Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone 0330 3364321 Passcode: 99101035# (For call charges contact your service provider) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Phillips, J.K Howell a T.J. Jones.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

3.

PENODI AELODAU I EISTEDD AR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU 2020-21 pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch darpariaethau Deddf Trwyddedu 2003 a oedd yn manylu ar aelodaeth arfaethedig Is-bwyllgorau Trwyddedu "A" a "B" ar gyfer blwyddyn y cyngor 2020/21.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai aelodaeth Is-bwyllgorau Trwyddedu "A" a "B" ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/21 fel a ganlyn:

 

Is-bwyllgor Trwyddedu "A”

Y Cynghorwyr Fozia Akhtar, Mansel Charles, Ann Davies, Amanda Fox, Ken Howell, Jim Jones ac Elwyn Williams.

 

Is-bwyllgor Trwyddedu “B”

Y Cynghorwyr Penny Edwards, Tyssul Evans, Irfon Jones, Andre McPherson, Susan Phillips, Edward Thomas ac Eirwyn Williams

 

4.

PENODI CADEIRYDDION YR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2020/21

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion yr Is-bwyllgorau Trwyddedu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/21.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1

Benodi'r Cynghorydd M. Charles yn Gadeirydd Is-bwyllgor Trwyddedu "A" ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/2021.

4.2

Penodi'r Cynghorydd H.I. Jones yn Gadeirydd Is-bwyllgor Trwyddedu "B" ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/2021.

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 24YDD CHWEFROR, 2020 pdf eicon PDF 176 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2020, gan eu bod yn gywir.

 

6.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

7.

MR JONATHAN THOMAS JONES - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Jonathan Thomas Jones o 44 Glanella Road, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Jones ynghylch ei gais.

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu ei fod wedi derbyn sawl eitem o ohebiaeth yn rhoi geirdaon cymeriad ar gyfer Mr Jones. Argymhellodd fod cais Mr Jones yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNWYD cynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Jonathan Thomas Jones am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded. 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau