Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr E. Morgan, S. Phillips a D. Thomas.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

4.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 31 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

5.

Y DIWEDDARAF YNGHYLCH Y RHAGLEN FUDDSODDI O RAN PRIFFYRDD, TROEDFFYRDD A DIOGELWCH FFYRDD pdf eicon PDF 417 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad diweddaru ynghylch y Rhaglen Fuddsoddi o ran Priffyrdd, Troedffyrdd a Diogelwch Ffyrdd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau mewn perthynas â diogelwch ffyrdd a seilwaith cysylltiedig.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth i'r Aelodau am yr agweddau canlynol:-

 

·      Cynllun Trafnidiaeth Lleol

·      Y Ddeddf Teithio Llesol a Rhwymedigaethau'r Awdurdod Lleol

·      Llwybrau Diogel mewn Cymunedau

·      Rhaglen Gwella Diogelwch Ffyrdd a Gwella Troedffyrdd

·      Grant Diogelwch Ffyrdd (Cyfalaf a Refeniw)

·      Rhaglen Rheoli Traffig ac Atal Damweiniau

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o'r cyllid ar gyfer cynlluniau yn ymwneud â diogelwch ffyrdd a chynlluniau seilwaith eraill yn 2019/20 a'r rhaglen wedi'i blaenoriaethu ar gyfer diogelwch ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

  • Mewn ymateb i gais, rhoddodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd ddiweddariad ar lafar ynghylch cynnydd Llwybr Dyffryn Tywi. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod:

 

­   trafodaethau â thirfeddianwyr yn parhau,

­   cais cynllunio wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer y rhan orllewinol,

­   cais cynllunio wedi cael ei wneud ar gyfer y rhan ddwyreiniol - oedi oherwydd amodau ar waith gan CNC

­   gwaith adeiladu wedi dechrau ar ran orllewinol y llwybr ger Felin-wen,

­   ceisiadau pellach wedi cael eu cyflwyno ar gyfer y rhan orllewinol.

 

  • Mewn perthynas â'r stormydd diweddar sydd wedi achosi i lefelau'r d?r godi'n sylweddol, gofynnwyd a oedd dadansoddiad wedi cael ei wneud o hyd a lled y llifogydd ar y llwybr.  Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod arolwg modelu llifogydd manwl wedi cael ei gyflawni ar gyfer y llwybr cyfan. Cydnabuwyd, o ystyried natur y llwybr sy'n rhedeg ar hyd afon Tywi, y derbyniwyd y byddai llifogydd yn digwydd. Roedd mesurau llifogydd ar waith a hynny drwy gatiau a gweithdrefnau gweithredol. 

 

  • O ran gwelliannau diogelwch ffyrdd, mynegwyd pryder mewn perthynas â'r angen i leihau'r terfyn cyflymder y tu allan i Ysgol Nantgaredig i 20mya, sef rhywbeth y gofynnwyd amdano sawl gwaith. Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd, er nad oedd ef yn bersonol yn ymdrin â'r ceisiadau am leihau'r terfyn cyflymder, fod nifer o ffactorau a oedd yn dylanwadu ar gyflwyno newid i'r terfyn cyflymder. Byddai'r Gweithgor Terfynau Cyflymder yn ystyried ceisiadau gan ofyn am gefnogaeth y gymuned ar gyfer y newid ac i'r terfyn cyflymder fod yn hunanorfodol lle bynnag y bo modd.

 

Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd y byddai'n cysylltu â'r cynghorydd lleol y tu allan i'r cyfarfod ynghylch y mater.

 

  • Ar gais y Pwyllgor, roedd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd wedi ysgrifennu llythyr at y Gweinidog dros Drafnidiaeth yn mynegi pryderon ynghylch y cyllid annigonol sydd ar gael i ddatblygu seilwaith cerdded a beicio [gweler cofnod 8.2, 5 Gorffennaf 2019]. Cyhoeddodd y Cadeirydd fod ymateb wedi dod i law gan Lee Waters, y Gweinidog dros Drafnidiaeth a rhoddodd grynodeb ar lafar o'r llythyr i'r Pwyllgor. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r llythyr yn cael ei rannu ag aelodau'r Pwyllgor.

 

·       Cyfeiriwyd at Lwybrau Diogel mewn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD MONITRO CYNLLUN GWEITHREDU pdf eicon PDF 246 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad yn manylu ar y cynnydd mewn perthynas â'r argymhellion a nodwyd yng nghanfyddiadau adolygiad y Gr?p Gorchwyl a Gorffen ynghylch y ddarpariaeth cynnal a chadw perthi ac ymylon priffyrdd. Cafodd adroddiad y gr?p ynghyd â'i argymhellion eu mabwysiadu gan y Bwrdd Gweithredol ar 4 Mawrth 2019.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb byr i'r Pwyllgor ynghyd â'r canlynol:

 

·       cwmpas ac amcanion gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

·       ei fethodoleg;

·       argymhellion y Gr?p;

·       adroddiad cynnydd manwl ar y camau gweithredu sy'n gysylltiedig ag argymhellion y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

Nododd y Pwyllgor y cynnydd o ran pob un o'r argymhellion fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

 

7.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 281 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.

 

 

8.

MATER WEDI EI GYFEIRIO GAN Y PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU - CYNLLUN TRAFNIDIAETH AR Y CYD DE-ORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 277 KB

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau, yn ei gyfarfod ar 27 Ionawr 2020, wedi penderfynu, ar ôl ystyried Cynllun Busnes Adran yr Amgylchedd 2020-23 yn ymwneud â'r Is-adran Eiddo sy'n berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, "gofyn i Bwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ystyried modd i sicrhau gwelliannau i Gynllun Trafnidiaeth ar y cyd De-orllewin Cymru gyda'r bwriad o fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin."  

 

Nodwyd, wrth ystyried y Cynllun Busnes, y cyfeiriwyd at y problemau a wynebir o ran recriwtio staff a bernid bod diffyg trafnidiaeth gyhoeddus addas hefyd wedi cyfrannu at y broblem.

 

Er mwyn i'r Pwyllgor allu ymgymryd â'r cais, gofynnwyd bod adroddiad yn rhoi gwybodaeth am Gynllun Trafnidiaeth ar y Cyd De-orllewin Cymru yn cael ei gynnwys ym Mlaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2020/2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnwys adroddiad gwybodaeth ynghylch Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y cyd De-orllewin Cymru ym Mlaenraglen Waith 2020/2021 y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd.

 

 

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 231 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhestr o eitemau ar gyfer y cyfarfod oedd i'w gynnal ar 21 Ebrill, 2020 a rhoddwyd y cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am wybodaeth i'w chynnwys yn yr adroddiadau.

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd, oherwydd nifer yr eitemau ar yr agenda, y byddai'r cyfarfod yn debygol o barhau yn y prynhawn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol.

 

 

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 13 IONAWR 2020 pdf eicon PDF 344 KB

Cofnodion:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau