Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU A MATERION ERAILL

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C.A. Davies a J.Prosser. 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth y Cynghorydd Alun Davies, a oedd yn aelod o'r Pwyllgor Trwyddedu.  Cafodd y Pwyllgor funud o dawelwch er cof amdano. 

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

H.I. Jones

3. Cais am drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat - Mr Edward John Paul Clarke

Mae'n adnabod yr ymgeisydd.

 

 

3.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR EDWARD JOHN PAUL CLARKE. pdf eicon PDF 139 KB

Cofnodion:

[NODER:  Gan fod y Cynghorydd H.I. Jones wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Edward John Paul Clarke o 3 Llys Gwalia, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor a chynrychiolydd yr Heddlu yn cyfweld â Mr Clarke o ran ei gais.  

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr. Clarke yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Edward John Paul Clarke am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

Y rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

 

4.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR RICHARD LEE JONES. pdf eicon PDF 139 KB

Cofnodion:

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wrth y Pwyllgor nad oedd Mr Jones yn bresennol ac nad oedd wedi cysylltu â swyddogion gydag esboniad.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried cais Mr Richard Lee Jones am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

 

5.

CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR IAN BARRIE VINSON. pdf eicon PDF 138 KB

Cofnodion:

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wrth y Pwyllgor fod Mr Vinson wedi cysylltu â swyddogion cyn y cyfarfod i esbonio ei fod yn Neuadd y Dref yn Llanelli, roedd wedi gwneud camgymeriad a thybio bod y cyfarfod yn cael ei gynnal yno.  Yn anffodus, ni fyddai'n gallu cyrraedd Caerfyrddin mewn da bryd.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried cais Mr Ian Barrie Vinson am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan y cyfarfod nesaf.

 

 

 

6.

TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR STUART KEITH PHILLIPS. pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor bod y cais hwn wedi cael ei ohirio yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai, 2018 (cofnod 8) gan nad oedd Mr Phillips yn gallu bod yn bresennol.  Nododd y Pwyllgor nad oedd Mr Phillips yn bresennol yn y cyfarfod heddiw, fodd bynnag, gan fod ystyriaeth o'r eitem hon eisoes wedi'i gohirio unwaith,

 

PENDERFYNWYD clywed yr achos yn absenoldeb Mr Phillips.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Stuart Keith Phillips o 15 Tir Capel, Llanelli, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.

 

Amlinellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu a chynrychiolydd yr Heddlu fanylion yr achos er mwyn i'r Pwyllgor gael ei ystyried.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu y dylai'r Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat sydd gan Mr Phillips gael ei dirymu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod y drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat sydd gan Mr Stuart Keith Phillips gael ei dirymu.

 

Y rhesymau

Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor o'r farn bod achos rhesymol yn bodoli i ddirymu'r drwydded.

 

 

 

7.

TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR BRIAN JOHN CHILCOTT. pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Brian John Chilcott of 23 Westbury Street, Llanelli yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod.  Roedd trwydded Mr Chilcott yn destun ei adolygiad blynyddol, fodd bynnag, nid oedd wedi darparu'r dogfennau perthnasol er gwaethaf ceisiadau mynych gan swyddogion.  Nid oedd Mr Chilcott yn bresennol, ac nid oedd wedi cysylltu â'r swyddogion i gynnig esboniad ynghylch hynny a'i fod wedi cael gwybod pe na bai'n bresennol yn y cyfarfod heddiw y gallai'r mater gael ei ystyried ac yntau'n absennol.  Felly

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn ystyried y cais yn absenoldeb Mr Chilcott.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu o dan yr amgylchiadau bod y Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat sydd gan Mr Chilcott yn cael ei dirymu.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod y drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat sydd gan Mr Brian John Chilcott yn cael ei dirymu.

 

8.

TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR EDWARD GEORGE HARVEY. pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod yr Awdurdod wedi rhoi Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat i Mr Edward George Harvey, Derby Court, Fflat 1, Stryd y Sycamorwydden, Castellnewydd Emlyn.  Roedd trwydded Harvey yn destun adolygiad blynyddol, fodd bynnag, nid oedd wedi cyflwyno'r dogfennau perthnasol er gwaethaf ceisiadau mynych gan swyddogion.  Nid oedd Mr Harvey yn bresennol yn y cyfarfod, nid oedd wedi cysylltu â'r swyddogion i gynnig esboniad ynghylch hynny a'i fod wedi cael gwybod pe na bai'n bresennol yn y cyfarfod heddiw y gallai'r mater gael ei ystyried ac yntau'n absennol.  Felly

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn ystyried y cais yn absenoldeb Mr Harvey.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu, o dan yr amgylchiadau bod y Drwydded Yrru Ddeuol  ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat sydd gan Mr Harvey yn cael ei dirymu.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod y drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat sydd gan Mr Edward George Harvey yn cael ei dirymu.

 

 

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 24AIN MAI, 2018. pdf eicon PDF 236 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 24 Mai 2018 yn gofnod cywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau