Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Jim Jones.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 29AIN O IONAWR 2019 pdf eicon PDF 136 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2019 yn gofnod cywir

 

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL (IRPW), (CHWEFROR, 2019) pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn manylu ar y penderfyniadau a'r argymhellion yn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, 2019 gyda'r nod o gyflwyno argymhellion i'r Cyngor, yn ei gyfarfod ym mis Ebrill, i'w cynnwys yng Nghynllun Cyflogau a Lwfansau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2019/20. Nodwyd bod Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cynnwys 49 o benderfyniadau.

 

Ceisid barn y Pwyllgor am dair elfen o adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ynghylch talu costau cynhaliaeth i aelodau sy'n ymgymryd â gwaith swyddogol y cyngor, ffïoedd yr Aelodau Cyfetholedig a chyhoeddi ad-daliadau'r costau gofal.

 

PENDERFYNWYD

4.1         nodi penderfyniadau canlynol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol  ynghylch pennu lefel y cyflogau a'r lwfansau ar gyfer 2019/20:-

 

-        Cynnydd yn y cyflog sylfaenol i aelodau etholedig prif awdurdodau lleol i £13,868 (cynnydd o £268 neu 1.97%)

-        Cynnydd yn Uwch-gyflogau Band 1 a Band 2 sy'n daladwy i'r Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd a'r Aelodau Gweithredol o £800 gan gynnwys y cynnydd o £268 yn y cyflog sylfaenol a dderbynnir gan bob aelod

-        Nid oes unrhyw newidiadau ar gyfer Uwch-gyflogau Bandiau 3, 4 a 5 heblaw am y cynnydd o 1.97% yn y cyflog sylfaenol

-        Dilëwyd yr opsiwn o ran Cyflogau Dinesig ar sail lefel y cyfrifoldeb a phenderfynwyd y dylid talu cyflogau'r pennaeth dinesig a'r dirprwy bennaeth dinesig ar Fand 3 h.y. £22,568 ar gyfer pennaeth dinesig a Band 5 sef £17,568 ar gyfer dirprwy bennaeth dinesig.

-        Dilëwyd fframwaith taliadau ar gyfer Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu, pe bai cynghorau penodol yn ffurfio Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn y dyfodol yna gellir gwneud cais am roi cydnabyddiaeth ariannol dan adrannau 3.22 a 3.23 yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR

 

4.2

Cadw'r cyfraddau ad-dalu costau cynhaliaeth ar gyfer aelodau sy'n ymgymryd â dyletswyddau swyddogol ar gyfer 2019/20 a pharhau â'r arfer presennol bod yr Uned Gwasanaethau Democrataidd yn gyfrifol am holl drefniadau llety dros nos yr aelodau

 

4.3

Gosod cap ar y ffïoedd a delir i'r Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2019/20 sef 10 diwrnod llawn (neu 20 hanner diwrnod) o gyfarfodydd;

 

4.4

Mabwysiadu opsiwn 2 o ran ad-dalu costau gofal, ac na phriodolir y cyfanswm a ad-dalwyd gan yr awdurdod yn ystod y flwyddyn i unrhyw aelod

 

4.5

Bod y Cyngor yn derbyn argymhellion a phenderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2019 a'u cynnwys yn rhan o Gynllun presennol Lwfansau'r Cynghorwyr a'r Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2019/20 yn seiliedig ar pro forma newydd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

 

 

5.

BLAENRHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD 2019/20 pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Blaenraglen Waith awgrymedig ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu Blaenraglen Waith 2019/20 Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau