Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, P. Edwards a H.I. Jones (sesiwn y prynhawn yn unig).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

MR GARY JOHN INMAN - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Gary John Inman o 85 Bro Einon, Llanybydder, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Inman ynghylch y mater hwnnw

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Inman yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr Gary John Inman yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

4.

MR JOHN MORGAN EVANS - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr John Morgan Evans o 2 Cwrt y Glyn, Carmel, Llanelli, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Evans ynghylch y mater hwnnw.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr. Evans yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr John Morgan Evans yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

5.

MR ADAM LEE PRICE - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor gais gan Mr Adam Lee Price o 15 Teras Parc y Sgubor, Caerfyrddin am drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Price ynghylch ei gais. Hefyd cafodd y Pwyllgor sylwadau gan ddarpar gyflogwr o blaid cais Mr Price.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Price yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Adam Lee Price am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

6.

MR SONNY JOEL HUDYMA-BILTON - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor gais gan Mr Sonny Joel Hudyma-Bilton o 13 Clos Gwili, Cwmgwili, Caerfyrddin am drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Hudyma-Bilton ynghylch ei gais. Hefyd cafodd y Pwyllgor sylwadau gan ddarpar gyflogwr o blaid cais Mr Hudyma-Bilton.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Hudyma-Bilton yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Sonny Joel Hudyma-Bilton am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

7.

MR KEITH THOMAS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais Mr Keith Thomas, 44 Coedlan y Graig, Llanelli am drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Thomas ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Thomas yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Keith Thomas am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

8.

MR STUART KEITH PHILLIPS - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Stuart Keith Phillips o 15 Tir Capel, Llanelli, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod gohebiaeth wedi dod i law gan gynrychiolydd cyfreithiol Mr Phillips ar ôl i agenda'r cyfarfod gael ei dosbarthu, a oedd yn gofyn am ohirio'r gwrandawiad tan ar ôl yr achos llys sydd ar ddod.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried cais Mr Stuart Keith Phillips am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Hurio Preifat tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

HYD Y CYFARFOD

Am 12.45 pm tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol Sefydlog 9 'Hyd Cyfarfod', a gan fod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr a bod angen ystyried nifer o eitemau o hyd,

PENDERFYNWYD bod y Rheolau Sefydlog yn cael eu rhoi o'r neilltu dros dro er mwyn gallu ystyried yr eitemau oedd yn weddill ar yr agenda.

Ar hynny, cafodd y Pwyllgor ei ohirio am 12:45 p.m. ac ailddechreuwyd y cyfarfod am 1:45 p.m. er mwyn ystyried yr eitemau canlynol

Yn bresennol: Y Cynghorydd E.G. Thomas (Cadeirydd)

Y Cynghorwyr: J.M Charles, A. Davies, R. Evans, W.T. Evans, A.L Fox, J.K. Howell, A.S.J. McPherson, J. G. Prosser, D.E. Williams and J.E. Williams  

Mr E. Jones - Pen-swyddog Trwyddedu

Mr R. Edgecombe – Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol

Ms K. Smith – Swyddog Trwyddedu

Mr K. Thomas -  Swyddog Gwasanaethau Democrataidd

9.

DEDDF HAPCHWARAE 2005 - Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y COMISIWN HAPCHWARAE ADOLYGU'R POLISI HAPCHWARAE pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Mr P. Edmunds, Rheolwr Cydymffurfio y Comisiwn Hapchwarae, a wahoddwyd i gyflwyno trosolwg ar y Rheoliadau Hapchwarae ynghylch y meysydd canlynol:-

 

Ø  System Deiran

Ø  Cyllid a Thrwyddedu

Ø  Pwerau Awdurdod Lleol

Ø  Y 4 mater i'w hystyried o ran Trwyddedu, Arolygu a Gorfodi

Ø  Datganiad Polisi

Ø  Yr hyn y mae'r Comisiwn yn ei wneud

Ø  Dim problemau

Ø  Pethau i'r Pwyllgorau Trwyddedu eu hystyried

 

Cafodd y Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau, ac yna diolchodd y Cadeirydd i Mr Edmunds am y cyflwyniad.

 

Cyfeiriodd y Pen-swyddog Trwyddedu at yr adroddiad gan atgoffa'r Pwyllgor ei fod yn ofynnol yn unol â gofynion Deddf Hapchwarae 2005 i Awdurdodau Trwyddedu lunio Polisi Hapchwarae ac adolygu'r polisi hwnnw bob tair blynedd. Yn unol â'r gofyniad hwnnw, roedd y Cyngor wedi dechrau dogfen ymgynghori ynghylch ei Bolisi Hapchwarae yn ddiweddar. Anogwyd aelodau nad oedd wedi ymateb i'r ymgynghoriad i wneud hynny erbyn y dyddiad cau ar 1 Mehefin 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad a'r cyflwyniad.

10.

