Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Llun, 19eg Chwefror, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies ac R. Evans.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ymddiheuriad y Cynghorydd Davies a dymunodd yn dda iddo ar ran y Pwyllgor.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

E. Williams

6. – Mr Jason Owen Jenkins – Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat

Mae'r ymgeisydd yn byw yn ei ward

 

 

3.

MR DAFYDD WILLIAM RHYS EVANS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 139 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Dafydd William Rhys Evans o 3 Maesybedw, Boncath am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Evans ynghylch ei gais. 

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Evans yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Dafydd William Rhys Evans am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

 

4.

MR RUSSELL ALAN HOWE - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wrth y Pwyllgor fod gohebiaeth wedi dod i law gan Mr Howe yn nodi nad oedd yn gallu dod i'r gwrandawiad, ond ei fod yn rhoi caniatâd i'w gais gael ei ystyried yn ei absenoldeb, pe bai'r Pwyllgor am wneud hynny.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried cais Mr Russel Alan Howe am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan y cyfarfod nesaf.

 

 

5.

MISS CLAIRE LOUISE WHITEHEAD - CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 138 KB

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 4 o'i gyfarfod ar 7 Rhagfyr 2017, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan Miss Claire Louise Whitehead o 37 Caeglas, Llanelli am adnewyddu ei Thrwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Miss Whitehead ynghylch ei chais am adnewyddu ei thrwydded.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Miss Whitehead am adnewyddu ei thrwydded yn cael ei ganiatáu a'i bod yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.

 

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Pwyllgor yn cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi eu penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Miss Claire Louise Whitehead am adnewyddu ei Thrwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddi ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.

 

 

6.

MR JASON OWEN JENKINS - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon gan fod yr ymgeisydd yn byw yn ei ward. Gadawodd y cyfarfod tra bo'r Pwyllgor yn penderfynu ar yr eitem hon.)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Jason Owen Jenkins o 12 Llysmorfa, Llangynnwr, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Jenkins ynghylch y mater hwnnw.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Jenkins yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi eu penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD bod Mr Jason Owen Jenkins yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y RHESYMAU:

Ar ôl clywed yr holl dystiolaeth, gwnaeth y Pwyllgor y casgliadau canlynol yn seiliedig ar ffeithiau (yn ôl yr hyn oedd yn debygol):-  

 

1.    Eich bod yn yrrwr tacsi trwyddedig gyda'r Awdurdod

2.    Eich bod wedi bod yn yrrwr tacsi trwyddedig ers 1998

3.    Eich bod ar 18 Awst 2011, 27 Medi 2016 a 20 Tachwedd 2017, wedi defnyddio iaith fras a sarhaus tuag at aelodau o'r cyhoedd

 

 

Ar ôl penderfynu, yn ôl yr hyn oedd yn debygol, eich bod wedi defnyddio iaith fras a sarhaus tuag at aelodau o'r cyhoedd, mae'r Pwyllgor wedi penderfynu y dylech gael rhybudd terfynol ynghylch eich ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

7.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "B" A GYNHALIWYD AR 29AIN TACHWEDD, 2017. pdf eicon PDF 234 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'B' a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2017, gan eu bod yn gywir.

 

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "B" A GYNHALIWYD AR 25AIN IONAWR, 2018 pdf eicon PDF 124 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'B' a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2018, gan eu bod yn gywir.

 

 

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "A" A GYNHALIWYD AR 12FED RHAGFYR, 2017. pdf eicon PDF 159 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'A' a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2017, gan eu bod yn gywir.

 

 

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 7FED RHAGFYR, 2017. pdf eicon PDF 154 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2017, gan eu bod yn gywir.