Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Catherine Gadd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd H.I. Jones.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd newydd i'w chyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor Trwyddedu.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

P. M. Edwards

6 - Cais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat

Adnabod yr ymgeisydd

 

3.

MR DAVID KEITH MAYNARD - TRWYDDED YRRU DDEUOL AR GYFER CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 142 KB

Cofnodion:

(Noder: Gadawodd y Cynghorydd T. Davies y cyfarfod bryd hynny).

 

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod yn ei gyfarfod ar 19eg Hydref 2016 (gweler cofnod 17) wedi penderfynu gohirio ystyried y mater a oedd wedi codi mewn perthynas â Thrwydded Yrru Ddeuol Mr David Keith Maynard, 2 Pontgoch, Bancyfelin, Caerfyrddin ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Hysbyswyd y Pwyllgor fod Mr Maynard wedi cysylltu â'r swyddogion i ddweud na allai fod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ond ei fod yn fodlon bod penderfyniad ynghylch ei fater yn cael ei wneud yn ei absenoldeb.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y ddau lythyr gan yr achwynydd yn y mater, ynghyd ag ymateb ysgrifenedig Mr Maynard. Hefyd roedd y Pwyllgor wedi cyfweld â Mr Maynard yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19eg Hydref, 2016. Gwahoddodd y Pwyllgor yr achwynydd a'i ffrind i gyflwyno sylwadau ar y dystiolaeth a oedd wedi dod i law.

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod Trwydded Mr Maynard yn cael ei hatal am gyfnod o saith diwrnod.

 

Yna bu i'r Pwyllgor:

 

BENDERFYNU cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, atal Trwydded Mr David Keith Maynard am gyfnod o saith diwrnod.

 

Y Rhesymau:

 

Wrthedrych ar y dystiolaeth a gyflwynwyd, ni phetrusodd y Pwyllgor dderbyn tystiolaeth yr achwynydd ac roedd o'r farn bod Mr Maynard wedi gwrthod cludo'r achwynydd fel yr honnwyd.

 

Roedd y Pwyllgor hefyd o'r farn bod Mr Maynard wedi cael gwybod am broblemau iechyd yr achwynydd a bod ei wrthwynebiad pellach yn ffactor difrifol a wnaeth waethygu'r sefyllfa yn yr achos hwn.

 

Ynsgil y ffactor hwn sy'n gwaethygu'r sefyllfa, bu'r Pwyllgor yn ystyried atal trwydded Mr Maynard am fwy na saith diwrnod, ond yn sgil y wybodaeth liniarol a gyflwynwyd gan Mr Maynard, a sylwadau gan yr achwynydd nad oedd am iddo wynebu caledi, penderfynwyd dilyn argymhelliad y swyddogion.

 

Felly, daeth y Pwyllgor i'r casgliad, ar sail y ffeithiau a gyflwynwyd, fod achos rhesymol dros atal trwydded Mr Maynard am 7 diwrnod.

 

Wrthddod i'r penderfyniad hwn, cydnabyddodd y Pwyllgor bod hynny'n ymyrryd â hawliau Mr Maynard o dan Erthygl 1 o Brotocol Cyntaf Siarter Hawliau Dynol Ewrop.  Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor o'r farn fod y cam gweithredu'n angenrheidiol er mwyn diogelu hawliau pobl eraill, ac yn benodol hawliau'r achwynydd o dan Erthygl 3 a 14 o Siarter Hawliau Dynol Ewrop, a'i fod yn ymateb cymesur i'r hyn a oedd wedi digwydd.

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r achwynydd am gymryd amser i ddod i'r cyfarfod ac ateb cwestiynau'r Pwyllgor.

4.

MR ANDREW PAUL MORGANS - TRWYDDED CERBYD HACNAI pdf eicon PDF 143 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Andrew Paul Morgans o AJ’s Taxis, 38 Park View, Llanelli, am eithrio o Amod 15(e) o Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cebydau Hacnai.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Morgans ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Morgans yn cael ei ganiatáu.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Andrew Paul Morgans am eithrio o Amod 15(e) o Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hacnai.

5.

MR PETER WILLIAM DUNKLEY - TRWYDDED YRRU DDEUOL AR GYFER CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 141 KB

Cofnodion:

(Noder: Gadawodd y Cynghorydd P.M. Edwards a'r Cynghorydd Mr. M Price Siambr y Cyngor tra oedd y Pwyllgor yn penderfynu ar y cais hwn).

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Peter William Dunkley, 70 Heol Firth, Llanelli, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Dunkley ynghylch y mater hwnnw.

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod Mr Dunkley yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Yna bu i'r Pwyllgor

 

BENDERFYNU cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD peidio â rhoi rhybudd i Mr Peter William Dunkley ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

6.

MR DUDLEY PETER EVANS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL AR GYFER CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 141 KB

Cofnodion:

(Noder: Gadawodd y Cynghorydd P.M. Edwards, a oedd wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, Siambr y Cyngor tra oedd y Pwyllgor yn penderfynu ar y cais hwn).

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Dudley Peter Evans, 81 Maes yr Haf, y Pwll, Llanelli, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Evans ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Evans yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â darpariaethau Adran 61(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 fod Trwydded Yrru Ddeuol Mr Dudley Peter Evans ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

7.

MR MATTHEW HODGON - CAIS AM ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL AR GYFER CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 142 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Matthew Hodgon, 15 Heol Ashburnham, Llanelli am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Hodgon ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod cais Mr Hodgon yn cael ei ganiatáu a bod Mr Hodgon yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD caniatáu, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, y cais gan Mr Matthew Hodgon am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

8.

COFNODION IS - BWYLLGOR TRWYDDEDU 'A' - 11 HYDREF, 2016 pdf eicon PDF 158 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'A' a oedd wedi'i gynnal ar 11eg Hydref, 2016, yn gofnod cywir.

9.

COFNODION - 19 HYDREF 2016 pdf eicon PDF 191 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu oedd wedi'i gynnal ar 19eg Hydref, 2016 yn gofnod cywir.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau