Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H. I. Jones a D. E. Williams.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
IECHYD Y CYHOEDD (ISAFBRIS AM ALCOHOL) (CYMRU) PDF 184 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mr David Jones, Cydgysylltydd Cenedlaethol Safonau Masnach, i'r cyfarfod.
Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad a oedd yn rhoi trosolwg o Ddeddfwriaeth Iechyd y Cyhoedd (Yr Isafbris ar gyfer Alcohol) (Cymru). Roedd y pwyntiau allweddol dan sylw yn cynnwys:
· Y rhesymau dros y ddeddfwriaeth · Cefndir y polisi · Buddion disgwyliedig · Yr adeiladau sy'n cael eu targedu · Pwerau gorfodi · Cyflawni Rhaglenni
Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|
MR MARK MORRIS SMITH - CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 182 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Mark Morris Smith o 6 Stryd Cadifor, Caerfyrddin am adnewyddu Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Smith ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Smith yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Mark Morris Smith am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. |
|
MR LESLIE ALBERT SYDNEY CURLE - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 181 KB Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor wybod gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu nad oedd Mr Leslie Albert Sydney Curle yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod a gofynnwyd am ohirio ystyried y cais.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried cais gan Mr Leslie Albert Sydney Curle am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan y cyfarfod nesaf. |
|
MR JAMES THOMAS HEALEY - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 182 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr James Thomas Healey o Cilsaig Farm, Dafen, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Healey ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Healey yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Healey am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. |
|
MR DAVID KENNETH JONES - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 182 KB Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr David Kenneth Jones o 37 Heol Pontarddulais, T?-croes, Rhydaman, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Jones ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Trwydded Yrru Ddeuol Mr Jones ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat yn cael ei hatal am 14 diwrnod.
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD peidio ag atal cais Mr David Kenneth Jones am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat, ond bod rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol yn cael ei roi i Mr Jones.
Y Rheswm Ar sail y dystiolaeth a roddwyd, yr oedd y Pwyllgor wedi'i argyhoeddi nad oedd achos rhesymol dros atal y drwydded. |
|
MR STEVE ANTONY WILLIAMS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 182 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Steve Antony Williams o 110 y Stryd Fawr, Rhydaman am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Williams ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Williams yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Williams am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. |
|
MR RHYDIAN WYN GRIFFITHS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 182 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Rhydian Wyn Griffiths o Fryn Hawddgar, Nant-y-caws, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Griffiths, a oedd yng nghwmni ei gyfreithiwr ac yn cael ei gynrychioli ganddo, ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Griffiths yn cael ei wrthod.
Ar hynny
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Griffiths am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Y Rheswm Ar sail y dystiolaeth a roddwyd, yr oedd y Pwyllgor wedi'i argyhoeddi bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded. |
|
MR ALBERT BLEDDYN DAVISON - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 182 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Albert Bleddyn Davison o 3 Heol D?r Fach, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davison ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Davison yn cael ei wrthod.
Roedd y Pwyllgor o'r farn bod angen rhagor o wybodaeth ynghylch y dystiolaeth a ddarparwyd. Ar hynny
PENDERFYNWYD gohirio ystyried cais Mr Davison am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a'i gyflwyno gerbron un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol. |
|
COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 23AIN HYDREF, 2019. PDF 125 KB Cofnodion: Bu aelodau'r Pwyllgor yn ystyried cofnodion ei gyfarfod ar 23 Hydref 2019 a nodwyd nad oedd yr ymddiheuriad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd J.S. Phillips wedi'i gofnodi.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2019 yn gywir, yn amodol ar gynnwys ymddiheuriad y Cynghorydd J.S. Phillips yn y rhestr o ymddiheuriadau am absenoldeb. |