Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd E. Williams
|
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion:
|
|||||||
TRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT PDF 277 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr. Meirion Williams, Cwmni Llogi Limwsîn Dusk Till Dawn, Caerodyn, Pantllyn, Llandybie, Sir Gaerfyrddin am ganiatâd i gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau Trwyddedu'r Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat mewn perthynas â'i Chrysler 300C ac iddo'r rhif cofrestru L11 GAD.
Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Williams yn cael ei ganiatáu.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Meirion Williams am ganiatâd i gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor ar gyfer Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat mewn perthynas â'i Chrysler 300C ac iddo'r rhif cofrestru L11 GAD.
|
|||||||
TRWYDDED AR GYFER CERBYD HACNAI PDF 280 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Andrew Paul Morgans o AJ’s Taxis, 38 Park View, Llanelli, i gael ei eithrio o Amod 15(e) o Amodau Trwyddedu'r Cyngor ar gyfer Cerbydau Hacnai. Mae'r amod yn nodi ni chaiff maint injan y cerbyd fod yn llai na 1200cc.
Nododd y Pwyllgor fod cais Mr Morgans ar gyfer Car Trydan Nissan Leaf Rhif Cofrestru YC16 WGF yn cynnwys pecyn batri ïon lithiwm uwch 30kWh y gellir ei ailwefru sydd wedi'i ddylunio i ddarparu p?er dibynadwy, glân, ac felly nid oedd yn bodloni'r amod presennol o ran trwydded cynhwysedd injan, fodd bynnag, roedd y cerbyd yn cydymffurfio'n llawn â phob amod arall ar gyfer cael trwydded ar gyfer Cerbydau Hacnai.
Nododd y Pwyllgor ei fod wedi caniatáu’r eithriad hwn o ran Mr Morgan o'r blaen ar 1 Rhagfyr 2016 ar gyfer car Nissan Leaf trydan arall, Cerbyd Hacnai HC747.
Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Morgans yn cael ei ganiatáu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Andrew Paul Morgans am gael ei eithrio o Amod 15(e) o Amodau Trwyddedu'r Cyngor ar gyfer Cerbydau Hacnai.
|
|||||||
DIRPRWYO AWDURDOD I SWYDDOGION PDF 352 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn ceisio dirprwyo awdurdod i swyddogion brosesu ceisiadau ar gyfer eithrio o Amod 13(e) Amodau Trwyddedu'r Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat, ac amod 15(e) Amodau Trwyddedu'r Cyngor ar gyfer Cerbydau Hacnai.
Nododd aelodau'r Pwyllgor ei fod yn ofynnol yn ôl y broses bresennol i bob cais am eithrio o Amod 13(e) Amodau Trwyddedu'r Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat, ac amod 15(e) Amodau Trwyddedu'r Cyngor ar gyfer Cerbydau Hacnai i ymddangos gerbron y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer penderfyniad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Awdurdod Dirprwyedig yn cael ei ganiatáu i Swyddogion brosesu ceisiadau ar gyfer Eithrio o Amod 13(e) Amodau Trwyddedu'r Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat, a 15(e) Amodau Trwyddedu'r Cyngor ar gyfer Cerbydau Hacnai.
|
|||||||
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Ian Barrie Vinson o 38 Maesgwern, Tymbl, Llanelli am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Vinson ynghylch ei gais.
Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr Vinson yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Vinson am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Rhesymau Ar ôl ystyried y ffeithiau a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor o'r farn bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|||||||
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Ivor John Daniel, 35 Heol Newydd, Brynaman Uchaf, Rhydaman am adnewyddu ei drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat.
Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr Daniel yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Vinson am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|||||||
MR LEIGHTON NOEL ROBERTS - TRWYDDED YRRU DDEUOL AR GYFER CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 181 KB Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Leighton Noel Roberts o 56 Heol Coedcae, Llanelli, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded. Roedd y Pwyllgor wedi cyfweld â Mr Roberts.
Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol yn cael ei roi i Mr Roberts.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Roberts am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Rhesymau Roedd y Pwyllgor, wrth ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, yn fodlon nad oedd yn angenrheidiol i roi rhybudd terfynol i ddiogelu'r cyhoedd. Fodd bynnag, byddai'r ymgeisydd yn cael ei atgoffa o ddifrifoldeb y drosedd a gallai unrhyw bwyntiau pellach ar ei drwydded arwain at beryglu ei drwyddedau tacsi a DVLA.
|
|||||||
MR ALTAB ALI - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL AR GYFER CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 181 KB Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor gais gan Mr Altab Ali o Fflat 11, Glannant House, Heol y Coleg, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Ali ynghylch y mater hwnnw a chafodd sylwadau gan gynrychiolydd yr heddlu.
Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr Ali yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Ali am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|||||||
Cofnodion: Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi gohirio ystyried y cais hwn yn y cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 5 Ebrill, 2017 (cofnod 7) gan i'r ymgeisydd fethu â bod yn bresennol. Nododd y Pwyllgor nad oedd Mr Williams yn bresennol yn y cyfarfod heddiw, nad oedd wedi cysylltu â'r swyddogion i gynnig esboniad ynghylch hynny a'i fod wedi cael gwybod pe na bai'n bresennol yn y cyfarfod heddiw y gallai'r mater gael ei ystyried ac yntau'n absennol. Felly
PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn ystyried y cais yn absenoldeb yr ymgeisydd.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr awdurdod wedi rhoi Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat i Mr Paul Stuart Griffiths Williams, 1 Dan yr Allt, Felin-foel, Llanelli, Sir Gaerfyrddin a bod materion wedi codi ynghylch ei drwydded.
Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod Trwydded Yrru Ddeuol Mr Williams ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat yn cael ei dirymu.
Yna bu i'r Pwyllgor:
BENDERFYNU'N UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ddirymu trwydded yrru ddeuol Mr Paul Stuart Griffiths Williams ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat.
|
|||||||
MR DAVID WILLIAM SQUIRE - TRWYDDED YRRU DDEUOL AR GYFER CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 182 KB Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod Mr David William Squire, 12 Tre Gwendraeth, Cydweli, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded. Nododd y Pwyllgor nad oedd Mr Squire yn bresennol yn y cyfarfod heddiw, nad oedd wedi cysylltu â'r swyddogion i gynnig esboniad ynghylch hynny a'i fod wedi cael gwybod pe na bai'n bresennol yn y cyfarfod heddiw y gallai'r mater gael ei ystyried ac yntau'n absennol. Felly:
PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn ystyried y cais yn absenoldeb yr ymgeisydd.
Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Squire yn cael ei ddirymu.
Yna bu i'r Pwyllgor:
BENDERFYNU'N UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ddirymu trwydded yrru ddeuol Mr David William Squire ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat.
Rhesymau Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor o'r farn bod achos rhesymol yn bodoli i ddirymu'r drwydded.
|
|||||||
Cofnodion: (Noder: Ar yr adeg hon roedd y Cynghorydd F. Akjtar wedi datgan buddiant a gadawodd Siambr y Cyngor wrth i'r Pwyllgor benderfynu ar y cais).
Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Stephen Craig Cardew-Richardson , 27 Brynsierfel, Llanelli am drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Cardew-Richardson ynghylch y mater hwnnw a chafodd sylwadau gan gynrychiolydd yr heddlu. Bu'r Pwyllgor hefyd yn ystyried tystlythyrau ynghylch cymeriad Mr Cardew Richardson gan ei gan gyflogwyr blaenorol.
Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Cardew-Richardson’s yn cael ei wrthod.
Yna bu i'r Pwyllgor:
BENDERFYNU cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD bod cais Mr Stephen Craig Cardew-Richardson yn cael ei wrthod.
Rhesymau Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor o'r farn nad oedd Mr Cardew-Richardson yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|||||||
DEDDF TRWYDDEDU 2003 – PENDOI IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU PDF 379 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn sgil darpariaethau Deddf Trwyddedu 2003 a roddai fanylion ynghylch aelodaeth arfaethedig yr Is-bwyllgorau Trwyddedu ar gyfer blwyddyn y cyngor 2017/18 Yn ogystal, nododd y Pwyllgor yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai, 2017 fod cyfansoddiad y Pwyllgor Trwyddedu wedi gostwng i 14 o aelodau a gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried a ddylid sefydlu dau is-bwyllgor yn cynnwys 5 aelod ac 1 Is-bwyllgor yn cynnwys 4 aelod neu fel arall, sefydlu 2 Is-bwyllgor yn cynnwys 7 aelod yr un, mor wleidyddol gytbwys â phosibl. Yn dilyn ystyried y ddau senario penderfynodd y Pwyllgor: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL sefydlu dau Is-bwyllgor yn cynnwys 7 aelod yr un abyddai aelodaeth yr Is-bwyllgorau Trwyddedu ar gyfer blwyddyn y cyngor 2017/18 fel a ganlyn Is-bwyllgor Trwyddedu "A” Y Cynghorwyr F. Akhtar, M. Charles, A. Davies, R. Evans, A. Fox, K. Howell ac E. Williams. Is-bwyllgor Trwyddedu "B" Y Cynghorwyr A. Davies, T. Evans, P. Edwards, Rwyf i. Jones, W.J. Prosser, E. Ysgoloriaeth Thomas ac E Williams.
|
|||||||
PENODI CADEIRYDDION YR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2017/18 Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr enwebiadau a oedd wedi dod i law am Gadeiryddion yr Is-bwyllgorau Trwyddedu am flwyddyn y cyngor 2017/18 a PENDERFYNWYD:
·
Bod y Cynghorydd M. Charles
yn cael ei benodi'n Gadeirydd Is-bwyllgor Trwyddedu “A”
am flwyddyn y cyngor 2017/18; · Bod y Cynghorydd A. Davies yn cael ei benodi'n Gadeirydd Is-bwyllgor Trwyddedu "B" am flwyddyn y cyngor 2017/18
|
|||||||
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU 'A' 20 EBRILL 2017. PDF 226 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'A' a oedd wedi ei gynnal ar 20 Ebrill 2017 gan eu bod yn gywir.
|
|||||||
COFNODION - 5 EBRILL, 2017. PDF 213 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 5 Ebrill 2017 yn gofnod cywir.
|