAETH DATA SIM I GYNGHORWYR PDF 72 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi gofyn am ddadansoddiad ar ddefnydd cardiau Data SIM yr Aelodau yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2018 (gweler cofnod 7), er mwyn penderfynu a yw'r ddarpariaeth yn rhoi gwerth am arian ac a ddylid ei chadw
Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried yr adroddiad:-
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL barhau i ddarparu cardiau Data SIM i Gynghorwyr a chynnal adolygiad arall ymhen 12 mis.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Atgoffwyd y Pwyllgor fod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) bob blwyddyn yn pennu'r cyfraddau talu a delir i aelodau etholedig a chyfetholedig awdurdodau lleol Cymru ar gyfer blwyddyn nesaf y cyngor a bod ganddo bwerau i wneud argymhellion ynghylch amrywiadau arfaethedig i gydnabyddiaeth ariannol Prif Weithredwyr a Phrif Swyddogion Prif Gynghorau Cymru.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i benderfyniadau drafft y Panel ar gyfer 2019 a dywedwyd wrtho fod y Panel yn gwahodd sylwadau ar yr adroddiad drafft erbyn 27 Tachwedd 2018.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, ar gyfer 2019/20, fod y Panel yn argymell:-
· cynnydd o 1.97% (£268) mewn Cyflogau Sylfaenol, gan gynyddu cyflog sylfaenol cynghorwyr i £13,868. · cynnydd yn Uwch-gyflogau Band 1 a Band 2 sy'n daladwy i'r Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd a'r Aelodau Gweithredol o £800 gan gynnwys y cynnydd o £268 yn y cyflog sylfaenol y byddai pob aelod yn ei gael · dim newid i Uwch-gyflogau Bandiau 3, 4 a 5 (heblaw am y cynnydd o 1.97% yn y cyflog sylfaenol) · cael gwared â'r dewis am Gyflogau Dinesig ar sail lefel y cyfrifoldeb ac fel arall dylid talu cyflogau'r pennaeth dinesig a'r dirprwy bennaeth dinesig ar Fand 3 £22,568 ar gyfer pennaeth dinesig ac ar Fand 5 £17,568 ar gyfer dirprwy bennaeth dinesig. · dileu'r fframwaith dalu ar gyfer Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Yn y dyfodol, os byddai cynghorau penodol yn ffurfio Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu, gellid gwneud cais i roi cydnabyddiaeth ariannol dan adrannau 3.22 a 3.23 yr adroddiad.
Nododd y Pwyllgor fod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wedi cael gwahoddiad i gwrdd â'r Panel i drafod yr adroddiad drafft ar 25 Hydref 2018.
Gofynnwyd cwestiwn ynghylch darparu ffonau ar gyfer aelodau etholedig, a dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod y mater hwn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd a chynigwyd y dylid cyflwyno adroddiad ynghylch hynny yn un o gyfarfodydd y dyfodol. Dywedodd y gofynnwyd i'r Panel roi arweiniad o ran yr hyn y disgwylir i awdurdodau ddarparu, oherwydd byddai hyn yn sicrhau cefnogaeth gyson ledled Cymru, fodd bynnag roedd y Panel wedi gwrthod rhoi eglurhad o ran yr hyn a ddisgwylir, ac yn caniatáu i bob awdurdod fod yn hyblyg yn ei ddull gweithredu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y fersiwn drafft o adroddiad yr IRPW.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD 2017-18 PDF 71 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ei Adroddiad Blynyddol am y cyfnod 2017-18 a oedd yn rhoi amlinelliad o weithgareddau'r Pwyllgor a'i argymhellion i'r Cyngor dros y 12 mis diwethaf.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|