Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd A. McPherson a'r Cynghorydd S. Phillips.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MISS JADE MARIE JONES PDF 122 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Miss Jade Marie Jones, 50 Caergar, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Miss Jones ynghylch ei chais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Miss Jones yn cael ei ganiatáu a'i bod yn cael rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Miss Jade Marie Jones am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddi ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.
Y rhesymau Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|
Cofnodion: Gan nad oedd Mr Ravenhill-Patterson yn bresennol, gofynnodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu am ohirio ystyried y cais.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried cais Mr Alan Lee Ravenhill-Patterson am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan y cyfarfod nesaf.
|
|
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR MARK ANTHONY LLOYD PDF 122 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Mark Anthony Lloys, 13 Maes y Deri, Pontyberem, Llanelli, am drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Lloyd ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Lloyd yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Mark Anthony Lloyd am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Y rhesymau Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|
TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR REGINALD JOHN PROTHEROE PDF 122 KB Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Reginald John Protheroe o 14 Maes Penrhyn, Llanelli, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Protheroe ynghylch y mater hwnnw.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Protheroe yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr Reginald John Protheroe yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Y rhesymau Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR RICHARD GORDON JONES PDF 123 KB Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor gais gan Mr Richard Gordon Jones, 89 Waun Burgess, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Jones ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog .
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Jones yn cael ei wrthod.
Ar hynny
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, wrthod cais Mr Richard Gordon Jones am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Y rhesymau Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, atebion yr ymgeisydd i'r Pwyllgor a'r ffeithiau a gyfaddefwyd ganddo, roedd y Pwyllgor o'r farn nad oedd yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar ôl Cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu ar 8 Ionawr 2019, rhoddwyd gwybod i'r aelodau am bapur ymgynghori diweddar gan Lywodraeth Cymru o'r enw "Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus".
Papur Gwyn Llywodraeth Cymru yw hwn ynghylch cynigion i ddeddfu o ran diwygio'r modd y mae gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu cynllunio a'u darparu a'r modd y mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn cael eu trwyddedu.
Roedd rhan o'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn ynghylch cynigion mewn perthynas â diwygio Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat. Roedd hyn yn cynnwys y cynnig i ailgyfeirio'r holl swyddogaethau presennol o ran trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat o'r awdurdodau lleol i awdurdod trwyddedu cenedlaethol, Cyd-awdurdod Trafnidiaeth.
Roedd yn ofynnol i'r aelodau ymateb i Gwestiwn 22 i Gwestiwn 38.
Yn ystod y cyfarfod cafodd yr Aelodau ymatebion drafft yr Awdurdod i'r cwestiynau. Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion a ddarparwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Diolchodd y Pwyllgor i'r Swyddogion am lunio'r adroddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r ymatebion i Gwestiwn 22 i Gwestiwn 38 yn amodol ar y canlynol:
8.1 Cwestiwn 33 - ychwanegu y byddai plwyfoldeb yn cael ei golli pe byddai Cyd-awdurdod Trafnidiaeth yn cael ei greu. 8.2 Cwestiwn 37 - ychwanegu y teimlwyd hefyd pe byddai Cyd-awdurdod Trafnidiaeth yn cael ei sefydlu, byddai'n rhaid ei leoli mewn ardal Gymraeg ei hiaith. 8.3 Cwestiwn 38 - ychwanegu dim manylion ynghylch lleoliad y Cyd-awdurdod Trafnidiaeth.
|
|
DEDDF TRWYDDEDU 2003 CAIS YN YMWNEUD Â DOSBARTHIAD FFILM PDF 126 KB Cofnodion: [Sylwer: Cafodd y Pwyllgor 15 munud o egwyl am 12:15pm, cyn ailgynnull am 12.30pm.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gafwyd gan Mrs Mair Craig, ar ran Ystafelloedd Darllen Llansadwrn, yn gofyn am argymhelliad ynghylch caniatáu i blant wylio pedair ffilm fer a oedd yn ddiddosbarth yn flaenorol.
Bwriad yr ymgeisydd oedd arddangos pedair ffilm "Swci Delic - The Accidental Artist", "Bright Lights", "Deffro" ac "A Thousand Ukeleles" cyn dangos ffilm dystysgrifedig yn y sinema gymunedol. Yn ogystal, yr oedd y safle'n bwriadu gweithredu'r sinema gymunedol o dan yr esemptiadau safle cymunedol a nodir ym mharagraff 6A o Atodlen 1 i Ddeddf Trwyddedu 2003.
Nododd y Pwyllgor y dylai'r ffilmiau a ddangosir gael argymhelliad ynghylch caniatáu i blant eu gwylio, a roddwyd naill ai gan gorff Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain neu gan yr Awdurdod Trwyddedu perthnasol, a hynny er mwyn bodloni gofynion Deddf Trwyddedu 2003.
Er mwyn galluogi'r Pwyllgor i wneud yr argymhellion gofynnol ynghylch caniatáu i blant wylio'r ffilmiau, cafodd gyfle i wylio'r pedair ffilm fer gan roi ystyriaeth i'r canllawiau ynghylch y graddau oedran a luniwyd gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain.
Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd gerbron,
PENDERFYNWYD gan y Pwyllgor
9.1 byddai “Swci Delic – The Accidental Artist” yn mynd yng nghategori 'Cyfarwyddyd Rhieni'; 9.2 byddai "Bright Lights” yn cael ei hystyried yn addas i bobl dros 12 oed yng nghwmni oedolyn; 9.3 byddai “Deffro” yn cael ei hystyried yn addas i bobl dros 12 oed; 9.3 byddai "A Thousand Ukeleles" yn cael ei hystyried yn ffilm sy'n addas i bob oed (U).
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'A' a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2019, gan eu bod yn gywir.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2019 gan eu bod yn gofnod cywir.
|