Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J. Thomas a M.K. Thomas.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.</AI2>
|
|
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Michael Alan Davies, 51 Rhydyfro, Llangadog am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davies ynghylch ei gais.
Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr Davies yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Michael Alan Davies am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.</AI3> <AI4>
|
|
Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Russell wedi hysbysu'r swyddogion na fyddai'n gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw gan y byddai ar wyliau a'i fod wedi gofyn am ohirio ystyried ei gais tan y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried cais Mr Wayne Smith Russell am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.</AI4>
|
|
Cofnodion: Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi gohirio ystyried y cais hwn yn y cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 28ain Gorffennaf, 2016 (cofnod 4) gan nad oedd yr ymgeisydd yn gallu bod yn bresennol. Nododd y Pwyllgor nad oedd Mr Squire yn bresennol yn y cyfarfod heddiw, nad oedd wedi cysylltu â'r swyddogion i gynnig esboniad ynghylch hynny a'i fod wedi cael gwybod pe na bai'n bresennol yn y cyfarfod heddiw y gallai'r mater gael ei ystyried ac yntau'n absennol. Felly
PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn ystyried y cais yn absenoldeb yr ymgeisydd.
Aeth y Pwyllgor ati i ystyried cais gan Mr David William Squire, 12 Tre Gwendraeth, Cydweli, am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd atal trwydded Mr Squire am 14 diwrnod.
Yna bu i'r Pwyllgor
BENDERFYNU cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod cais Mr David William Squire am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat yn cael ei ganiatáu a bod ei drwydded yn cael ei hatal am 14 diwrnod.
Y rhesymau Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor o'r farn bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded ond bod achos rhesymol dros atal y drwydded honno am 14 diwrnod.</AI5>
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 28ain Gorffennaf 2016 yn gofnod cywir.
|