Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas. 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Edwards, S. Phillips ac E.G. Thomas.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion:
|
|||||||
MR LESLIE ALBERT SYDNEY CURLE - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 181 KB Cofnodion: (SYLWER: Gan fod y Cynghorydd T.J. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y Siambr tra oedd y Pwyllgor yn penderfynu ar y cais).
Yn unol â Chofnod 5 o'i gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr, 2019, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Leslie Albert Sydney Curle, 5 Burrows Terrace, Porth Tywyn, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Curle ynghylch y mater hwnnw.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Curle yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr Leslie Albert Sydney Curle yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|||||||
MR JASON LEE DAVIES - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 181 KB Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Jason Lee Davies Fflat 1, Y Felin, Ffordd Glannant, Caerfyrddin, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davies ynghylch y mater hwnnw.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Davies yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr. Jason Lee Davies yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|||||||
MR IAN RICHARD JONES - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 181 KB Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Ian Richard Jones, Cae'r Felin, Llanswel yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Jones ynghylch y mater hwnnw.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Jones yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Ar hynny
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr Ian Richard Jones yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol
|
|||||||
MR STEPHEN GARY WARR - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 182 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Stephen Gary Warr, Swan Fach, Llansawel am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr. Warr ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr. Warr yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Ar hynny
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Stephen Gary Warr am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Rhesymau Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|||||||
MR JOHN LESLIE COX - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 182 KB Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod cais wedi dod i law gan Mr John Leslie Cox, Bodfuan, Carmel am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu er i Mr Cox gael gwahoddiad i fod yn bresennol, nad oedd wedi dod i'r cyfarfod ac nad oedd wedi rhoi gwybod i'r Awdurdod am unrhyw reswm dros beidio â bod yn bresennol. Felly, byddai angen i'r Pwyllgor benderfynu a ddylid gohirio ystyried y cais tan ddyddiad arall er mwyn rhoi cyfle i Mr Cox fod yn bresennol neu, fel arall, ystyried y cais yn ei absenoldeb
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ystyried cais Mr Cox yn ei absenoldeb.
Yna cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu yn ymwneud â'r materion oedd wedi codi mewn perthynas â chais Mr Cox.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Cox yn cael ei wrthod.
Ar hynny
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais a gyflwynwyd gan Mr John Leslie Cox am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Rhesymau Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, nid oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|||||||
MR ALBERT BLEDDYN DAVISON - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 182 KB Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor gais gan Mr Albert Bleddyn Davison, 3 Heol D?r Fach, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davison ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu a chynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Davison yn cael ei wrthod.
Ar hynny
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, wrthod cais Mr Albert Bleddyn Davison am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Rhesymau Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd ac ymatebion yr ymgeisydd, nid oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'B' a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2019, gan eu bod yn gywir
|
|||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'A' a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2019, gan eu bod yn gywir
|
|||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'B' a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2020, gan eu bod yn gywir
|
|||||||
COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 5ED RHAGFYR, 2019 PDF 239 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2019, gan eu bod yn gywir
|