Lleoliad: Y Siambr, Neuadd y Sir
Cyswllt: Janine Owen
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd I Jackson.</AI1>
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
MRS. MARY ANN COLLINS - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI / HURIO PREIFAT PDF 131 KB Cofnodion: Hysbyswyd y Pwyllgor nad oedd Mrs Mary Ann Collins yn bresennol ac nad oedd wedi cysylltu â'r swyddogion i roi gwybod iddynt ei bwriad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried ymddygiad Mrs Mary Ann Collins yn y dyfodol tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.
|
|
MR. BRIAN WOOLOFF - CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI / HURIO PREIFAT PDF 133 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais Mr Brian Wooloff, 6 Teras Gathen, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Brian Wooloff ynghylch ei gais.
Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr Wooloff yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr B. Wooloff am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
MR. SCHALK JACOBUS LOOTS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI / HURIO PREIFAT PDF 132 KB Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor gais gan Mr Schalk Jacobus Loots, Pwllgair, Brongest, Castellnewydd Emlyn, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Schalk Jacobus Loots ynghylch ei gais.
Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Loots yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr S. J. Loots am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
MR. JOHN FREDERICK KEVERN - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI / HURIO PREIFAT PDF 132 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr John Frederick Kevern, 1A Upper Cross Road, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr John Frederick Kevern ynghylch ei gais.
Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Kevern yn cael ei ganiatáu.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr J. F. Kevern am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat
|
|
Cofnodion: Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi gohirio ystyried y cais hwn yn y cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 10fed Ionawr, 2017 (cofnod 8) gan nad oedd yr ymgeisydd yn gallu bod yn bresennol.
Ystyriodd y Pwyllgor gais gan Mr Christopher Arthur John Owen, Tanybryn, Llanllwni, Pencader am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Christopher Arthur John Owen ynghylch ei gais.
Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr Owen yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr C.A.J. Owen am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu ‘B’ oedd wedi ei gynnal ar y 13eg o Ragfyr, 2016 yn gofnod cywir.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu oedd wedi ei gynnal ar 10fed Ionawr, 2017 yn gofnod cywir.
|