Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Jenkins  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr M. Charles, A. Fox, J. Jones a E. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

MISS KAREN MAY STRATFORD - CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Miss Karen May Stratford o 73 Heol Llwchwr, Rhydaman am adnewyddu ei Thrwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Miss Stratford ynghylch ei chais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Miss Stratford yn cael ei ganiatáu a'i bod yn cael rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Miss Karen May Stratford i adnewyddu ei Thrwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddi ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.

 

 

4.

MR KEVIN THOMAS BRIGDEN - CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Kevin Thomas Brigden o 14 Pantycelyn, Llanymddyfri am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Brigden ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr. Brigden yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Kevin Thomas Brigden am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

5.

MR THOMAS IEUAN MORGAN - CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Thomas Ieuan Morgan o 164 Heol Felinfoel, Llanelli am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Morgan ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr. Morgan yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais  Mr Thomas Ieuan Morgan am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

6.

MR GLYNDWR PHILLIPS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Glyndwr Phillips o 50 Heol y Gwyddau, Caerfyrddin am ganiatáu Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr. Phillips ynghylch ei gais. 

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr. Phillips yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Glyndwr Phillips am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

7.

MR UMAAR BIN HAMEED - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

Hysbyswyd y Pwyllgor fod yr awdurdod wedi rhoi Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat i Mr. Umaar Bin Hameed o Fflat 2, 27 Heol Picton, Caerfyrddin, a bod dau g?yn wedi dod i law ynghylch ei yrru.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Hameed ynghylch y cwynion a ddaeth i law.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr. Hameed yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD rhoi rhybudd terfynol i Mr Hameed ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

 

 

8.

ATAL TRWYDDED CERBYD HACNAI HC 415 - CERBYD Â'R RHIF COFRESTRU AK60 GWL pdf eicon PDF 184 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor fod Mr Anthony John Wathan, o Towy Taxi’s, 22 Rhodfa Tywi, Llanymddyfri, wedi bod yn defnyddio Cerbyd Hacnai HC 415 Rhif Cofrestru AK60 GWL yn groes i Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hacnai.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Wathen ynghylch y mater hwnnw.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog fod Trwydded Cerbyd Hacnai Mr Wathan  sef trwydded HC415 yn cael ei hatal am 14 diwrnod.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD bod Mr Anthony John Wathan yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

(NODER: Yn unol â Rheol CPR 16.5, gofynnodd y Cynghorydd K Howells am i'r cofnodion nodi ei fod wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig).

 

 

 

9.

ATAL TRWYDDED CERBYD HACNAI HC 917 - CERBYD Â'R RHIF COFRESTRU CP59 KYV pdf eicon PDF 184 KB

Cofnodion:

Hysbyswyd y Pwyllgor nad oedd Mr John Keith Rees yn bresennol ac nad oedd wedi cysylltu â'r swyddogion i roi gwybod iddynt ei fwriad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried atal trwydded Mr Rees tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

 

10.

IECHYD Y CYHOEDD (ISAFBRIS AM ALCOHOL) (CYMRU) pdf eicon PDF 318 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor grynodeb o'r adroddiad gan yr Arweinydd Trwyddedu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

11.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "B" A GYNHALIWYD AR 18FED O FEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 306 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'B' a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2019, gan eu bod yn gywir.

 

 

12.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 26AIN MEHEFIN 2019. pdf eicon PDF 215 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2019, gan eu bod yn gywir.

 

 

13.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "A" A GYNHALIWYD AR 20FED AWST, 2019. pdf eicon PDF 210 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'A' a gynhaliwyd ar 20 Awst 2019, gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau