Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Gwener, 27ain Tachwedd, 2015 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd H.B. Shepardson.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 27AIN EBRILL, 2015. pdf eicon PDF 264 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 27ain Ebrill 2015 gan eu bod yn gywir.

 

4.

RHAGLENNI DATBLYGU AELODAU 2015. pdf eicon PDF 241 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r fersiwn drafft o Gynllun Datblygu'r Aelodau ar gyfer 2015/16 a oedd wedi ei lunio'n unol ag Adran 7A o'r Mesur Llywodraeth Leol, ac a oedd yn rhestru'r cyfleoedd datblygu arfaethedig fyddai ar gael i'r holl aelodau. Gan ymateb i gwestiwn dywedwyd y byddai'r sesiwn Ymwybyddiaeth o Dementia, a oedd wedi ei ohirio, yn cael ei gynnal yn nes ymlaen.

Dywedwyd nad oedd holl Arweinwyr y Grwpiau wedi trefnu cyfarfodydd un ag un â'u haelodau hyd yn hyn. Cytunodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith i fynd ar drywydd y mater yn y cyfarfod nesaf gydag Arweinwyr y Grwpiau a'u Dirprwyon. Awgrymodd y Cadeirydd fod angen rhoi blaenoriaeth hefyd i fater 'Modelau darparu eraill ar gyfer Awdurdodau Lleol' yn enwedig yng ngoleuni'r trafodaethau gyda chynghorau cymuned ynghylch trosglwyddo asedau.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Cynllun ac atgoffa Arweinwyr y Grwpiau fod angen cynnal cyfarfodydd un ag un â'u haelodau er mwyn cael gwybod beth yw eu hanghenion o ran hyfforddiant.

 

 

5.

PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL - ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT 2016/17. pdf eicon PDF 781 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (Chwefror 2016) a oedd yn cynnwys nifer o benderfyniadau ac argymhellion yr oedd yn ofynnol i’r Cyngor ystyried eu cynnwys yn ei Gynllun Lwfansau Aelodau Cyfetholedig a Chynghorwyr, 2016/17. Yr oedd hi'n ofynnol anfon y fersiwn drafft o'r adroddiad blynyddol at y Cyngor Sir ac yr oedd yn rhaid i sylwadau gael eu cyflwyno erbyn 30ain Tachwedd 2015. Yr oedd hi'n ofynnol i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol roi ystyriaeth i'r sylwadau a gawsai ar y fersiwn drafft cyn cyhoeddi fersiwn terfynol yr adroddiad ym mis Chwefror 2016.

Er bod y cyflog sylfaenol yn aros yr un fath sef £13,300, yr oedd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi gwneud nifer o benderfyniadau newydd ar gyfer 2016/17. Y mwyaf nodedig o'r rhain oedd bod newidiadau sylweddol i gyflogau rhai uwch-aelodau, fel yr oeddid wedi manylu ar hynny yn yr adroddiad.

Mynegodd aelodau eu pryderon ynghylch a oedd hi'n angenrheidiol ac yn ddymunol, hanner ffordd drwy'r tymor etholiadol presennol, gyflwyno system dwy haen o gyflogau ar gyfer Aelodau Byrddau Gweithredol a fyddai'n golygu bod yn rhaid gwahaniaethu rhwng y portffolios.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu i'r Cadeirydd gyflwyno ymateb ar ran y Pwyllgor i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol gan roi sylw i'r pryder a leisiwyd. 

 

6.

SWYDDOGAETH GRAFFU CYNGOR SIR GAERYRDDIN - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2014/15. pdf eicon PDF 440 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Yn rhinwedd bod yn Gadeirydd Fforwm Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu ac yn rhinwedd bod yn Hyrwyddwr Craffu y Cyngor, cyflwynodd y Cynghorydd D.W.H. Richards ‘Adroddiad Blynyddol 2014/15 Cyngor Sir Caerfyrddin ynghylch ei Swyddogaeth Graffu’, a diolchodd i'r holl aelodau a swyddogion am eu cyfraniad.

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Richards am ei Adroddiad, a dywedodd fod y swyddogaeth graffu wedi ei datblygu'n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a'i bod bellach yn fwy grymus ac effeithiol.

Mynegwyd barn ynghylch hyn gan ddweud er bod craffu ar bolisi yn effeithiol, nid oedd craffu ar benderfyniadau'r Bwrdd Gweithredol mor effeithiol, ac felly bod angen i'r trefniadau craffu o ran ei Flaenraglen Waith fod yn fwy hwylus. Atgoffwyd yr aelodau gan y Cadeirydd am y newidiadau cadarnhaol diweddar i Gyfansoddiad y Cyngor o ran Cwestiynau gan yr Aelodau a chan y Cyhoedd, er ei fod yn cydnabod nad oedd rhyw lawer o'r cyhoedd wedi manteisio ar y cyfle hwnnw hyd yn hyn a bod angen rhoi rhagor o gyhoeddusrwydd i'r ddarpariaeth.

Mynegwyd pryder ynghylch bod gormod o eitemau weithiau ar yr agenda yn y cyfarfodydd craffu gan olygu nad oedd digon o amser ar gael i drafod materion pwysig.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

6.1 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

6.2  bod y ddarpariaeth sy'n galluogi'r cyhoedd i ofyn cwestiynau i'r Cyngor yn cael rhagor o gyhoeddusrwydd;

6.3  cryfhau'r cysylltiad rhwng Blaenraglen Waith y Bwrdd Gweithredol a'r swyddogaeth graffu;

6.4  ystyried y materion sydd i'w trafod a'r amser sydd ar gael ar gyfer y materion hynny wrth lunio agendâu'r Pwyllgorau Craffu.

 

 

7.

ADRODDIAD HANNER FLWYDDYN Y GWASANAETH DEMOCRATAIDD - 1AF MAI TAN 23AIN TACHWEDD, 2015. pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad uchod a oedd yn manylu ar adnoddau staffio'r Gwasanaethau Democrataidd ac yn rhoi crynodeb o'r amrywiaeth o ddyletswyddau a gwasanaethau a ddarperid i'r aelodau etholedig dros y 6 mis diwethaf. Cyfeiriwyd yn benodol at roi Modern.gov ar waith gyda golwg ar ddefnyddio llai o bapur ac ar sicrhau bod modd cael gwybodaeth yn haws ac yn gynt. Estynnwyd gwahoddiad i'r aelodau roi gwybod i'r swyddogion os oeddynt yn fodlon peidio â chael copïau papur o agendâu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.