Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd - Dydd Gwener, 5ed Gorffennaf, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2018/19 pdf eicon PDF 440 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2018/19 a luniwyd yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Nodwyd bod yr adroddiad yn darparu'r canlynol:-

 

­   Trosolwg ar berfformiad 2018/19;

­   Adroddiadau cynnydd ar gyfer pob un o'r 15 Amcan Llesiant;

­   Dolen i olrhain cynnydd pob cam gweithredu penodol a tharged a roddwyd i bob Amcan Llesiant;

Byddai gwybodaeth arall am berfformiad yn cael ei chynnwys wrth i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·         Cyfeiriwyd at y cynnydd mawr yng nghanran y mesurau a oedd wedi dirywio o gymharu â blynyddoedd blaenorol a gofynnwyd a oedd yr holl fesurau yn berthnasol mewn gwirionedd. Mewn ymateb atgoffwyd y Pwyllgor fod y mesurau yn cael eu pennu ar lefel genedlaethol;

·         O ran monitro ansawdd aer gofynnwyd sut y gallai mesur o'r fath gael ei ystyried yn 'welliant' pan oedd yr Awdurdod dan rwymedigaeth gyfreithiol i fonitro'n 'barhaus'. Ymatebodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd gan ddweud pe bai gwaith monitro ansawdd aer yn nodi problem byddai cynllun gweithredu yn cael ei lunio er mwyn mynd i'r afael â'r materion;

[SYLWER: Ar yr adeg hon, gadawodd y Cyng. J. James y cyfarfod a chymerodd y Cyng. A. Vaughan Owen yr awenau fel Cadeirydd.]

·         Cyfeiriwyd at Amcan Llesiant 9 [Byw'n Dda/Heneiddio'n Dda] a mynegwyd siom ynghylch y ffaith bod canlyniadau'r arolwg Ymdeimlad o Gymuned wedi dirywio 26% er gwaethaf y cynnydd cadarnhaol a wnaed yn y rhan fwyaf o ymrwymiadau'r Awdurdod;

·         O ran Amcan Llesiant 12 [Amgylchedd Iach a Diogel] cytunodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd i gadarnhau'r rheswm dros oedi wrth hau hadau a phlannu blodau mewn rhai mannau lle roedd gwelyau wedi'u paratoi;

·         Croesawyd y cynnydd a wnaed o ran ynni adnewyddadwy ond nodwyd bod diffyg targed;

·         O ran Amcan Llesiant 13 [Amgylchedd Iach a Diogel] ac mewn ymateb i gwestiwn ynghylch unedau gwefru ar gyfer cerbydau trydan, cadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod y cais am gyllid i osod 26 o unedau gwefru 'cyflym' newydd wedi bod yn llwyddiannus a bod tendrau wedi cael eu gwahodd;

·         Mewn ymateb i bryder ynghylch y ganran uwch o ffyrdd sydd mewn cyflwr gwael, ymatebodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd gan ddweud er gwaethaf yr hwb ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y ddwy flynedd nesaf y byddai llawer o waith yn aros i gael ei wneud o hyd yn y rhaglen cynnal a chadw a byddai'r sefyllfa yn parhau i fod yn un heriol hyd nes y cynigir rhagor o gyllid.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL fod Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2018/19 yn cael ei gymeradwyo.

 

5.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 pdf eicon PDF 298 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiadau monitro ynghylch y gyllideb ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd, Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd a'r Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2019, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y targed incwm ar gyfer meysydd parcio rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod hwn i fod i gael ei ddileu o'r adroddiad monitro yn dilyn pryderon a fynegwyd yn flaenorol gan nad oedd modd ei gyflawni heb gynyddu taliadau parcio;

·         O ran ffermydd sirol nodwyd bod yr Awdurdod wedi lleihau ei gyfraniadau;

·         Cytunodd swyddogion i gadarnhau'r sefyllfa bresennol ynghylch prydlesau marchnadoedd da byw a'r ddarpariaeth ar gyfer drwgddyled.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

6.

Y DIWEDDARAF AM Y CYNNYDD A WNAED WRTH GYFLWYNO BLAEN-GYNLLUN DEDDF YR AMGYLCHEDD CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 330 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 9 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2018 rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad diweddaru ynghylch y cynnydd a wnaed wrth lunio Blaen-gynllun Deddf yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2017.

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y modd roedd cynnydd wedi cael ei wneud o ran y 29 o gamau gweithredu a nodwyd ym Mlaengynllun Deddf yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin 2017. Roedd yr holl gamau gweithredu yn unol â'r targed, a chwblhawyd rhai ohonynt.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·         Mewn ymateb i sylw ynghylch absenoldeb unrhyw gyfeiriad yn y Blaen-gynllun at glefyd coed ynn a oedd yn glefyd yn yr awyr, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod swyddogion wedi bod i seminar yngl?n â'r mater yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn ddiweddar ac y byddai coed ar briffyrdd cyhoeddus a thir sy'n eiddo i'r Awdurdod yn cael eu monitro'n ofalus. Hefyd roedd gweithgor adrannol wedi'i sefydlu a fyddai'n datblygu ymgyrch i gynghori perchenogion tir.

·         Mewn ymateb i sylw yn nodi er bod rhai camau gweithredu yn unol â’r targed, bod y dyddiadau targed wedi'u newid i ddyddiad diweddarach, rhoddwyd gwybod i'r aelodau y cydnabuwyd bod rhai o'r targedau yn rhy uchelgeisiol i ddechrau o bosib, ac ystyriwyd bod yr amserlenni newydd yn fwy realistig yn dilyn cyfarfodydd gydag adrannau ac is-adrannau eraill;

·         Mynegwyd pryder nad oedd yna gyfeiriad at ddileu clymog Japan yn y cynllun. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod dyletswydd ar yr Awdurdod i drin clymog Japan ar ei eiddo ond cyfrifoldeb y perchennog oedd ei drin ar dir preifat. Roedd yr Awdurdod wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo â'r gwaith o reoli rhywogaethau ymledol. Cytunodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel i gael gwybod gan yr adain gyfreithiol a oedd unrhyw oblygiadau i'r Awdurdod yn sgil yr achos achos diweddar yn ymwneud â Network Rail o ran clymog Japan.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y cynnydd a wnaed wrth lunio Blaen-gynllun Deddf yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

7.

ADRODDIAD LLIFOGYDD ADRAN 19 STORM CALLUM pdf eicon PDF 442 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad, a fydd yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Gweithredol hefyd, a oedd yn manylu ar 55 o argymhellion a luniwyd o ganlyniad i ymchwiliadau a wnaed gan Gyngor Sir Caerfyrddin fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol mewn ymateb i'r llifogydd ledled Sir Gaerfyrddin rhwng 12 a 14 Hydref 2018 o ganlyniad i Storm Callum. Er nad oedd yr adroddiad yn rhoi argymhellion a chasgliadau cadarn ynghylch gweithredu gwaith cyfalaf a allai fod yn briodol o ran lliniaru llifogydd yn y dyfodol, roedd yn manylu ar gyfres o gamau gweithredu a fyddai'n llywio'r drafodaeth am ddichonoldeb ac ymarferoldeb gwaith cyfalaf lliniaru llifogydd yn y dyfodol lle bo'n briodol. Yn ogystal, nododd yr adroddiad yr angen i fapio a phennu cyfrifoldebau cynnal a chadw a threfniadau ar gyfer asedau seilwaith draenio yn y dyfodol. Pwysleisiwyd bod cyfathrebu ag aelodau o wardiau etholiadol yr effeithiwyd arnynt wedi cael ei wneud mewn perthynas â'r argymhellion, byddai hynny'n parhau i gael ei wneud.

 

Bu’r Cadeirydd yn talu teyrnged i Corey Sharpling, a gollodd ei fywyd yn ystod Storm Callum yn y trychineb yng Nghwm-duad a diolchodd i weithwyr y Cyngor a oedd wedi derbyn gwobrau yn ddiweddar am eu gweithredoedd ar y diwrnod.

 

Croesawodd y Pwyllgor yr argymhellion a rhoddwyd pwyslais ar bwysigrwydd cynnwys aelodau lleol mewn trafodaethau ynghylch gwaith lliniaru llifogydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r argymhellion/camau gweithredu a nodwyd yn yr adroddiad.

8.

Y DIWEDDARAF AM Y DDEDDF TEITHIO LLESOL pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a wnaed gan Gyngor Sir Caerfyrddin er mwyn bodloni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Yn ogystal â chyflawni cynlluniau cerdded a beicio newydd, roedd yr Awdurdod wedi cynnwys cyfleusterau Teithio Llesol fel elfen o ddatblygiadau priffyrdd mwy. Hefyd roedd yr Awdurdod wedi cynnal egwyddorion y Ddeddf yn ei swyddogaeth gynllunio, gan sicrhau bod anghenion cerddwyr a beicwyr yn cael eu hystyried o ran datblygiad caniataol, fel yr amlinellwyd yn y Canllaw Dylunio Priffyrdd. Fodd bynnag, er bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu lefel y cyllid cyfalaf sydd ar gael ledled Cymru yn ddiweddar, barnwyd bod tystiolaeth o newid sylweddol o ran rhoi cyllid i aneddiadau trefol a bod hyn wedi cael ei adlewyrchu yn yr ymateb a gyhoeddwyd yn ddiweddar i gais yr Awdurdod i Gronfa Teithio Llesol 2019/20. Mynegwyd pryder am yr effaith negyddol y byddai hyn yn ei chael ar awdurdodau mwy gwledig megis Sir Gaerfyrddin a fyddai, yn ei dro, yn cael effaith fawr ar Lwybr Dyffryn Tywi. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod swyddogion, ynghyd â'r Arweinydd a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, wedi cwrdd yn ddiweddar â'r Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, sef Lee Waters AC, i drafod sut y gallai'r Awdurdod sicrhau ei fod yn cael y cyllid sydd ei angen i sicrhau y gallai Sir Gaerfyrddin gyflawni ei huchelgais o fod yn ganolbwynt beicio Cymru. Nid oedd o'r farn, fodd bynnag, y gallai beicio hamdden gael ei gategoreiddio fel 'teithio llesol'.   

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·         Mewn ymateb i ymholiad dywedwyd bod gr?p llywio'r fforwm beicio wedi rhoi adborth cadarnhaol ynghylch gwaith yr Awdurdod i ddatblygu'r seilwaith beicio;  

·         Rhoddwyd gwybod i'r aelodau, mewn ymateb i bryderon am gyllid, er bod y darn rhwng Abergwili a Felin-wen o Lwybr Dyffryn Tywi wedi'i gwblhau bod materion perchnogaeth tir o hyd ynghylch rhannau eraill o'r llwybr arfaethedig a oedd yn cael eu datblygu yn unol ag ymrwymiad yr Awdurdod i gwblhau'r cynllun.

·         Mynegwyd siom ynghylch barn y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth o ran yr hyn a olygir wrth 'deithio llesol' a chanlyniad y cais i'r Gronfa Teithio Llesol ac awgrymwyd, yn enwedig gan fod y Dirprwy Weinidog yn AC Sir Gaerfyrddin, y dylid cyfleu siom y Pwyllgor iddo mewn llythyr. Rhoddwyd sicrwydd i'r Aelodau y byddai'r Awdurdod yn parhau i ddatblygu cyfleoedd teithio llesol;

·         Mewn ymateb i gwestiwn, rhoddodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Cam 2 o Brif Gynllun Rhydaman i Cross Hands a fyddai'n cysylltu yn y pen draw â Llwybr Arfordirol y Mileniwm, Llanelli;

·         Diolchwyd i'r staff Priffyrdd am eu holl waith o ran paratoi'r llwybrau ar gyfer y ddwy ras feicio fawr a ddaeth i Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar;

·         Cytunodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd gael gwybod faint sydd wedi manteisio ar y cynllun beicio i'r gwaith.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

8.1 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

                   8.2 bod y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 281 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 200 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno ar restr o'r eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor ar 30 Medi 2019.

 

 

11.

COFNODION pdf eicon PDF 334 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 17 Mai, 2019 a 10 Mehefin, 2019 yn gofnodion cywir.

 

12.

DERBYN COFNODION CYFARFOD AR Y CYD Y PWYLLGORAU CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD A GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD, A GYNHALIWYD AR 10 MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 328 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y cyd rhwng y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylched a'r Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 10 Mehefin 2019.