Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. James, W. J. Lemon, W. G Thomas, D. E. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 190 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ddydd Gwener, 3 Mawrth, 2017.

 

6.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y rheswm dros beidio â chyflwyno amcanion Llesiant 2017/18 y Cyngor a'r Wybodaeth Ddiweddaraf am y Goleuadau Stryd. Gofynnwyd a fyddai modd i'r adroddiadau hyn gael eu hystyried yn ystod y cyfarfod nesaf.

 

 PENDERFYNWYD:

 

12.1  nodi'r ffaith na chyflwynwyd yr adroddiad.

 

12.2  y byddai amcanion Llesiant y Cyngor 2017/18 a'r wybodaeth ddiweddaraf am Oleuadau Stryd yn cael eu cyflwyno yn ystod y cyfarfod nesaf.

7.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM YR ARDALOEDD RHEOLI ANSAWDD AER PRESENNOL YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 155 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ardal Rheoli Ansawdd Aer presennol yn Sir Gaerfyrddin. Atgoffwyd yr aelodau bod Deddf yr Amgylchedd 1995 yn datgan bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a rheoli ansawdd yr aer yn eu hardal.  Roedd yr adroddiad yn darparu'r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am lefelau NO2 yn enwedig yn nhref Llandeilo ac ardaloedd Caerfyrddin a Llanelli a oedd wedi gweld cynnydd yn lefelau NO2 dros y blynyddoedd diwethaf. Nodwyd o ran darparu ffordd osgoi ar gyfer Tref Llandeilo, roedd nifer o gamau gweithredu eisoes wedi'u rhoi ar waith ac roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn ddiweddar yn cadarnhau y byddai gwaith yn mynd yn ei flaen ar y ffordd osgoi yn 2019.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i bryder ynghylch yr hyn oedd ar y gweill er mwyn helpu i wella llif y traffig yn ardal Felin-foel Llanelli, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd wrth y Pwyllgor fod llif y traffig a lefel yr allyriadau wedi gwella'n sylweddol yn dilyn y newidiadau i gynllun y ffordd. Roedd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd hefyd wedi cadarnhau y byddai'r camau gweithredu yn y Cynllun Rheoli Ansawdd Aer yn cael eu hystyried yn llawn.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith nad oedd atodiadau 1,2 a 3 wedi'u cynnwys gyda'r adroddiad.  Ymddiheurodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd i'r Pwyllgor am y camgymeriad a dywedodd y byddai'r adroddiad yn cael ei osod ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf ynghyd â'r atodiadau er mwyn eu hystyried.

 

 

Dywedwyd y byddai ffordd osgoi newydd yn welliant i'w groesawu yn nhref Llandeilo a byddai'n gwella'r problemau llygredd traffig presennol.

 

Mynegwyd siom nad oedd Heol Ffynnon Job, Heol y Coleg a Heol Llansteffan yn cael eu cynnwys o fewn ffiniau'r Ardal Rheoli Ansawdd Aer. Atgoffodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y Pwyllgor fod argymhellion yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer wedi cael eu hystyried eisoes a chytunwyd arnynt yn ystod cyfarfod o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 11 Mai 2016.

 

Mynegwyd pryder ynghylch yr effaith y byddai gwaith y ffordd osgoi newydd yn ei chael ar breswylwyr Llandeilo.  Dywedodd y Pen-swyddog Iechyd yr Amgylchedd wrth y Pwyllgor fod Cynllun Gweithredu  wedi cael ei ddatblygu er mwyn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol, a'i fod ar hyn o bryd yn ail flwyddyn cam 1, a fyddai'n cael ei adrodd cyn hir.

 

Dywedwyd bod trigolion Llandeilo o blaid y gwaith ac mae'r ffordd osgoi oedd yr unig ateb i'r broblem ansawdd aer presennol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

8.

SEFYLLFA BRESENNOL Y CYNLLUN SGORIO HYLENDID BWYD YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 237 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn yr ystyried adroddiad ar Sefyllfa Bresennol y Cynllun Sgorio Bwyd yn Sir Gaerfyrddin. Roedd yr adroddiad sy'n unol â Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013, ac mewn cydweithrediad â'r cynllun gwirfoddol yn gofyn i fusnesau bwyd arddangos eu sgoriau hylendid bwyd, ac roedd hyn yn galluogi cwsmeriaid yn Sir Gaerfyrddin i wneud gwell dewis gwybodus am le y maent yn bwyta a phrynu eu bwyd.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd a oedd yr un swyddogion yn cyflawni archwiliadau yn yr un lleoliad. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod swyddogion yn cyflawni archwiliadau mewn ardaloedd gwahanol.

 

Cyfeiriwyd at y rhestr o'r 26 o fusnesau a oedd yn cydymffurfio'n fras ond heb ymateb.  Mewn ymateb i ymholiad, ynghylch y 'cyfnod ers y sgôr diwethaf' ac amledd archwiliadau, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd wrth y Pwyllgor fod rhaglen archwilio ar waith a oedd yn cael ei diweddaru'n gyson. Hefyd, nodwyd bod y rhestr a ddarparwyd yn berthnasol i 29 Rhagfyr 2016.  Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd, ers 29 Rhagfyr 2016, fod sgôr hylendid bwyd ar gyfer dau o'r safleoedd wedi gwella yn dilyn archwiliad diweddar. Roedd yr archwiliad o Farchnad Hendy-gwyn ar Daf wedi gwella gyda sgôr o 4 ac roedd Ling Di Long Rhydaman wedi dangos sgôr o fwy na 2.

 

Gofynnwyd ynghylch y ffactorau risg uniongyrchol a oedd yn arwain at gau busnesau bwyd. Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y gallai busnesau bwyd gael eu cau petai 'risg uniongyrchol' yn unig. Roedd yr adroddiad yn cynnwys enghreifftiau o risg uniongyrchol gan gynnwys pla o fermin a diffyg d?r poeth. Fodd bynnag, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod llawer o ffactorau risg eraill a fyddai'n cael eu hystyried yn ystod archwiliadau.

 


Mewn ymateb i ymholiad ynghylch perfformwyr gwael presennol Sir Gaerfyrddin, dywedodd Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod y 36 o fusnesau nad oedd yn cydymffurfio'n fras wedi cael llythyr yn gofyn iddynt gadarnhau eu cynlluniau o ran sut y byddent yn gwella eu sgôr hylendid.

 

Gofynnwyd beth fyddai'n digwydd os nad oedd Swyddog Archwilio yn fodlon y byddai safle yn cael isafswm sgôr o 3?  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd petai Swyddog Archwilio o'r farn na fyddai safle yn gwella ei sgôr hylendid cyfredol yn dilyn ailasesiad, yna byddai'r safle yn cael hysbysiad gwella neu hysbysiad camau adfer a gallai camau erlyn gael eu rhoi ar waith pe na bai'r safle yn cyflawni'r gwaith a nodwyd yn yr hysbysiad.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y byddai dulliau amrywiol o ran cyfathrebu â'r cyhoedd yn cael eu defnyddio er mwyn annog safleoedd nad oedd yn cydymffurfio'n fras i wella eu sgoriau bwyd hylendid.  Yn ogystal â hyn, mynegwyd yn glir i'r busnesau y cysylltwyd â hwy, y byddai'r Awdurdod yn gwneud datganiad cyhoeddus ynghylch y rheiny a oedd yn ymddangos nad oedd ganddynt fwriad i gydymffurfio'n fras.

 

Pwysleisiodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd ei fod yn ddiogel i'r cyhoedd fwyta  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

MODEL BLAENORIAETHU AR GYFER GWELLIANNAU DIOGELWCH FFYRDD AC ISADEILEDD PRIFFYRDD pdf eicon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad ar y Model Blaenoriaethu ar gyfer Gwelliannau Diogelwch Ffyrdd ac Isadeiledd Priffyrdd, a oedd yn rhoi amlinelliad o'r meini prawf diwygiedig ar gyfer asesu a blaenoriaethu ceisiadau am welliannau isadeiledd priffyrdd a diogelwch ffyrdd. Nododd y Pwyllgor fod y Bwrdd Gweithredol yn ystod ei gyfarfod ar 14 Tachwedd, 2011 wedi cymeradwyo'r meini prawf presennol ar gyfer asesu, dewis a blaenoriaethu Gwelliannau Diogelwch Ffyrdd a Gwelliannau Troedffyrdd a ariannwyd o gyllideb cyfalaf y Cyngor. Roedd yr adroddiad wedi tynnu sylw at y ffaith fod y galw yn uchel ac ar hyn o bryd roedd 355 o geisiadau ar wahân am welliannau isadeiledd priffyrdd a diogelwch ffyrdd.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch nifer y cynlluniau, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd wrth y Pwyllgor fod ceisiadau newydd yn cael eu hasesu yn flynyddol gyda'r rhestr gyffredinol o geisiadau yn cael eu hadolygu bob 2 flynedd. Fodd bynnag, ni fyddai cynlluniau a oedd eisoes wedi'u cadarnhau o fewn y Rhaglen yn cael eu cynnwys mewn unrhyw Adolygiad.  

 


Yn dilyn ymholiad, eglurodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd y gallai 10% o unrhyw Raglen Gyfalaf gael ei ddyrannu er mwyn darparu mesurau hwylus cost isel, gwerth uchel i fynd i'r afael â materion diogelwch ffyrdd risg uchel neu i leihau costau refeniw o gostau cludiant ysgol. Gallai enghraifft o hyn gynnwys uwchraddio rhan o briffordd sy'n cael ei defnyddio ar gyfer cerdded i'r ysgol drwy ychwanegu mesurau diogelwch ychwanegol megis marciau ffordd, gwell arwyddion, ffensys diogelwch, gosod arwyneb, neu ddatblygu llwybrau troed sy'n cysylltu â'i gilydd i greu llwybrau cerdded 'diogel'.

 

Mewn ymateb i sylw ynghylch safleoedd risg uchel yn dilyn damweiniau a arweiniodd at farwolaethau, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod yr Awdurdod yn ymchwilio i ddamweiniau ar y cyd â'u partneriaid perthnasol a byddai'r model hwn yn cael ei ddefnyddio i asesu ymyriadau yn ôl y risg gan ddefnyddio'r meini prawf a nodwyd yn y model.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

10.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNALWYD AR Y 16EG O RAGFYR, 2016 pdf eicon PDF 285 KB

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at Gofnod 6, Y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ynghylch y digwyddiad gollwng cerosene yn Nant-y-caws. Gofynnwyd a oedd rhagor o wybodaeth am y mater. Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod y Gr?p Adfer yn bwriadu cyfarfod yn gynnar ym mis Chwefror 2017, ac nid oedd unrhyw fater arall wedi dod i law hyd yn hyn.

 

Cafwyd cais i gywiro Cofnod 2, Datgan Buddiant fel a ganlyn:-

 

Newid y datganiad "Aelod o Glwb Pysgota Caerfyrddin a'r Ardal" i "Cadeirydd Cymdeithas Bysgota Amatur Caerfyrddin".

 

Yn amodol ar y newid:

 

PENDERFYNWYDllofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr, 2016 gan eu bod yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau