Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Jenkins 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr M. Charles, A. Fox, J. Jones a E. Williams.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Miss Karen May Stratford o 73 Heol Llwchwr, Rhydaman am adnewyddu ei Thrwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Miss Stratford ynghylch ei chais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Miss Stratford yn cael ei ganiatáu a'i bod yn cael rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.
Ar hynny:
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Miss Karen May Stratford i adnewyddu ei Thrwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddi ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.
|
|
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Kevin Thomas Brigden o 14 Pantycelyn, Llanymddyfri am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Brigden ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr. Brigden yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Ar hynny:
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Kevin Thomas Brigden am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Thomas Ieuan Morgan o 164 Heol Felinfoel, Llanelli am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Morgan ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr. Morgan yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Ar hynny:
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Thomas Ieuan Morgan am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
MR GLYNDWR PHILLIPS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 182 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Glyndwr Phillips o 50 Heol y Gwyddau, Caerfyrddin am ganiatáu Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr. Phillips ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr. Phillips yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Ar hynny
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Glyndwr Phillips am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
MR UMAAR BIN HAMEED - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 182 KB Cofnodion: Hysbyswyd y Pwyllgor fod yr awdurdod wedi rhoi Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat i Mr. Umaar Bin Hameed o Fflat 2, 27 Heol Picton, Caerfyrddin, a bod dau g?yn wedi dod i law ynghylch ei yrru.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Hameed ynghylch y cwynion a ddaeth i law.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr. Hameed yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD rhoi rhybudd terfynol i Mr Hameed ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Rhesymau Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|
ATAL TRWYDDED CERBYD HACNAI HC 415 - CERBYD Â'R RHIF COFRESTRU AK60 GWL PDF 184 KB Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor fod Mr Anthony John Wathan, o Towy Taxi’s, 22 Rhodfa Tywi, Llanymddyfri, wedi bod yn defnyddio Cerbyd Hacnai HC 415 Rhif Cofrestru AK60 GWL yn groes i Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hacnai.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Wathen ynghylch y mater hwnnw.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog fod Trwydded Cerbyd Hacnai Mr Wathan sef trwydded HC415 yn cael ei hatal am 14 diwrnod.
Ar hynny:
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD bod Mr Anthony John Wathan yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
(NODER: Yn unol â Rheol CPR 16.5, gofynnodd y Cynghorydd K Howells am i'r cofnodion nodi ei fod wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig).
|
|
ATAL TRWYDDED CERBYD HACNAI HC 917 - CERBYD Â'R RHIF COFRESTRU CP59 KYV PDF 184 KB Cofnodion: Hysbyswyd y Pwyllgor nad oedd Mr John Keith Rees yn bresennol ac nad oedd wedi cysylltu â'r swyddogion i roi gwybod iddynt ei fwriad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried atal trwydded Mr Rees tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.
|
|
IECHYD Y CYHOEDD (ISAFBRIS AM ALCOHOL) (CYMRU) PDF 318 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor grynodeb o'r adroddiad gan yr Arweinydd Trwyddedu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'B' a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2019, gan eu bod yn gywir.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2019, gan eu bod yn gywir.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'A' a gynhaliwyd ar 20 Awst 2019, gan eu bod yn gywir.
|