Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Iau, 23ain Mai, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H.I. Jones ac A. McPherson

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

W.T Evans

6 – Mr Mark Edward John  - Cais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat

Yn adnabod yr ymgeisydd

E. Williams

6 – Mr Mark Edward John  - Cais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat

Yn adnabod yr ymgeisydd

W.T. Evans

7 – Mr Simon Allen Batten – Cais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat

Yn adnabod yr ymgeisydd

 

 

3.

MR DAVID HAMILTON - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr David Hamilton, Coed y Bryn, Llandysul, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Hamilton ynghylch ei gais.

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu ei fod wedi cael llythyr cefnogaeth a geirda gan ddarpar gyflogwr Mr Hamilton. Argymhellodd fod cais Mr Hamilton yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu'r cais a gyflwynwyd gan Mr David Hamilton am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y Rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

4.

MR HUGH JOHN THOMAS - DRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Hugh John Thomas o Huw’s Executive Travel, 7A Heol y Mynydd, y Bryn, Llanelli am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor o ran Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat ar gyfer ei gerbyd hurio preifat PH517, sef Ford Galaxy â'r rhif cofrestru HK67 FLX.

 

Gan fod Mr Thomas yn bwriadu defnyddio'r cerbyd hwn ar gyfer gwasanaeth cludo pobl i/o feysydd awyr/porthladdoedd a gwasanaeth hurio dethol yn unig, roedd wedi gofyn am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor ar gyfer Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat, sef na fyddai'n ofynnol iddo arddangos sticeri ar y drysau na phlât trwyddedu ar y bympar ôl.

 

Petai'r Pwyllgor Trwyddedu yn cytuno i ganiatáu i Mr Thomas gael ei heithrio, yna byddai'r amodau canlynol yn cael eu rhoi ynghlwm wrth y drwydded:-

 

-       Bod y Ford Galaxy PH517 trwyddedig â'r rhif cofrestru HK67 FLX yn cael ei eithrio o amodau trwyddedu 5a a 5b tra bo'n cael ei ddefnyddio at ddibenion gwasanaeth cludo i/o feysydd awyr/porthladdoedd a gwasanaeth hurio dethol, fel yr amlinellwyd yn y cais gan Mr Thomas;

-       Petai'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hurio preifat, yn hytrach na gwasanaeth cludo i/o feysydd awyr a phorthladdoedd a gwasanaeth hurio dethol, bod yr ymgeisydd yn rhoi gwybod ar unwaith i'r Awdurdod Trwyddedu a bod yr eithriad yn darfod o ran dibenion hurio o'r fath;

-       Bod y cerbyd yn arddangos disg adnabod ar y ffenestr flaen a'r ffenestr ôl, fel y pennwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Hugh John Thomas o Huw’s Executive Travel am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor ar gyfer Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat mewn perthynas â'i Ford Galaxy PH517 â'r rhif cofrestru HK67 FLX, yn amodol ar roi'r amodau a nodwyd uchod ynghlwm wrth y drwydded.

 

5.

MR IAN BARRIE VINSON - CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod cais wedi dod i law gan Mr Ian Barrie Vinson, 16 Tan y Bryn, Porth Tywyn, am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Nodwyd er nad oedd Mr Vinson yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ac nad oedd wedi cysylltu â'r swyddogion i gynnig esboniad ynghylch hynny, ei fod wedi cael gwybod yn y llythyr a oedd yn ei wahodd i'r cyfarfod pe na bai'n bresennol y gallai'r mater gael ei ystyried ac yntau'n absennol

 

PENDERFYNWYD ystyried cais Mr Vinson yn ei absenoldeb

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad gan yr Uwch-Swyddog Trwyddedu a oedd yn rhoi manylion a oedd yn berthnasol i gais Mr Vinson. Argymhellodd fod cais Mr Vinson am drwydded yn cael ei ganiatáu, yn amodol ar atal y drwydded am 7 diwrnod.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod cais Mr Ian Barrie Vinson am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat yn cael ei ganiatáu, ond bod ei drwydded yn cael ei hatal am saith diwrnod.

Y Rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded pe bai'n cael cyfle i ystyried y materion a oedd wedi cael eu dwyn at sylw'r Pwyllgor ac y byddai atal y drwydded am gyfnod byr yn caniatáu i hynny ddigwydd.

 

6.

MR MARK EDWARD JOHN - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

(SYLWER: Gadawodd y Cynghorwyr W.T. Evans ac E. Williams, a oedd wedi datgan buddiant yn y cais hwn, Siambr y Cyngor tra bod y Pwyllgor yn ei ystyried)

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod cais wedi dod i law gan Mr Mark Edward John, Cedars, Bryn Hyfryd, Llangynnwr, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Nododd fod Mr John wedi hysbysu swyddogion drwy e-bost na fyddai'n bresennol. Gan roi sylw i'r uchod

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL benderfynu ar gais Mr John yn ei absenoldeb

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad gan yr Uwch-Swyddog Trwyddedu a oedd yn rhoi manylion a oedd yn berthnasol i gais Mr John. Argymhellodd fod cais Mr John am drwydded yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, wrthod cais Mr Mark Edward John am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Y Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon nad oedd yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

7.

MR SIMON ALLEN BATTEN - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

(SYLWER: Gan fod y Cynghorydd W.T. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes, nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod tra trafodid yr eitem hon.)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Simon Allen Batten, 24 Heol y Bragdy, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Batten ynghylch ei gais. Roedd hefyd wedi cael sylwadau gan gynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys a oedd yn cadarnhau manylion a oedd yn berthnasol i ddatgeliadau DBS Mr Batten.

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu ei fod wedi cael sawl eitem o ohebiaeth a oedd yn rhoi geirda ar gyfer Mr Batten. Argymhellodd fod cais Mr Batten yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Simon Allen Batten am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

8.

PENODI AELODAU I EISTEDD AR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU 2019-20 pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar ddarpariaethau Deddf Trwyddedu 2003 a roddai fanylion ynghylch aelodaeth arfaethedig Is-bwyllgorau Trwyddedu "A" a "B" ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2019/20

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai aelodaeth Is-bwyllgorau Trwyddedu "A" a "B" am Flwyddyn y Cyngor 2019/20 fel a ganlyn:

 

Is-bwyllgor Trwyddedu "A”

Y Cynghorwyr Fozia Akhtar, Mansel Charles, Ann Davies, Amanda Fox, Ken Howell, Jim Jones ac Elwyn Williams.

 

Is-bwyllgor Trwyddedu B”

Y Cynghorwyr Penny Edwards, Tyssul Evans, Irfon Jones, Andre McPherson, Susan Phillips, Edward Thomas ac Eirwyn Williams.

 

9.

PENODI CADEIRYDDION YR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2019/20

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr enwebiadau am Gadeiryddion yr Is-bwyllgorau Trwyddedu am Flwyddyn y Cyngor 2019/20.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

9.1

Penodi'r Cynghorydd M. Charles yn Gadeirydd Is-bwyllgor Trwyddedu "A" am Flwyddyn y Cyngor 2019/20.

9.2

Penodi'r Cynghorydd H.I. Jones yn Gadeirydd Is-bwyllgor Trwyddedu "B" am Flwyddyn y Cyngor 2019/20.

 

 

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "B" A GYNHALIWYD AR 26AIN MAWRTH, 2019 pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu "B" a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2019, gan eu bod yn gywir.

 

11.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 3YDD EBRILL, 2019 pdf eicon PDF 128 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2019 gan eu bod yn gofnod cywir.