Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.G. Prosser a D.E. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod.

Y Math o Fuddiant

A. Davies

7 – Mr Adrian Ricky Parry

Cais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat

Mae ef yn adnabod yr ymgeisydd.

R. Evans

6 – Mr Jeffrey John

Cais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat

Mae ef yn adnabod yr ymgeisydd.

R. Evans

7 – Mr Adrian Ricky Parry

Cais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat

Mae ef yn adnabod yr ymgeisydd.

H. I. Jones

8 - Cais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat

Mae ef yn adnabod yr ymgeisydd.

T. Evans

8 - Cais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat

Mae ef yn adnabod yr ymgeisydd.

 

 

Rhif y Cofnod.

Y Math o Fuddiant

Mr M Price

3 – Mr John Charles Griffiths

Cais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat

Mae ef yn adnabod yr ymgeisydd.

 

 

3.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI HURIO PREIFAT - MR JOHN CHARLES GRIFFITHS pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

[NODER:  Gan iddo ddatgan buddiant yn eitem hwn yn gynharach, gadawodd Mr Mike Price, Cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr John Charles Griffiths, 3 Talyclun, Llangennech, Llanelli i adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Argymhellodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod cais Mr Charles yn cael ei ganiatáu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr John Charles am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

 

4.

TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR WAYNE ROYSTON HALPIN pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Mr Wayne Royston Halpin, Fflat 8, Soroptimist House, Greenhill Close, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.  Rhoddodd yr ymgeisydd wybod i'r Pwyllgor ei fod wedi symud t? yn ddiweddar i Greenhill House, Greenhill Close, Caerfyrddin.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Halpin ynghylch ei gais a'r materion a godwyd.

 

Argymhellodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod cais Mr Halpin yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Yna:

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Wayne Royston Halpin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR RADOSLAW ANDRZEJ WOJTASIAK pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Radoslaw Andrzej Wojtasiak, 15 Heol Langland, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Wojtasiak ynghylch ei gais a'r materion a godwyd a chafwyd sylwadau gan gynrychiolydd yr heddlu

 

Argymhellodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod cais Mr Wojtasiak yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Yna:

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu'r cais a gyflwynwyd gan Mr Radolsaw Andrzej Wojtasiak am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

6.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR JEFFREY JOHN pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Jeffrey John, 30 Stafford Street, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr John ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod cais Mr John yn cael ei wrthod.

 

Yna:

 

PENDERFYNWYD cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

(NODER: Ar yr adeg hon, bu i'r Cynghorydd R. Evans ddatgan buddiant, gadawodd Siambr y Cyngor ac ni chymerodd rhan mewn unrhyw benderfyniadau).

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD wrthod y cais a gyflwynwyd gan Mr Jeffrey John am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

RHESYMAU:

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, atebion yr ymgeisydd i'r Pwyllgor a'r ffeithiau a gyfaddefwyd ganddo, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

 

7.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR ADRIAN RICKY PARRY pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

(NODER: Gadawodd y Cynghorwyr A. Davies a H.I Jones, a oedd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, Siambr y Cyngor tra bod y Pwyllgor yn ystyried y mater).

 

(NODER: Ymunodd y Cynghorydd T. Evans â'r cyfarfod).

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Adrian Ricky Parry, 10 Dan yr Allt, Felin-foel, Llanelli, am drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Parry ynghylch ei gais a'r materion a godwyd. 

 

Argymhellodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod cais Mr Parry yn cael ei wrthod.

 

Yna:

 

PENDERFYNWYD cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD wrthod y cais a gyflwynwyd gan Mr Adrian Ricky Parry am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

 

RHESYMAU:

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, atebion yr ymgeisydd i'r Pwyllgor a'r ffeithiau a gyfaddefwyd ganddo, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

 

8.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR MARK EDWARD JOHN pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

(Noder: Ar yr adeg hon, bu i'r Cynghorydd H.I. Jones ddatgan buddiant a gadawodd Siambr y Cyngor tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y mater a phenderfynu arno).

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Mark Edward John of Cedars, Mount Pleasant, Llangynnwr, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr John ynghylch ei gais a'r materion a godwyd.

 

Argymhellodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod cais Mr John yn cael ei wrthod.

 

Yna:

 

PENDERFYNWYD cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

(Noder: Ar yr adeg hon bu i'r Cynghorydd W.T. Evans ddatgan buddiant a gadawodd Siambr y Cyngor tra oedd y Pwyllgor yn penderfynu ar y cais).

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD wrthod cais Mr Mark Edwards John.

 

RHESYMAU

Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor o'r farn nad oedd Mr John yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded ar hyn o bryd.

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "B" A GYNHALIWYD AR 19EG MEDI, 2017. pdf eicon PDF 147 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'B' a gynhaliwyd ar 19eg Medi, 2017, yn gofnod cywir.

 

 

10.

TLLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 14EG MEDI, 2017. pdf eicon PDF 136 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 14 Medi 2017, gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau