Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar a C.A. Davies.
Cydymdeimlodd y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, â'r Cynghorydd Akhtar yn dilyn marwolaeth drist ei thad yn ddiweddar.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR DERRICK LEWIS. PDF 137 KB Cofnodion:
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Derrick Lewis o 26 Ralph Terrace, Llanelli, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Lewis ynghylch y mater hwnnw.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Lewis yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr. Derick Lewis yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. Y rhesymau Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|
CAIM AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR MICHAEL LEE HOPKINS. PDF 138 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Michael Lee Hopkins o 59 Chemical Road, Treforys, Abertawe am ganiatáu trwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai / hurio preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Hopkins ynghylch ei gais. Darllenwyd geirda gan ddarpar gyflogwr er gwybodaeth i'r Pwyllgor.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Hopkins yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Michael Lee Hopkins am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. Y rhesymau Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR RICHARD LEE JONES. PDF 139 KB Cofnodion: Atgoffwyd y Pwyllgor fod y cais hwn wedi'i ohirio yn y cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 27 Mehefin gan nad oedd Mr Jones yn gallu bod yn bresennol. Roedd Mr Jones wedi cysylltu â swyddogion unwaith eto ynghylch cyfarfod heddiw i ddweud na fyddai'n gallu bod yn bresennol gan ei fod yn mynd i angladd a gofynnodd am ohirio ystyried ei gais tan y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried cais Mr Richard Lee Jones am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan y cyfarfod nesaf.
|
|
CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR IAN BARRIE VINSON. PDF 138 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Ian Barrie Vinson o 16 Tan y Bryn, Porth Tywyn, Llanelli am adnewyddu ei drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Vinson ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr. Vinson yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Ar hynny
PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Ian Barrie Vinson am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd terfynol iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. Y rhesymau Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|
DEILIAD TRWYDDED BERSONOL - CHARLENE LINDA MCKENZIE. PDF 130 KB Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Miss Charlene Linda McKenzie o Awelon, Blaen-waun, Hendy-gwyn ar Daf, yn ddeiliad Trwydded Bersonol gyda'r awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei thrwydded.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Miss McKenzie ynghylch y mater hwnnw a chafwyd sylwadau gan gynrychiolydd yr heddlu.
Argymhellodd yr Arweinydd Trwyddedu fod Trwydded Bersonol Miss McKenzie yn cael ei dirymu.
Ar hynny
PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, bod Trwydded Bersonol Miss Charlene Linda McKenzie yn cael ei hatal am fis. Y rhesymau Wrth benderfynu ar y cais, roedd y Pwyllgor yn rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol.
Roedd y Pwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe nad oedd yn dirymu trwydded bersonol Miss McKenzie, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.
Mae deiliaid Trwydded Bersonol yn elfen allweddol o'r drefn drwyddedu sy'n gyfrifol am sicrhau bod gwerthiant alcohol yn cael ei reoli'n briodol a bod yr amcanion trwyddedu yn cael eu hyrwyddo. Yn benodol, maent yn gyfrifol am sicrhau nad yw gwerthiant alcohol yn arwain at droseddu ac anrhefn.
Dan yr amgylchiadau hyn, roedd y Pwyllgor o'r farn y byddai'n anghymesur (ac felly'n amhriodol) i ddirymu trwydded bersonol Miss McKenzie. Er hynny, roedd y Pwyllgor o'r farn ei bod yn briodol i gymryd camau, (atal y drwydded am gyfnod byr yn yr achos hwn) er mwyn hyrwyddo'r amcan trwyddedu o atal troseddau ac anhrefn.
Roedd y Pwyllgor yn barnu bod y cyfnod hwn o ataliad yn ymateb cymesur i'r materion oedd dan sylw.
[NODER: Gohiriwyd cyfarfod y Pwyllgor am 11:40 a.m. er mwyn galluogi swyddogion i osod yr offer ar gyfer yr eitem agenda nesaf. Roedd y Pwyllgor wedi ailymgynnull am 11:50 a.m.] |
|
DEDDF TRWYDDEDU 2003 - CAIS YN YMWNEUD A DOSBARTHIAD FFILM. PDF 122 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gafwyd gan Mrs Mair Craig, ar ran Ystafelloedd Darllen Llansadwrn, yn gofyn am argymhelliad ynghylch caniatáu i blant wylio pedair ffilm fer a oedd yn ddiddosbarth yn flaenorol.
Roedd yr ymgeisydd yn bwriadu arddangos y pedair ffilm, sef "A Good Bitch”, “The Man Who Was Afraid of Falling”, “Boris-Noris” ac “Elen”, cyn dangos ffilm dystysgrifedig yn y sinema gymunedol. Yn ogystal, roedd y safle'n bwriadu gweithredu'r sinema gymunedol o dan yr esemptiadau safle cymunedol a nodir ym mharagraff 6A o Atodlen 1 i Ddeddf Trwyddedu 2003.
Nododd y Pwyllgor y dylai'r ffilmiau a ddangosir gael argymhelliad ynghylch caniatáu i blant eu gwylio, a roddwyd naill ai gan gorff Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain neu gan yr Awdurdod Trwyddedu perthnasol, a hynny er mwyn bodloni gofynion Deddf Trwyddedu 2003.
Er mwyn galluogi'r Pwyllgor i wneud yr argymelliadau gofynnol ynghylch caniatáu i blant wylio'r ffilmiau, cafodd gyfle i wylio'r pedair ffilm fer gan roi ystyriaeth i'r canllawiau ynghylch y graddau oedran a luniwyd gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain.
Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd gerbron y Pwyllgor
PENDERFYNWYD:
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu "A" a gynhaliwyd ar 19 Mehefin, 2018, gan eu bod yn gywir.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu "B" a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2018, gan eu bod yn gywir.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2018 yn gofnod cywir.
|