Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, R.E. Evans, a C.A. Davies.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MISS JADE MARIE JONES. pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wrth y Pwyllgor fod Miss Jones wedi rhoi gwybod i'r swyddogion nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried cais Miss Jade Marie Jones am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan y cyfarfod nesaf.

 

4.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR NIGEL ANDREW NOBES. pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Nigel Andrew Nobes, 7 Heol y Bont, Castellnewydd Emlyn am drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Nobes ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Nobes yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Pwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Nigel Andrew Nobes am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

 

 

 

 

5.

DEDDF TRWYDDEDU 2003 CAIS YN YMWNEUD Â DOSBARTHIAD FFILM. pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gafwyd gan Mrs Mair Craig, ar ran Ystafelloedd Darllen Llansadwrn, yn gofyn am argymhelliad ynghylch caniatáu i blant wylio tair ffilm fer a oedd yn ddi-ddosbarth yn flaenorol.

 

Roedd yr ymgeisydd yn bwriadu dangos y tair ffilm sef “Arctig - Môr o Blastig”, “Le Kov - Gwenno” a “The Last Little Show at the End of the Earth” cyn dangos ffilm dystysgrifedig yn y sinema gymunedol. Yn ogystal, roedd y safle'n bwriadu gweithredu'r sinema gymunedol o dan yr esemptiadau safle cymunedol a nodir ym mharagraff 6A o Atodlen 1 i Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Nododd y Pwyllgor y dylai'r ffilmiau a ddangosir gael argymhelliad ynghylch caniatáu i blant eu gwylio, a roddwyd naill ai gan gorff Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain neu gan yr Awdurdod Trwyddedu perthnasol, a hynny er mwyn bodloni gofynion Deddf Trwyddedu 2003. 

 

Er mwyn galluogi'r Pwyllgor i wneud yr argymelliadau gofynnol ynghylch caniatáu i blant wylio'r ffilmiau, cafodd gyfle i wylio'r tair ffilm fer gan roi ystyriaeth i'r canllawiau ynghylch y graddau oedran a luniwyd gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain.

 

Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd gerbron,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Pwyllgor

 

5.1    y dylai'r ffilm “Arctig - Môr o Blastig” gael ei hystyried yn ffilm sydd dan gyfarwyddyd rhiant (PG);

5.2    y dylai'r ffilm “Le Kov - Gwenno” gael ei hystyried yn ffilm sy'n addas i bob oed (U);

5.3    y dylai'r ffilm “The Last Little Show at the End of the Earth” gael ei hystyried yn ffilm sy'n addas i bob oed (U).

 

 

6.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 6ED RHAGFYR 2018. pdf eicon PDF 127 KB

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 6 RHAGFYR 2018 yn gofnod cywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau