Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Fox ac A. Speake.
|
||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
|
||||||||||||||||||||||
DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
||||||||||||||||||||||
PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016/17 PDF 148 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: Roedd y Cynghorydd T. Higgins wedi datgan buddiant personol ond arhosodd yn ei sedd drwy gydol y drafodaeth a gafwyd wrth ystyried yr eitem hon].
Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ar ei waith yn ystod blwyddyn y cyngor 2016/17, a oedd wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor Sir.
Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar y rhaglen waith a'r materion allweddol yr oedd y Pwyllgor wedi eu hystyried. Hefyd roedd yr adroddiad yn manylu ar y materion oedd wedi'u cyfeirio at neu gan y Bwrdd Gweithredol, sesiynau datblygu oedd wedi'u cynnal i'r Aelodau, yn ogystal â'u presenoldeb yng nghyfarfodydd y Pwyllgor.
Cymerodd yr aelodau'r cyfle i holi yngl?n â chynnydd yr eitemau craffu yn yr adroddiad:-
·
Mewn ymateb i ymholiad a
gafwyd yngl?n ag Adolygu'r Prosiect Newid i Oleuadau LED, rhoddodd
y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd wybod i'r Pwyllgor y byddai
adolygiad prosiect pellach yn cael ei gynnal yn agos at gwblhau Cam
2 ac, yn unol â Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor, y byddai
adroddiad diweddaru yn cael ei ddarparu ym mis Mawrth
2018. · Cyfeiriwyd at bryder a godwyd o fewn yr eitem yn ymwneud â Blaengynllun Deddf yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin. Roedd y pryder yn ymwneud â'r effaith y mae'r oedi mewn torri ymylon ffyrdd a chloddiau yn ei chael ar ddiogelwch a chodwyd hyn fel problem barhaus sy'n wynebu cymunedau gwledig. Rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd wybod i'r Pwyllgor fod gwaith torri ymylon ffyrdd a chloddiau 'ad hoc' yn cael ei wneud, yn ychwanegol i'r rhaglen dorri flynyddol, yn dilyn archwiliadau a gynhaliwyd gan y Swyddogion Priffyrdd os oedd yna broblemau gwelededd wrth gyffyrdd. Darparwyd enghreifftiau o faterion lleol i'r Swyddogion lle nad oedd cloddiau wedi cael eu torri ac a oedd o ganlyniad yn peri problemau gwelededd. Ailadroddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod rhaglen glir ar waith i dorri cloddiau ac ymylon ffyrdd mewn ardaloedd gwledig yn flynyddol, y dylai'r contractwyr fod yn cadw ati. Rhoddwyd sicrwydd i'r Aelodau y byddai'r Swyddogion yn edrych ymhellach i'r mater.
Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith fod y Pwyllgor wedi awgrymu bod y mater hwn yn cael ei wneud yn destun adolygiad gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.
· Cyfeiriwyd at yr achos o Ollwng Olew Cerosin, Nant-y-caws, Caerfyrddin – mis Hydref 2016. Mewn ymateb i sylw a wnaed yngl?n â'r effaith ar goed yn yr ardal lle cafodd yr olew Cerosin ei ollwng, dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd nad oedd hi'n ymwybodol o unrhyw effaith ar goed. Cytunwyd y byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei ddarparu i'r Swyddog.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
||||||||||||||||||||||
BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD AR GYFER 2017/18 PDF 154 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2017/18, a ddatblygwyd yn dilyn sesiwn gynllunio anffurfiol y Pwyllgor a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2017.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Pwyllgor gymeradwyo'i Flaenraglen Waith ar gyfer 2017/18.
|
||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD AMCANION LLESIANT 2017/18 PDF 181 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yng nghynllun cyflawni Amcanion Llesiant 2017/18 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, fel yr oedd ar 30 Mehefin, 2017.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-
·
Cyfeiriwyd at y cam gweithredu, ‘Byddwn yn
helpu pobl h?n i gyfrannu at ailgylchu drwy'r cynllun 'cymorth codi' ar gyfer pobl nad
ydynt yn gallu mynd â gwastraff i ymyl y ffordd.'
Gofynnwyd sut oedd y cam gweithred hwn yn cael ei farchnata er mwyn
codi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth hwn.
Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff wybod i'r
Pwyllgor fod gwybodaeth am y gwasanaeth hwn i'w chael yn y
dogfennau atodol gan Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol, yn ogystal
â bod y gwasanaeth yn cael ei hysbysebu ar Wefan y Cyngor.
Mewn ymateb i ymholiad ychwanegol, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau
Amgylcheddol a Gwastraff fod yna tua 1,300 o gynlluniau cymorth
codi ar waith ledled y Sir ar hyn o bryd. ·
Cyfeiriwyd at y cam gweithredu gyda golwg ar
'arolygu priffyrdd, llwybrau troed a seilwaith goleuadau yn
rheolaidd i nodi unrhyw ddiffygion sy'n peri perygl i'r
cyhoedd’. Holwyd a fyddai
modd darparu mwy o fanylion am y mater hwn. Y farn oedd y byddai
cael mwy o fanylion o fudd i'r Cynghorwyr wrth i ymholiadau o'r
fath ddod i'w rhan. Dywedodd y Pennaeth
Trafnidiaeth a Phriffyrdd na fyddai'n bosibl rhoi gwybod i'r
Aelodau am bob atgyweiriad oherwydd graddfa'r gwaith a wneir ar
draws y Sir bob dydd. Fodd bynnag, byddai'n rhoi manylion pellach
i'r Aelod Lleol y tu allan i'r cyfarfod. ·
Gofynnwyd am eglurhad ynghylch cyfrifoldeb pwy yw
clirio priffordd ar ôl achos o halogi. Dywedodd y Pennaeth
Trafnidiaeth a Phriffyrdd mai cyfrifoldeb y person neu'r sefydliad
a halogodd y briffordd fyddai ei chlirio. Mewn ymateb i ymholiad a gafwyd ynghylch nifer y
peiriannau ysgubo ffyrdd sy'n weithredol o fewn y fflyd ar hyn o
bryd, pwysleisiodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd nad oedd y
fflyd peiriannau ysgubo ffyrdd wedi cael ei lleihau yn y ddwy
flynedd diwethaf ac ychwanegodd nad oedd yna unrhyw newidiadau
diweddar wedi bod mewn polisi. · Mewn perthynas â'r cam gweithredu a oedd yn dweud 'Byddwn yn cynyddu faint o ynni a gynhyrchir o dechnolegau adnewyddadwy (kWh)' holwyd a oedd targed wedi'i osod? Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod y Cyngor yn ystyried cynyddu nifer y paneli solar, yn enwedig ar safleoedd y Cyngor. Cyfeiriwyd at yr adroddiad o fewn Eitem 10 ar yr Agenda - Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2016/17, a oedd yn dweud bod y defnydd o ynni adnewyddadwy ar gyfer 2016/17 yn 670,400 kWh. Dywedwyd bod y swm hwn yn cynrychioli ychydig dros 0.9% o gyfanswm yr ynni a ddefnyddiwyd ac ystyrid ei fod yn lefel isel iawn o ynni adnewyddadwy, felly gofynnwyd am eglurhad yngl?n â'r hyn oedd targed y Cyngor ar gyfer ynni adnewyddadwy. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18 PDF 149 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf mewn perthynas â gwasanaethau'r Amgylchedd, Diogelu'r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf fel yr oedd ar 30 Mehefin, 2017, gyda golwg ar flwyddyn ariannol 2017/18.
Nododd y Pwyllgor fod gwasanaethau'r Amgylchedd a Diogelu'r Cyhoedd yn rhagweld gorwariant o £130k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai yna £2,479 o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2017/18.
Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-
·
Cyflwynwyd sylw i'r Gwasanaethau Gwastraff ac roedd
swm yr arbedion a wnaethpwyd yn deillio o gau canolfan ailgylchu
gwastraff cartref Llangadog. · Cyfeiriwyd at yr amnest gwastraff a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Llangadog. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y bobl leol yn siomedig â'r modd y trefnwyd yr amnest, a arweiniodd at giwiau hir o gerbydau ac amserau aros maith. Atgoffodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd y Pwyllgor fod gan y Cyngor nifer o ddarpariaethau ar waith ar gyfer ailgylchu ac roedd yn annog y Cynghorwyr i roi gwybod i bobl yn eu hardaloedd am y trefniadau ailgylchu presennol sydd ar gael iddynt. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff wrth y Pwyllgor mai hwn oedd y trydydd amnest gwastraff i gael ei gynnal yn ardal Llandovery/Llangadog, a bod yr amnest diweddar hwn wedi cael ymateb na welwyd ei fath o'r blaen. Ymhellach, defnyddiwyd y cyfryngau cymdeithasol er mwyn mesur yr awydd am gael amnestau gwastraff yn y dyfodol. ·
Gofynnwyd pam oedd yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn
dangos ac yn rhagfynegi tanwariant ac a oedd hyn o ganlyniad i
brinder staff o fewn yr adran honno?
Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod nifer o
newidiadau wedi digwydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf; fodd
bynnag, ar y pryd roedd gan yr adran Hawliau Tramwy 5 aelod o
staff. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2016/17 - DRAFFT PDF 85 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2016/17 a oedd yn cynnwys adroddiad cynnydd yr ail flwyddyn ar Strategaeth Gorfforaethol 2015-20, y Crynodeb o Adroddiad Blynyddol 2016/17 a'r Adroddiad Blynyddol llawn.
Pan gyhoeddwyd y Strategaeth Gorfforaethol yn 2015/20 cytunwyd y byddai adroddiad cynnydd blynyddol yn cael ei gynhyrchu a fyddai'n pennu 24 o fesurau canlyniadau er mwyn barnu ein cynnydd yn eu herbyn. Byddai'r Strategaeth Gorfforaethol yn cael ei hadolygu ar gyfer 2018/19 gan fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynnu bod ein Hamcanion Llesiant yn cael eu cynnwys yn y Strategaeth Gorfforaethol.
Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
·
Mewn ymateb i gais am y
wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â llwybr beicio o Hendy-gwyn ar
Daf i Langlydwen a llwybr troed rhwng Login a Llanglydwen, dywedodd
y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd nad oedd gan y Cyngor Sir
unrhyw gynlluniau i ddatblygu'r llwybr hwn. Fodd bynnag, credai fod
yna gr?p gwirfoddol yn edrych ar brosiect yn yr ardal, byddai'n
gwneud ymholiadau pellach a chytunodd y byddai'n rhoi ymateb i'r
Cynghorydd. ·
Cyfeiriwyd at dudalen 28 yr
adroddiad lle codwyd ymholiad yngl?n â'r tabl a ddangosai'r
defnydd o ynni, y gost a'r allyriadau CO2 o flwyddyn i
flwyddyn. Roedd y tabl yn dweud nad
oedd cyfanswm y data 'ar gael tan fis Medi', holwyd pryd y byddai'r
data ar gael gan ei bod hi bellach yn fis Hydref. Rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros
yr Amgylchedd wybod i'r Pwyllgor y byddai hi'n anfon y wybodaeth
ymlaen i'r Pwyllgor cyn gynted ag y byddai'r data ar
gael. CYTUNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Blynyddol drafft, yn cynnwys Adroddiad Cynnydd yr Ail Flwyddyn ar y Strategaeth Gorfforaethol, yn cael ei dderbyn.
|
||||||||||||||||||||||
CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY SIR GAERFYRDDIN PDF 69 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: Roedd y Cynghorwyr A. James, K. Broom, A. Davies a D. Phillips wedi datgan buddiant personol ond gwnaethant aros yn eu seddi drwy gydol y drafodaeth a gafwyd wrth ystyried yr eitem hon].
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar Gynllun Gwella Hawliau Tramwy Sir Gaerfyrddin (CGHT) a oedd yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor am y cynnydd a wnaed o ran adolygu'r ddogfen bolisi deng mlynedd bresennol a'r newidiadau a gynigir ar ei chyfer - Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Sir Gaerfyrddin 2007-2017.
Nododd y Pwyllgor fod Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Sir Gaerfyrddin 2007-2017 wedi'i gyhoeddi yn 2007 ac felly bod angen ei adolygu. Ymhellach, er mwyn cydymffurfio â'r gofynion statudol a'r canllawiau perthnasol, dylid gallu cyhoeddi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy diwygiedig ar gyfer y Sir erbyn mis Ionawr 2018.
Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Codwyd y mater fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio camerâu wrth gerdded ar hyd llwybrau cerdded a llwybrau arfordirol er mwyn gallu cael gwybodaeth. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd ei fod yn ymwybodol fod camerâu wedi'u defnyddio i wneud arolwg o'r llwybrau ac ychwanegodd fod yr Adran yn awyddus i fanteisio ar y dechnoleg hon. Er enghraifft, gellid defnyddio arolygon drôn i helpu yn y dyfodol. · Mewn ymateb i ymholiad a godwyd, rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd wybod i'r Pwyllgor y byddai'r Swyddogion yn ymchwilio i unrhyw rwystrau i Hawliau Tramwy. Fodd bynnag, ar hyn o bryd roedd yna ôl-groniad o achosion yn ymwneud â rhwystrau, a all olygu prosesau cyfreithiol hirfaith i'w datrys.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL i nodi'r cynnydd ar wnaed o ran Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Sir Gaerfyrddin.
|
||||||||||||||||||||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 67 KB Cofnodion: Nododd y Pwyllgor nad oedd yr adroddiad ar y Strategaeth Barcio wedi cael ei gyflwyno. Esboniodd y Swyddog Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod yr adroddiad hwn wedi'i ohirio oherwydd natur yr adolygiad a'r mewnbwn arbenigol allanol a'r data a ddadansoddwyd, ac mai'r dyddiad cyflwyno diwygiedig oedd mis Rhagfyr 2017.
Penderfynwyd:
11.1 Nodi'r ffaith na chyflwynwyd yr adroddiad; 11.2 Bod adroddiad y Strategaeth Barcio yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2017.
|
||||||||||||||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 71 KB Cofnodion: Wrth ystyried y materion ar gyfer y dyfodol, gofynnodd y Cadeirydd a oedd yna unrhyw faterion/meysydd/problemau yr hoffai'r Pwyllgor eu gweld yn cael eu hadrodd yn yr adroddiadau ar gyfer y dyfodol, ac os felly y dylid eu codi o fewn yr eitem hon ar yr Agenda.
PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar ddydd Gwener, 17 Tachwedd, 2017.
|
||||||||||||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 21 Ebrill, 2017 yn gofnod cywir.
|