Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies a C.A. Davies.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR ABDUL LAICE CHOWDHURY. pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Abul Laice Chowdhury, 26 Stryd Coldstream, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â  Mr Chowdhury ynghylch ei gais. 

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Chowdhury yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Abul Laice Chowdhury am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

Rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

4.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR BERNARD PRICE. pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Bernard Price, 159 Trilwm, Trimsaran, Cydweli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Price ynghylch ei gais. 

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Price yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Bernard Price am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

Rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

5.

CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR RICHARD JAKE PITMAN. pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Richard Jake Pitman, 19 Zion Row, Llanelli i adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Pitman ynghylch ei gais. 

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Pitman yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Richard Jake Pitman am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd llym iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

Rhesymau

Ar ôl ystyried y ffeithiau a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor o'r farn bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded. Fodd bynnag, rhybuddiodd y Pwyllgor yr ymgeisydd petai unrhyw gollfarnau neu faterion yn codi mewn perthynas â'i drwydded yn y dyfodol, y gallai ei drwydded gael ei dirymu.

 

 

6.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "A" A GYNHALIWYD AR 9FED AWST, 2017. pdf eicon PDF 314 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu ‘A’ a gynhaliwyd ar 9 Awst, 2017, gan eu bod yn gywir.

 

7.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 3YDD AWST, 2017. pdf eicon PDF 310 KB

Cofnodion:

Cafodd aelodau'r Pwyllgor, er ystyriaeth, gofnodion cyfarfod 3 Awst, 2017 a rhoddwyd gwybod iddynt am y newidiadau canlynol i'r cofnodion:

 

-       Cofnod 1 - Ymddiheuriadau am Absenoldeb – Y Cynghorydd J.E. Williams i'w gynnwys yn y rhestr o ymddiheuriadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar y newidiadau uchod, lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Awst 2017 yn gofnod cywir.

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau