Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Iau, 7fed Rhagfyr, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, J. Prosser a J.E. Williams. 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

E.G. Thomas

6 - Cais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat - Miss Tracy Louise Davies

Mae'r ymgeisydd yn byw yn ei ward.

 

 

3.

TRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT. pdf eicon PDF 136 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mrs Jacqueline Elizabeth Clarke of 4 Clos Parc Bigyn, Llanelli am gael ei heithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor ar gyfer Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat ar gyfer ei Cherbyd Hurio Preifat PH580, sef Renault Trafic rhif cofrestru YK61 DDZ.

 

Gan ei bod yn bwriadu defnyddio'r cerbyd hwn ar gyfer gwasanaeth cludo pobl i/o feysydd awyr/porthladdoedd a gwasanaeth hurio dethol yn unig, yr oedd Mrs Clarke wedi gofyn am gael ei heithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor ar gyfer Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat, sef na fyddai'n ofynnol iddi arddangos sticeri ar y drysau na phlât trwyddedu ar y bympar ôl.

 

Petai'r Pwyllgor Trwyddedu yn cytuno i ganiatáu i Mrs Clarke gael ei heithrio, yna byddai'r amodau canlynol yn cael eu rhoi ynghlwm wrth y Drwydded:-

 

-        bod y Renault Trafic PH580 trwyddedig sydd â'r rhif cofrestru YK61 DDZ yn cael ei eithrio o amodau trwyddedu 5a a 5b tra bo'n cael ei ddefnyddio at ddibenion gwasanaeth cludo i/o feysydd awyr/porthladdoedd a gwasanaeth hurio dethol, fel yr amlinellwyd yn y cais gan Mrs Clarke;

-        Petai'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hurio preifat, yn hytrach na gwasanaeth cludo i/o feysydd awyr a phorthladdoedd a gwasanaeth hurio dethol, bod yr ymgeisydd yn rhoi gwybod ar unwaith i'r Awdurdod Trwyddedu a bod yr eithriad yn darfod o ran dibenion hurio o'r fath;

-        Bod y cerbyd yn arddangos disg adnabod ar y ffenestr flaen a'r ffenestr ôl, fel y pennwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais Mrs Jacqueline Elizabeth Clarke am gael ei heithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor ar gyfer Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat mewn perthynas â'i Renault Trafic PH580, rhif cofrestru YK61 DDZ.

 

</AI3>

 

4.

CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MISS CLAIRE LOUISE WHITEHEAD. pdf eicon PDF 138 KB

Cofnodion:

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wrth y Pwyllgor fod Miss Whitehead wedi cysylltu â swyddogion i esbonio nad oedd modd iddi fod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ac i ofyn am i'r mater gael ei ohirio i'w ystyried yn y cyfarfod nesaf er mwyn iddi allu bod yn bresennol.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried cais Miss Claire Louise Whitehead am adnewyddu ei Thrwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan y cyfarfod nesaf.

 

</AI4>

 

5.

TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR WILLIAM HUGH RUDLAND. pdf eicon PDF 136 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr William Hugh Rudland o 90 Heol Bryngwili, Cross Hands, Llanelli yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Rudland ynghylch y mater hwnnw a chafodd sylwadau gan gynrychiolydd yr heddlu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Rudland yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr William Hugh Rudland yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

Y Rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

</AI5>

 

6.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MISS TRACY LOUISE DAVIES. pdf eicon PDF 139 KB

Cofnodion:

[NODER:  Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd E.G. Thomas y Siambr cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.  Cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan y Cynghorydd D.E. Williams, Is-gadeirydd, yn absenoldeb y Cadeirydd.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Miss Tracy Louise Davies o 1 Maesyderi, Llandeilo, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Miss Davies ynghylch ei chais. 

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Miss Davies yn cael ei ganiatáu a'i bod yn cael rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Miss Tracy Louise Davies am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddi ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.

Y Rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

Ar hynny ailymunodd y Cadeirydd â'r cyfarfod.

 

7.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR JAMES NEIL HAUGHEY. pdf eicon PDF 138 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr James Neil Haughey o Rodfa Glyndwr, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Haughey ynghylch ei gais.  Daeth chwaer Mr Haughey gydag ef i'r Pwyllgor, a rhoddodd hithau anerchiad i'r Pwyllgor a oedd yn tystio i gymeriad ei brawd er mwyn cefnogi ei gais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Haughey yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr James Neil Haughey am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

Y Rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "A" A GYNHALIWYD AR 17EG HYDREF, 2017. pdf eicon PDF 179 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'A' a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2017 yn gofnod cywir.

 

</AI8>

 

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 25AIN HYDREF, 2017. pdf eicon PDF 175 KB

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at y ffaith fod enw Mrs K. Byrne, Cyfreithiwr Cynorthwyol, yn eisiau o'r rhestr o swyddogion a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith y dylai enw'r ymgeisydd yng nghofnod tri ddarllen fel Mr John Charles Griffiths bob tro.

 

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2017 yn gywir, yn amodol ar y newidiadau uchod.