Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mercher, 3ydd Ebrill, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Jenkins  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Elwyn Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Math o Fuddiant

E.Thomas

5                     

Mae'n adnabod yr ymgeisydd.

 

3.

CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR ALAN LEE RAVENHILL-PATTERSON pdf eicon PDF 139 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Alan Lee Ravenhill-Patterson ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Ravenhill-Patterson yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr Alan Lee Ravenhill-Patterson yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

4.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MRS ERIKA PROBERT-GARTHWAITE pdf eicon PDF 139 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mrs Erika Probert-Garthwaite ynghylch ei chais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mrs Probert Garthwaite yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mrs Erika Probert-Garthwaite am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddi ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.

 

Y RHESYMAU :

 

O ystyried y dystiolaeth a roddwyd gerbron y Pwyllgor, roedd yn fodlon ar yr esboniad a roddwyd gan yr ymgeisydd ynghylch ei chollfarnau blaenorol yn ogystal â'r ffaith ei bod wedi bod heb gollfarnau ers 7 mlynedd. 

 

 

5.

TRYWDDED YRRU HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 135 KB

Cofnodion:

 

 

(NODER: Roedd y Cynghorydd E. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y Siambr tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod.)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr John Wilkinson o wasanaeth Llandeilo Taxi, Kings Lodge, Llandeilo am gael ei eithrio o amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor o ran Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat ar gyfer ei Gerbyd Hurio Preifat PH580, sef Ford Mondeo Vignale rhif cofrestru MX19 VBE.

 

Gan ei fod yn bwriadu defnyddio'r cerbyd hwn ar gyfer gwasanaeth cludo pobl i/o feysydd awyr/porthladdoedd a gwasanaeth hurio dethol yn unig, yr oedd Mr Wilkinson wedi gofyn am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor ar gyfer Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat, sef na fyddai'n ofynnol iddo arddangos sticeri ar y drysau na phlât trwyddedu ar y bympar ôl.

 

Petai'r Pwyllgor Trwyddedu yn cytuno i ganiatáu i Mr Wilkinson gael ei eithrio, yna byddai'r amodau canlynol yn cael eu rhoi ynghlwm wrth y Drwydded:-

 

-        bod y Ford Mondeo Vignale PH399 trwyddedig sydd â'r rhif cofrestru MX19 VBE yn cael ei eithrio o amodau trwyddedu 5a a 5b tra bo'n cael ei ddefnyddio at ddibenion gwasanaeth cludo i/o feysydd awyr/porthladdoedd a gwasanaeth hurio dethol, fel yr amlinellwyd yn y cais gan Mr Wilkinson;

-        Petai'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hurio preifat, yn hytrach na gwasanaeth cludo i/o feysydd awyr a phorthladdoedd a gwasanaeth hurio dethol, bod yr ymgeisydd yn rhoi gwybod ar unwaith i'r Awdurdod Trwyddedu a bod yr eithriad yn darfod o ran dibenion hurio o'r fath;

-        Bod y cerbyd yn arddangos disg adnabod ar y ffenestr flaen a'r ffenestr ôl, fel y pennwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Michael John Wilkinson am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor ar gyfer Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat mewn perthynas â'i Ford Mondeo Vignale PH399, rhif cofrestru MX19 VBE.

 

 

6.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD IS BWYLLGOR "A" A GYNHALIWYD AR 26AIN O CHWEFROR 2019 pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'A' a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2019, gan eu bod yn gywir.

 

7.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR Y 18FED O CHWEFROR 2019 pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2019 gan eu bod yn gofnod cywir.