Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·       [SYLWER: Dywedwyd wrth y Cadeirydd nad oedd y Gyrrwr mewn perthynas ag Eitem 7 ar yr Agenda yn bresennol felly newidiodd y Cadeirydd drefn yr agenda er mwyn ystyried Eitem 8, cyn Eitem 7.  Fodd bynnag, er hwylustod cyfeirio mae'r cofnodion hyn yn adlewyrchu trefn y materion ar Agenda'r cyfarfod.]

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Fox a J. Jones. 

Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Mr David Bizby, Cynrychiolydd Heddlu Dyfed Powys.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

H.I. Jones

2.             Eitem 8 ar yr Agenda

3.             Cais am drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat - Mr Emyr Wyn Davies

Mae'n adnabod y gyrrwr.

 

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD YR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

3.1

IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "A" A GYNHALIWYD AR 16EG TACHWEDD, 2021. pdf eicon PDF 219 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.2

IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "B" A GYNHALIWYD AR 21AIN MEDI, 2021 pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu "B" a gynhaliwyd ar 21 Medi 2021, gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 23AIN MEDI, 2021. pdf eicon PDF 238 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith bod yna ddyfyniad anghywir yn Eitem 14 y Cofnodion a oedd yn nodi:-

 

“Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr. Alyufrus yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol”

 

Dylai'r frawddeg ddarllen:-

 

“Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Alyufrus yn cael ei wrthod.”

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar y newid uchod, lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 23 Medi 2021, gan eu bod yn gywir.

 

 

5.

ADOLYGIAD O UCHAFSWM TABL PRISIAU CERBYDAU HACNAI. pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am gais a dderbyniwyd i gynyddu uchafswm y tabl prisiau presennol ar gyfer cerbydau hacnai.  Roedd y cais yn cynnig ailstrwythuro uchafswm y tabl prisiau presennol ar gyfer cerbydau hacnai fel a ganlyn:-

 

1.    cynyddu'r tâl cychwynnol ar y mesurydd o £0.60c ar Dariff 1, Tariff 2, a Thariff 3.

 

2.    cynyddu'r Taliadau Ychwanegol ar gyfer cerbydau sy'n cario 5-8 o deithwyr. Ar gyfer pob teithiwr sy'n fwy na PHEDWAR codi tâl o£1 am bob teithiwr (Ar gyfer Teithwyr 5-8).  Mae hyn yn gynnydd o £0.75 y pen.

 

3.    cynyddu'r ffi halogi am faeddu'r Cerbyd i £60. Mae hwn yn gynnydd o £10.00

 

4.    cynyddu'r Ffi Archebu i £5.00 (os yw'r daith yn cychwyn mwy na 4 milltir o ganolfan y gweithredwr). Mae hyn yn gynnydd o £2.00 ac mae hefyd yn newid pellter y daith o fwy na 5 milltir i fwy na 4 milltir.

 

5.    Bydd y pris Tariff 1 ar y mesurydd yn cael ei ddyblu ar gyfer hurio sy'n cychwyn Ddydd Nadolig a Dydd Calan.  Bydd hyn yn parhau a bydd yn seiliedig ar y tariff y cytunwyd arno ar gyfer Tariff 1.

 

Dywedwyd mai'r tro diwethaf y newidiwyd y tariff oedd mis Mai 2011 ac oherwydd yr argostau cynyddol a ysgwyddwyd gan y fasnach dacsis, derbyniwyd cais i gynyddu uchafswm y tabl prisiau presennol yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, Adran 65 Tabl Prisiau Cerbydau Hacnai

 

Rhoddodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu fanylion am ystadegau a dangosyddion sy'n berthnasol i'r fasnach dacsis ers 2011 a oedd yn cynnwys y cynnydd mewn costau tanwydd, isafswm cyflog, premiymau yswiriant ac yn fwy diweddar y cynnydd yng nghostau cerbydau, cydrannau, nwyddau a gwasanaethau ers Brexit a'r Pandemig. Wrth ystyried y wybodaeth a ddarparwyd, dywedwyd bod y sefyllfa gyffredinol yn dangos gostyngiad ariannol clir ac amlwg yn y fasnach dacsis yn Sir Gaerfyrddin a oedd wedi bod yn gweithredu ar golled ers y cynnydd diwethaf yn 2011.

 

Bu'r Aelodau yn ystyried uchafswm y tabl prisiau presennol ar gyfer cerbydau hacnai a'r ailstrwythuro arfaethedig fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau yr ymgynghorwyd â 550 o aelodau o'r fasnach dacsis yn Sir Gaerfyrddin ar uchafswm y tabl prisiau arfaethedig ar gyfer cerbydau hacnai, cafwyd 80 o ymatebion a dywedodd 79 ohonynt eu bod yn hapus â'r cynnydd arfaethedig yn y tariff.  Yn ogystal, cafodd yr Aelodau ddiweddariad ar lafar o sylwadau'r ymatebwyr.

 

Cyfeiriwyd at yr ymatebion a gafwyd yngl?n â'r gyfradd ar gyfer Noswyl Nadolig/Dydd Nadolig a Nos Galan/Dydd Calan.  Mewn ymateb i ymholiad ynghylch diwygio'r tariff, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Uwch Swyddog Trwyddedu wrth y Pwyllgor na fyddai unrhyw welliannau yn ystod y cam hwn wedi'u cynnwys yn yr ymgynghoriad cychwynnol ag aelodau o'r fasnach dacsis felly, awgrymwyd y byddai'r ymgynghoriad cyhoeddus yn gyfle i aelodau'r cyhoedd a'r fasnach dacsis ddarparu unrhyw ddiwygiadau a awgrymir i uchafswm y tabl prisiau ar gyfer cerbydau hacnai drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus.  Yn unol â  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.

 

OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD, YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.

TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR DANIEL JOHN VICTOR JOHNS.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd Mr Johns yn gallu mynychu'r cyfarfod oherwydd ymrwymiadau gwaith: -

 

PENDERFYNWYD mynd ymlaen i ystyried yr eitem ar yr agenda yn absenoldeb Mr John.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Daniel John Victor Johns o 10 Ffordd y Road, Rhydaman, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wrth aelodau'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr John yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr Daniel John Victor Johns yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

8.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR EMYR WYN DAVIES.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan xxx am Drwydded Yr[SYLWER: Ar yr adeg hon, bu i'r Cynghorydd H.I. Jones ddatgan buddiant a gadawodd y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y mater a phenderfynu arno]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Emyr Wyn Davies, 23 Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davies ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Emyr Wyn Davies yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Emyr Wyn Davies am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

ru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â xxx ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais xxx yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais xxx am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau