Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T.J. Jones, J.S. Phillips a E. Williams. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
ATAL TRWYDDED CERBYD HACNAI HC 917 - CERBYD Â'R RHIF COFRESTRU CP59 KYV PDF 184 KB Cofnodion: Yn unol â chofnod 9 o'i gyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi, 2019 rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr John Keith Rees o Llan Taxis, 19 Zion Row, Llanelli wedi bod yn defnyddio Cerbyd Hacnai HC 917, Rhif Cofrestru CP59 KYV, yn groes i Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hacnai.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Rees ynghylch y mater hwnnw. Roedd Mr Rees yng nghwmni ei wraig a roddodd wybod i'r Pwyllgor am yr amgylchiadau o ran un o'r achosion o dorri amodau dan sylw, fel yr amlinellwyd gan Mr Rees.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Trwydded Cerbyd Hacnai Mr Rees sef trwydded HC917 yn cael ei hatal am 14 diwrnod.
Ar hynny:
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD peidio ag atal Trwydded Cerbyd Hacnai Mr Rees sef trwydded HC917, ond bod Mr Rees yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
MR BENJAMIN JONES - CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 181 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Benjamin Jones o Fflat 4 Ravenhall, Duncan Street, Talacharn am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Jones ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Jones yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Ar hynny:
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Benjamin Jones am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
MR MATTHEW PEGRAM - CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 182 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Matthew Pegram o 16 Plas Isaf, Llangennech am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Pegram ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Pegram yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Ar hynny:
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Matthew Pegram am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
MR AARON LEE COELHO - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 182 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Aaron Lee Coelho o 4 Heol Gwendraeth, Porth Tywyn, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr. Coelho ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Coelho yn cael ei wrthod.
Ar hynny
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD ganiatáu cais Mr Coelho am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Rhesymau Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|
MR PAUL ANTHONY DAVIES - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 205 KB Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor wybod fod cais wedi dod i law gan Mr Davies, ar ôl i agenda'r cyfarfod gael ei ddosbarthu, yn gofyn am i'w gais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gael ei ohirio tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 6 Rhagfyr 2019.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, ar gais yr ymgeisydd, ohirio ystyried cais Mr Paul Anthony Davies am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 6 Rhagfyr 2019.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu "B" a gynhaliwyd ar 10 Medi 2019, gan eu bod yn gywir.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu "A" a gynhaliwyd ar 25 Medi 2019, gan eu bod yn gywir.
|
|
Cofnodion: Bu aelodau'r Pwyllgor yn ystyried cofnodion ei gyfarfod ar 12 Medi a nodwyd nad oedd yr ymddiheuriadau a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr P. Edwards a C.A. Davies wedi'u cofnodi.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 12 Medi 2019, gan eu bod yn gywir, yn amodol ar gynnwys y Cynghorwyr P. Edwards a C.A. Davies yn y rhestr o ymddiheuriadau a dderbyniwyd.
|