Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies ac A. McPherson.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
DEDDF TRWYDDEDU 2003 CAIS YN YMWNEUD Â DOSBARTHIAD FFILM PDF 121 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu cais a ddaeth i law gan Mrs Carys Ifan ar ran Canolfan S4C yn gofyn am argymhelliad ynghylch caniatáu i blant wylio ffilm fer a oedd yn ddiddosbarth.
Roedd yr ymgeisydd yn bwriadu dangos y ffilm Gymraeg “Helfa’r Heli” yng Nghanolfan S4C a fyddai'n cael ei awdurdodi o dan hysbysiad digwyddiad dros dro wedi'i gyflwyno gan yr ymgeisydd o dan Adran 100 Deddf Trwyddedu 2003.
Nodwyd yn ei gyfarfod ar 4 Ebrill 2018, fod y Pwyllgor Trwyddedu eisoes wedi ystyried y ffilm hon mewn perthynas â'i dangos mewn safle arall a phenderfynwyd ar ddosbarthiad oedran o 12A [gweler Eitem 7 ar yr Agenda].
Er mwyn i'r Pwyllgor wneud yr argymhelliad gofynnol ynghylch caniatáu i blant wylio'r ffilm, cafodd y Pwyllgor gyfle i wylio'r ffilm fer gan roi ystyriaeth i'r cyfeiriadau at ymddygiad dynwaredadwy, iaith, noethni a rhyw.
Rhoddodd y Pwyllgor sylw priodol i'r paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu ac o Ganllawiau a gyflwynwyd gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain.
Ar hynny:
PENDERFYNWYD y dylai'r ffilm sy'n dwyn y teitl "Helfa'r Heli" gael ei hystyried yn ffilm na chaiff personau o dan 12 oed ei gwylio heb gyfarwyddyd rhiant (12A).
|