Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies ac A. McPherson.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003 CAIS YN YMWNEUD Â DOSBARTHIAD FFILM pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu cais a ddaeth i law gan Mrs Carys Ifan ar ran Canolfan S4C yn gofyn am argymhelliad ynghylch caniatáu i blant wylio ffilm fer a oedd yn ddiddosbarth.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bwriadu dangos y ffilm Gymraeg “Helfa’r Heli” yng Nghanolfan S4C a fyddai'n cael ei awdurdodi o dan hysbysiad digwyddiad dros dro wedi'i gyflwyno gan yr ymgeisydd o dan Adran 100 Deddf Trwyddedu 2003.

 

Nodwyd yn ei gyfarfod ar 4 Ebrill 2018, fod y Pwyllgor Trwyddedu eisoes wedi ystyried y ffilm hon mewn perthynas â'i dangos mewn safle arall a phenderfynwyd ar ddosbarthiad oedran o 12A [gweler Eitem 7 ar yr Agenda].

 

Er mwyn i'r Pwyllgor wneud yr argymhelliad gofynnol ynghylch caniatáu i blant wylio'r ffilm, cafodd y Pwyllgor gyfle i wylio'r ffilm fer gan roi ystyriaeth i'r cyfeiriadau at ymddygiad dynwaredadwy, iaith, noethni a rhyw.

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw priodol i'r paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu ac o Ganllawiau a gyflwynwyd gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNWYD y dylai'r ffilm sy'n dwyn y teitl "Helfa'r Heli" gael ei hystyried yn ffilm na chaiff personau o dan 12 oed ei gwylio heb gyfarwyddyd rhiant (12A).

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau