Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr W.G. Thomas a P. Edwards.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 

Y Cyng. Davies

 

 

6. Y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ynghylch y digwyddiad gollwng kerosene yn Nant-y-caws

 

 

Yn aelod o Glwb Pysgota Caerfyrddin a’r Ardal

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ddydd Llun, 16 Tachwedd, 2017.

6.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y SEFYLLFA YNGHYLCH Y DIGWYDDIAD GOLLWNG KEROSENE YN NANT-Y-CAWS pdf eicon PDF 154 KB

Cofnodion:

Yn unol â chofnod 5 o'i gyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd, 2016 derbyniodd y Pwyllgor adroddiad i’w ystyried ynghylch y sefyllfa ddiweddaraf ynghylch y digwyddiad gollwng kerosene ar 4 Hydref 2016 yn Nant-y-caws, Sir Gaerfyrddin.  Nododd yr aelodau nad oedd yr adroddiad yn nodi achos y digwyddiad na’r  ymateb brys cychwynnol (i’w ystyried gan gyfarfod amlasiantaeth ar 19 Rhagfyr), fodd bynnag, bu'r aelodau'n ystyried y meysydd allweddol canlynol ynghylch y digwyddiad ar 29 Tachwedd 2016:-

 

·         Monitro

·         Goblygiadau Iechyd

·         Ymgysylltu Cymunedol

·         Adennill Costau (Asiantaethau)

·         Adennill Costau (Cynghorau Cymuned a Phreswylwyr Preifat)

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mynegwyd nifer o bryderon am dir ffermio tua 40-50 erw a oedd o bosibl wedi’i halogi a’r gallu i ffermio’r tir hwnnw yn y dyfodol. Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd wrth y Pwyllgor mai cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru oedd materion a oedd yn ymwneud â'r pryderon a’r ymholiadau hyn. Dywedwyd wrth yr aelodau, os oeddent yn dymuno cysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru yn uniongyrchol byddai’n fodlon darparu manylion cyswllt yn unol â hynny. Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch halogi d?r eiddo cyfagos a goblygiadau iechyd preswylwyr.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach, dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd wrth y Pwyllgor y byddai unrhyw erlyniadau posibl yn cael eu trafod yn ystod y Gr?p  Adfer, ond mater i Cyfoeth Naturiol Cymru fyddai hynny.

 

Mynegwyd pryder ynghylch yr elifion ‘du’ a gafodd eu darganfod yn ddiweddar yn Nant Pibwr a’r gobaith oedd y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgymryd ag ymchwiliad trylwyr. Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod Cyfoeth Naturiol Cymru, yn dilyn yr adroddiad cychwynnol hwn, yn parhau i ymchwilio i ffynhonnell y digwyddiad.

 

Cyfeiriwyd at halogiad d?r ffynnon posibl a mynegwyd pryderon ynghylch yr amseru o ran pryd cafodd samplau eu cymryd. Teimlwyd er mwyn cael y darlleniad mwyaf manwl, dylai samplau gael eu cymryd ar unwaith yn dilyn cyfnod trwm o law. Mewn ymateb dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd wrth yr aelodau fod samplau yn cael eu cymryd yn uniongyrchol o’r twll turio er mwyn cael darlleniad cywir.  Ar wahân i’r sampl cychwynnol a gymerwyd yn fuan ar ôl y digwyddiad, nid oedd unrhyw arwydd o halogiad. Fodd bynnag, byddai’r eiddo yr effeithiwyd arno yn parhau’n gysylltiedig â'r prif gyflenwad d?r hyd nes y byddai rhagor o samplau yn cael eu cymryd er mwyn diystyru unrhyw halogiad yn y dyfodol. Byddai cynrychiolwyr Tîm Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin ac ymgynghorwyr monitro Valero yn cysylltu â phreswylwyr yr eiddo er mwyn esbonio’r rheswm dros barhau i fonitro'r cyflenwad d?r.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch ymgysylltu â’r gymuned, dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, er ei bod yn cydnabod rhwystredigaeth yr aelod lleol a’r Cynghorwyr Cymuned, roedd cyfarfod y Gr?p Adfer fel arfer yn cynnwys cynrychiolwyr o’r asiantaethau hynny a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r gweithrediad a’r gwaith adfer. Fodd bynnag, roedd y Gr?p Adfer wedi cynnig anfon cynrychiolydd i gyfarfod Cyngor Cymuned Llangynnwr er mwyn darparu adborth am y digwyddiad. Ar ben hynny, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD DIWEDDARU YNGHYLCH STRATEGAETH Y GWASANAETH GWASTRAFF pdf eicon PDF 287 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru ynghylch Strategaeth y Gwasanaeth Gwastraff a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynghylch y camau y cytunwyd arnynt gan y Bwrdd Gweithredol ar 27 Gorffennaf 2015. Nodwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd gosod mapiau o’r llwybrau a’r prosesau caffael a gynlluniwyd er mwyn cyrraedd y targedau ailgylchu statudol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i bryder ynghylch yr adolygiad o'r trefniadau casglu gwastraff gwyrdd/gardd a ddaeth i ben diwedd mis Hydref 2016, roedd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Technegol yn cydnabod, hyd nes y byddai’r gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd bob pythefnos yn cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2017, y byddai preswylwyr o bosibl yn gosod eu gwastraff gwyrdd/gardd yn y casgliad bagiau du arferol. Fodd bynnag, pwysleisiodd nad polisi’r Cyngor oedd hwn ac nid oedd yn ei argymell.

 

Nodwyd bod nifer o sylwadau wedi dod i law gan breswylwyr ynghylch y dyddiau casglu gwahanol yn yr un ardal, a oedd yn cael ei ystyried yn ddefnydd aneffeithiol o adnoddau. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod casgliadau newydd wedi cael eu cyflwyno fel rhan o’r rhaglen rhesymoli llwybrau ar 31 Hydref 2016, gan effeithio ar 65,000 o dai ledled y sir. Ar ben hynny, er mwyn sicrhau gwasanaeth mwy effeithlon, cafodd yr ymarfer rhesymoli ei ystyried yn ei gyfanrwydd ac nid ar ben ei hun, ac felly roedd yn cynnwys ffiniau cymhleth a oedd yn golygu bod yn rhaid newid y dull o gasglu i 7,000 o dai yn ogystal â'r dyddiau casglu.

 

Mewn ymateb i ymholiad am gost y cerbydau casglu sbwriel newydd, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod costau'r cerbydau tua £163,000, ac roedd cyfanswm yr holl gerbydau newydd yn costio tua £4 miliwn.      

 

O ganlyniad i'r arbrawf ar gyfer y bagiau biniau bwyd ar gyfer cadis cegin, mynegwyd siom o ran y nifer isel o eiddo ychwanegol a oedd bellach yn cymryd rhan yn ailgylchu bwyd. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai'n ofynnol o bosibl i gynnal adolygiad pellach ac arbrawf arall er mwyn llywio strategaeth yn y dyfodol.

 

Cyfeiriwyd at y contract ailgylchu a thrin gwastraff yn y dyfodol. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff sicrwydd i'r Pwyllgor, er y byddai'r amserlen gaffael yn dynn, roedd y gwaith rhagarweiniol eisoes wedi dechrau gan gynnwys y gwaith o sefydlu bwrdd prosiect. Roedd cynnydd wedi'i wneud yn paratoi dogfennau tendro a byddai rheolwr prosiect yn cael ei gyflogi i reoli'r broses gyfan.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad diweddaru ynghylch Strategaeth y Gwasanaeth Gwastraff.

 

8.

ADRAN CYMUNEDAU: GYNLLUN BUSNES CRYNODEB YR ADRAN AM 2017-2020 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Grynodeb o Gynllun Busnes Adrannol yr Adran Cymunedau 2017-20 a oedd yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r camau ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd.  Nodwyd y byddai'r cynllun busnes llawn yn cael ei gyflwyno i aelodau yn gynnar yn 2017 yn dilyn cyfres o weithdai gydag uwch reolwyr a staff.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mynegwyd pryder o ran y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau ychwanegol a osodwyd ar y gwasanaeth gydag ychydig iawn o refeniw er mwyn cefnogi'r swyddogaethau hyn. Roedd un enghraifft yn cynnwys monitro RADON mewn cyflenwadau d?r preifat. Mynegwyd pryderon ychwanegol ynghylch effaith pwysau'r ddeddfwriaeth ychwanegol ar yr adran. Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod gwaith yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru i lunio cynllun adferol. Yn ogystal, er mwyn rhyddhau ychydig o'r pwysau ar yr adran, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod y gwaith yn parhau i gydweithio'n rhanbarthol drwy rannu arbenigedd a llwythi gwaith.

 

PENDERFYNWYD derbyn Crynodeb o Gynllun Busnes Adrannol yr Adran Cymunedau 2017-20

 

9.

CYNLLUN BUSNES DRAFFT ADRAN YR AMGYLCHEDD 2017-20 pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Adrannol Drafft Adran yr Amgylchedd 2017-20 a oedd yn amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer yr adran a sut yr oedd yr adran wedi cefnogi pum ffordd o weithio a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at yr adain Risgiau Trafnidiaeth a Phriffyrdd yn y cynllun busnes lle mynegwyd pryderon ynghylch y gostyngiad mewn cyllid ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd a phontydd o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Teimlwyd y dylid rhoi mwy o flaenoriaeth i gynnal a chadw ffyrdd a phontydd. Roedd y Pwyllgor yn cydnabod fod y gwariant o £12 miliwn wedi cael ei hwyluso yn ystod y blynyddoedd diwethaf drwy fenthyg yr arian, ond nid oedd arian pellach ar gael ar hyn o bryd. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol er y byddai sylwadau'r Aelodau'n cael eu hystyried, yn anffodus, er mwyn sicrhau arian ychwanegol i'r maes hwn, byddai'n rhaid nodi arbedion mewn meysydd eraill. Ychwanegodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod £1.4 miliwn wedi cael ei nodi fel rhan o'r rhaglen gyfalaf i gynorthwyo â'r mater hwn.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y cysylltiadau seilwaith trafnidiaeth, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod ceisiadau cynllunio ar waith ar hyn o bryd.  Dywedodd y Pennaeth Cynllunio fod y tîm cynllunio yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn trafod y mater.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch llifogydd posibl o dd?r wyneb yn Sir Gaerfyrddin, a gofynnwyd a fyddai modd darparu cerbyd glanhau cwteri ychwanegol er mwyn rheoli llifogydd yn yr ardal. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod tri o gerbydau glanhau cwteri yn gweithredu ledled Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd. Ar ben hynny, er mwyn bod yn rhagweithiol, byddai adolygiad yn cael ei gynnal er mwyn sicrhau cynllunio effeithiol wrth symud ymlaen.

 

Mewn ymateb i gais am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Ffordd Gyswllt Gorllewin Caerfyrddin, eglurodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod y gwaith o brynu'r tir yn cael ei brosesu ar hyn o bryd a bod y gwaith ar amser. Mynegwyd pryderon pellach o ran y diffyg gwybodaeth i breswylwyr lleol. Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y byddai trefniadau'n cael eu gwneud i sicrhau bod preswylwyr lleol yn cael rhagor o wybodaeth.

 

Gofynnwyd am wybodaeth ynghylch yr hyn oedd yn cael ei wneud i leihau'r tagfeydd yng nghanol tref Rhydaman. Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd ei fod yn cydnabod pryderon yr Aelodau a chadarnhaodd fod Llandeilo yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac o ran y Blaenoriaethau Buddsoddi mewn Seilwaith Ffyrdd, Gorllewin Caerfyrddin a Rhydaman oedd y nesaf ar y rhestr.  Yn ogystal, o ran y blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun Trafnidiaeth Lleol, roedd cynllun y gylchfan yn ceisio lleihau tagfeydd yn nhref Rhydaman ac o'i chwmpas.

 

PENDERFYNWYD derbyn Cynllun Busnes Adrannol Drafft Adran yr Amgylchedd 2017-20

10.

CRYNODEB O GYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2017-20 pdf eicon PDF 231 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad ar Gynllun Busnes Adrannol y Prif Weithredwr 2017-20. Roedd yr adroddiad yn cynnwys detholiad o'r agweddau a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd o ran Diogelwch Cymunedol.

 

Darparodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol olwg gyffredinol ar y gwaith a gyflawnwyd dros y flwyddyn ddiwethaf a oedd yn cynnwys nifer o ymgyrchoedd diogelwch a gafodd eu hyrwyddo yn rhifyn yr haf o Newyddion Sir Gâr.  Nodwyd bod Sir Gaerfyrddin yn parhau yn un o'r ardaloedd mwyaf diogel yn y DU, er bod lefel y troseddau a gofnodwyd wedi cynyddu o 10.1% o 2015/16.  Ar ben hynny, adroddwyd bod digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gostwng 15.5% a oedd o ganlyniad i bartneriaethau gwell a gwaith amlasiantaeth wedi'i dargedu er mwyn helpu i leihau digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Roedd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol hefyd wedi tynnu sylw at y blaenoriaethau yn y Strategaeth Gymunedol Integredig ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

11.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2017/18 TAN 2019/20 pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2017/18 i 2019/20 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 21 Tachwedd 2016.  Roedd yr adroddiad yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2017/2018, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018/19 a 2019/2020. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 19 Hydref 2016.

 

Cynghorwyd bod y setliad amodol a gyhoeddwyd gryn dipyn yn well na'r hyn a ddisgwyliwyd, fodd bynnag, roedd yn cael ei gydnabod y byddai'r setliad niwtral yn parhau i gael effaith negyddol ar adnoddau'r Cyngor.

 

Gan grynhoi, byddai'r cynigion ar gyfer y gyllideb yn darparu'r £24.6 miliwn o arbedion a nodwyd. Ar ben hynny, roedd y cynigion ar gyfer y gyllideb yn golygu cynnydd yn y Dreth Gyngor o 2.5% yn y strategaeth a symudiad o 1% a oedd yn cyfateb i +/-£790k.

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr amserlen ymgynghori ar y gyllideb, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol wrth y Pwyllgor fod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben ar 4 Ionawr 2017, a byddai'n cael ei ystyried yn ystod Cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a oedd i'w gynnal ar 2 Chwefror 2017.


PENDERFYNWYD nodi'r Ymgynghori ar y Gyllideb Refeniw 3 blynedd 2017/18 hyd at 2019/20.

 

12.

Y RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD - 2017/18 - 2021/22 pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd 2017/18 hyd at 2021/22 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 21 Tachwedd 2016.  Byddai'r adborth o'r broses ymgynghori hon, ynghyd â chanlyniad y setliad terfynol, yn cyfrannu at yr adroddiad terfynol ynghylch y gyllideb a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r aelodau i'w ystyried ym mis Chwefror, 2017.


Roedd yr adroddiad yn nodi'r setliad dros dro a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ar 19 Hydref 2016, a oedd yn nodi cyllid cyfalaf o £9.400 miliwn ar gyfer yr Awdurdod yn 2017/18. Roedd y cyllid yn cynnwys benthyca â chymorth o £5.844 miliwn a Grant Cyfalaf Cyffredinol o £3.556 miliwn. Nodwyd yn absenoldeb unrhyw ddyraniadau amcanol gan Lywodraeth Cymru, roedd y lefel hon o gyllid wedi cael ei thybio ar gyfer bob blwyddyn o'r rhaglen bum mlynedd.

 

Roedd y rhaglen gyfalaf arfaethedig yn gyfanswm o £208 miliwn dros y 5 mlynedd, gyda'r nod o gyflawni nifer o brosiectau allweddol, gan gynnwys creu swyddi a gwella ansawdd bywyd pobl Sir Gaerfyrddin. Gan grynhoi, y sefyllfa gyffredinol o ran y cyllid arfaethedig yn £120.035 miliwn gan y Cyngor Sir gyda chyllid allanol sy'n cyfateb i £85.337 miliwn, ac felly'n gadael diffyg o £3.123 miliwn.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at y prinder arian ar gyfer Amddiffynfeydd Arfordirol o 2018/19 ymlaen, ac awgrymwyd y dylai'r Cyngor fod yn rhagweithiol yn y maes hwn drwy ddynodi arian fel mesur ataliol, a fyddai yn ei dro yn osgoi unrhyw wariant ymatebol heb ei gynllunio.  Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd wrth y Pwyllgor mai'r bwriad oedd dynodi arian ar gyfer cynlluniau penodol fel rhan o raglen dreigl.

 

PENDERFYNWYD nodi'r Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd 2017/18 hyd at 2021/22.

13.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y 11EG O DACHWEDD 2016 pdf eicon PDF 289 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2016, gan eu bod yn gywir.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau