Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mercher, 26ain Mehefin, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S Davies 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU / MATERION ERAILL

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, P. Edwards, H.I. Jones, S. Phillips ac E. Thomas.

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau mai hwn oedd y cyfarfod olaf o'r Pwyllgor Trwyddedu y byddai Mr Mike Price yn bresennol ynddo gan ei fod yn ymddeol cyn bo hir. Diolchwyd i Mr Price am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor dros yr 20 mlynedd diwethaf a dymunwyd yn dda iddo yn y dyfodol. Mynegodd y Cadeirydd werthfawrogiad y Pwyllgor i Mr Price.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MR IVOR JOHN DANIEL - CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 183 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Ivor John Daniel o 41 Heol Bethesda, y Tymbl, am adnewyddu ei drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Daniel ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Daniel yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNWYD cynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Ivor John Daniel am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

4.

MR TONY ROBERT WILLIAMS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 183 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Tony Robert Williams o 2 Heol y Ffawydd, Caerfyrddin, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Williams ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Williams yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Tony Robert Williams am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

5.

MR THOMAS GEORGE CARPENTER - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 183 KB

Cofnodion:

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Thomas George Carpenter o T? Hedd, Trem y Dref, Caerfyrddin, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Carpenter ynghylch ei gais ac yn clywed geirdaon gan ei gyflogwr presennol, ac oddi wrth ei ddarpar gyflogwr a oedd yn bresennol.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Carpenter yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Thomas George Carpenter am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

6.

HYFFORDDIANT DIOGELU AR GYFER YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 209 KB

Cofnodion:

Gwyliodd y Pwyllgor Fideo Hyfforddiant Diogelu y gellid ei ddefnyddio ar gyfer yr holl Yrwyr Tacsi a Chynorthwywyr Teithwyr yn Ardal Heddlu Dyfed-Powys, sef Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Powys. Roedd y fideo wedi'i chreu fel rhan o gyd-fenter rhwng yr Awdurdod a'r Heddlu, a thalwyd amdano drwy ddefnyddio arian a godwyd o dan y Ddeddf Enillion Troseddau gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Awgrymwyd bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol yn cael ei ganmol am y fenter.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Fideo Hyfforddiant Diogelu.

 

7.

COFNODION - IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "A" - 9 MAI 2019 pdf eicon PDF 135 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'A' a gynhaliwyd ar 9 Mai 2019, gan eu bod yn gywir.

 

8.

COFNODION - Y PWYLLGOR TRWYDDEDU - 23 MAI 2019 pdf eicon PDF 317 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 23 Mai 2019, gan eu bod yn gywir.