Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Jim Jones.
|
|||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 29AIN O IONAWR 2019 PDF 136 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2019 yn gofnod cywir
|
|||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn manylu ar y penderfyniadau a'r argymhellion yn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, 2019 gyda'r nod o gyflwyno argymhellion i'r Cyngor, yn ei gyfarfod ym mis Ebrill, i'w cynnwys yng Nghynllun Cyflogau a Lwfansau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2019/20. Nodwyd bod Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cynnwys 49 o benderfyniadau.
Ceisid barn y Pwyllgor am dair elfen o adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ynghylch talu costau cynhaliaeth i aelodau sy'n ymgymryd â gwaith swyddogol y cyngor, ffïoedd yr Aelodau Cyfetholedig a chyhoeddi ad-daliadau'r costau gofal.
PENDERFYNWYD 4.1 nodi penderfyniadau canlynol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ynghylch pennu lefel y cyflogau a'r lwfansau ar gyfer 2019/20:-
- Cynnydd yn y cyflog sylfaenol i aelodau etholedig prif awdurdodau lleol i £13,868 (cynnydd o £268 neu 1.97%) - Cynnydd yn Uwch-gyflogau Band 1 a Band 2 sy'n daladwy i'r Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd a'r Aelodau Gweithredol o £800 gan gynnwys y cynnydd o £268 yn y cyflog sylfaenol a dderbynnir gan bob aelod - Nid oes unrhyw newidiadau ar gyfer Uwch-gyflogau Bandiau 3, 4 a 5 heblaw am y cynnydd o 1.97% yn y cyflog sylfaenol - Dilëwyd yr opsiwn o ran Cyflogau Dinesig ar sail lefel y cyfrifoldeb a phenderfynwyd y dylid talu cyflogau'r pennaeth dinesig a'r dirprwy bennaeth dinesig ar Fand 3 h.y. £22,568 ar gyfer pennaeth dinesig a Band 5 sef £17,568 ar gyfer dirprwy bennaeth dinesig. - Dilëwyd fframwaith taliadau ar gyfer Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu, pe bai cynghorau penodol yn ffurfio Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn y dyfodol yna gellir gwneud cais am roi cydnabyddiaeth ariannol dan adrannau 3.22 a 3.23 yr adroddiad.
PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR
|
|||||||||
BLAENRHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD 2019/20 PDF 124 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Blaenraglen Waith awgrymedig ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu Blaenraglen Waith 2019/20 Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.
|