DEDDF TRWYDDEDU 2003 - ADOLYGIAD O'R POLISI TRWYDDEDU pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar yr adolygiad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd o Bolisi Trwyddedu y Cyngor. Nodwyd pan oedd yr Awdurdod wedi mabwysiadu'r polisi trwyddedu presennol ym mis Chwefror 2016, fod penderfyniad wedi ei wneud i gynnal ymgynghoriad arall ynghylch y posibilrwydd o fabwysiadu Polisi Effaith Gronnol ar gyfer Heol Awst, Caerfyrddin. Yn unol â'r penderfyniad hwnnw, roedd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar y Polisi Effaith Gronnol a fyddai'n dod i ben ar 1 Mehefin 2018. Wedi hynny, byddai ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno fel rhan o adroddiad i'r Cyngor ar 12 Rhagfyr 2018.  Anogwyd aelodau nad oedd wedi ymateb i'r ymgynghoriad i wneud hynny erbyn y dyddiad cau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

11.

DEDDF TRWYDDEDU 2003 - CAIS YN YMWNEUD Â DOSBARTHIAD FFILM pdf eicon PDF 128 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn amlinellu cais gan Mrs Mair Craig ar ran Ystafelloedd Darllen Llansadwrn am argymhelliad ynghylch caniatáu i blant wylio tair ffilm fer nad oeddynt wedi cael eu dosbarthu yn flaenorol.

 

Yr oedd yr ymgeisydd yn bwriadu arddangos dwy ffilm Gymraeg, sef "Titch" a "Marw Stripio", ynghyd â ffilm Saesneg sef "Dial a Ride" cyn dangos ffilm dystysgrifedig yn y sinema gymunedol.  Yn ogystal, yr oedd y safle'n bwriadu gweithredu'r sinema gymunedol o dan yr esemptiadau safle cymunedol a nodir ym mharagraff 6A o Atodlen 1 i Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Nododd y Pwyllgor y dylai'r ffilmiau a ddangosir gael argymhelliad ynghylch caniatáu i blant eu gwylio, a roddwyd naill ai gan gorff Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain neu gan yr Awdurdod Trwyddedu perthnasol, a hynny er mwyn bodloni gofynion Deddf Trwyddedu 2003. 

 

Er mwyn i'r Pwyllgor allu gwneud yr argymhellion gofynnol ynghylch caniatáu i blant wylio'r ffilmiau, cafodd y cyfle i wylio'r tair ffilm fer gan roi ystyriaeth i'r cyfeiriadau at ymddygiad dynwaredadwy, iaith, noethni a rhyw.

 

Rhoddwyd sylwadau ysgrifenedig i'r Pwyllgor gan yr ymgeisydd ynghylch y tair ffilm.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw priodol i'r paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu ac o Ganllawiau gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain a oedd wedi'u hatodi i'r adroddiad yn Atodiad 1.

 

Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron,

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor:

 

  1. y dylai "Titch" gael ei hystyried yn ffilm sydd dan gyfarwyddyd rhiant (PG)
  2. y dylai "Dial a Ride" gael ei hystyried yn ffilm na chaiff personau o dan 12 oed ei gwylio heb gyfarwyddyd rhiant (12A)
  3. y dylai "Marw Stripio" gael ei hystyried yn ffilm na chaiff personau o dan 15 oed ei gwylio (15)

12.

PENODI AELODAU I EISTEDD AR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU 2018-19 pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar ddarpariaethau Deddf Trwyddedu 2003 a roddai fanylion ynghylch aelodaeth arfaethedig Is-bwyllgorau Trwyddedu "A" a "B" ar gyfer blwyddyn y cyngor 2018/19

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai aelodaeth Is-bwyllgorau Trwyddedu "A" a "B" ar gyfer blwyddyn y cyngor 2018/19 fel a ganlyn:-

 

Is-bwyllgor Trwyddedu "A”

 

Y Cynghorwyr: Andre McPherson; Mansel Charles; Ann Davies; Rob Evans;Amanda Fox; Ken Howell ac Elwyn Williams.

 

Is-bwyllgor Trwyddedu B”

 

Y Cynghorwyr: Alun Davies; Tyssul Evans; Penny Edwards; Irfon Jones; John Prosser; Edward Thomas ac Eirwyn Williams.

13.

PENODI CADEIRYDDION YR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2018/19

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr enwebiadau am Gadeiryddion yr Is-bwyllgorau Trwyddedu ar gyfer blwyddyn y cyngor 2018/19.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

13.1

Bod y Cynghorydd J.M. Charles yn cael ei benodi'n Gadeirydd Is-bwyllgor Trwyddedu “A” am flwyddyn y cyngor 2018/19

13.2

Bod y Cynghorydd A. Davies yn cael ei benodi'n Gadeirydd Is-bwyllgor Trwyddedu "B" am flwyddyn y cyngor 2018/19

 

14.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "A" A GYNHALIWYD AR 6 MAWRTH 2018 pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'A' a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2018, yn gofnod cywir.

15.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "B" A GYNHALIWYD AR 19 EBRILL 2018 pdf eicon PDF 124 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'B' a gynhaliwyd ar 19 Ebrill, 2018, yn gofnod cywir.

16.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 4 EBRILL, 2018. pdf eicon PDF 187 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 4 Ebrill 2018 yn gofnod cywir.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau