Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Catherine Gadd 01267 224088
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd P.M. Edwards.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
|
|||||||
MR STEPHEN BOWEN - DRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT PDF 125 KB Cofnodion: [Sylwer: Gadawodd y Cynghorydd T. Bowen Siambr y Cyngor tra oedd y Pwyllgor yn penderfynu ar yr eitem hon].
Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Stephen Bowen o Cofia Cabs, 10 Heol Beili Glas, Llanelli, am eithriad o Amod 5a a 5b o Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Bowen ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Bowen yn cael ei ganiatáu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Bowen am eithriad o Amod 5a a 5b o Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat.
|
|||||||
MRS MARY ANN COLLINS - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 120 KB Cofnodion: Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi gohirio ystyried y cais hwn yn y cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 20fed Chwefror, 2017 (cofnod 3) gan i'r ymgeisydd fethu â bod yn bresennol.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mrs Collins o Ffynnonau-Gleision, Boncath, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei thrwydded. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mrs Collins ynghylch y mater hwnnw.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mrs Collins yn cael rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor fod Mrs Mary Collins yn cael rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.
|
|||||||
MR EDRYD MORGAN VAUGHAN - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 120 KB Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor gais gan Mr Edryd Vaughan o Drehelig, Heol yr Orsaf, Llangadog, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Vaughan ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr. Vaughan yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Edryd Vaughan am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|||||||
MR DARREN PAUL KNIGHTS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 120 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Darren Knights, 46 Stryd y Cei, Rhydaman am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Knights ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Knights yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Darren Knights am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|||||||
MR PAUL STUART GRIFFITHS WILLIAMS - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 120 KB Cofnodion: Hysbyswyd y Pwyllgor nad oedd Mr. Paul Stuart Griffiths Williams yn bresennol ac nad oedd wedi cysylltu â'r swyddogion i roi gwybod iddynt ei fwriad.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried ymddygiad Mr Paul Stuart Griffiths Williams yn y dyfodol tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.
|
|||||||
MR RAYMOND ARTHUR TREVETT - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 120 KB Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor gais gan Mr Raymond Arthur Trevett o Lord Rhys, 1 Golwg y Coleg, Llanymddyfri am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Trevett ynghylch ei gais.
Argymhellodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Trevett yn cael ei wrthod.
Yna bu i'r Pwyllgor:
BENDERFYNU cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, wrthod cais Mr Raymond Trevett am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Y Rhesymau: Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, atebion yr ymgeisydd i'r Pwyllgor a'r ffeithiau a gyfaddefwyd ganddo, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|||||||
MR STEVEN JAMES GREGORY - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 120 KB Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y cais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a gyflwynwyd gan Mr Steven James Gregory wedi'i dynnu'n ôl.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod y cais wedi'i dynnu'n ôl.
|
|||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu ‘C’ a gynhaliwyd ar 16eg Mawrth, 2017, gan eu bod yn gywir.
|
|||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 20fed Chwefror, 2017, gan eu bod yn gywir.
|