Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd - Dydd Gwener, 21ain Ebrill, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D.C. Evans, A. James, W.G. Thomas a H.A.L. Evans [Yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Technegol]

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 

Y Cyng. D. Davies

 

 

6. Llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a oedd wedi'i gynnal ar 3 Mawrth 2017 yn gywir.

 

 

Cadeirydd Cymdeithas Bysgota Amatur Caerfyrddin

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

5.

ADRAN CYMUNEDAU GYNLLUN BUSNES YR ADRAN AM 2017-2020 pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes yr Adran Cymunedau am 2017-20
 a oedd yn rhoi trosolwg cynhwysfawr i'r Aelodau ar gynnydd yr Adran Cymunedau. Nodwyd, er bod y cynllun yn cwmpasu holl flaenoriaethau'r Adran, mai rôl y Pwyllgor oedd craffu ar elfennau Diogelu'r Cyhoedd.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol sy'n codi yn yr adroddiad ac sy'n ymwneud â Diogelu'r Cyhoedd:

 

Gwnaed sylw mewn perthynas â thudalen 3 o'r cynllun, a ddangosai restr o'r aelodau presennol o'r Bwrdd Gweithredol. Dywedwyd y byddai angen i'r cynllun, er mwyn osgoi camarwain y cyhoedd, gael ei gymeradwyo gan yr Aelodau fyddai'n cael eu hethol ym mis Mai.  Eglurodd Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd mai copi drafft oedd y cynllun a roddwyd gerbron y Pwyllgor heddiw, a fyddai'n cael ei ddiweddaru fel y bo'r angen yn dilyn yr Etholiad ym mis Mai. Yn ogystal, yn dilyn y weinyddiaeth newydd ac ethol Aelodau'r Bwrdd Gweithredol, byddai'r Cynllun Busnes yn cael ei ddychwelyd i'r Pwyllgor ar ôl i'r blaenoriaethau gael eu hailystyried.

 

Gofynnwyd am gael y wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â monitro pysgod cregyn yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru a'r Asiantaeth Safonau Bwyd, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r safonau ar gyfer casglu masnachol. Dywedodd Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd nad oedd yn gallu rhoi diweddariad manwl ar hyn o bryd, ond byddai diweddariad ar y mater hwn yn cael ei ddosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor.

 

Cyfeiriwyd at y blaenoriaethau oedd yn gysylltiedig ag adain y Gwasanaethau Hamdden Awyr Agored. Y farn oedd fod y blaenoriaethau a nodwyd yn canolbwyntio gormod ar ardal Caerfyrddin ac y dylid eu hymestyn i gynnwys ardaloedd eraill o Sir Gaerfyrddin. 

 

PENDERFYNWYD fod Cynllun Busnes yr Adran Gymunedau ar gyfer

2017-20 yn cael ei dderbyn.

 

6.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y 3YDD MAWRTH, 2017 pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at Gofnod 11 Y Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd: y diweddaraf ynghylch y camau gweithredu ac atgyfeiriadau. O ran y cais i wahodd cynrychiolydd o Valero i ddod i gyfarfod yn y dyfodol, dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod Valero wedi gwrthod y gwahoddiad a bod copi o'r ymateb wedi ei ddosbarthu i bob aelod o'r Pwyllgor drwy'r e-bost.

 

Bryd hynny, datganodd y Cynghorydd D Davies fuddiant gan ei fod yn Gadeirydd Cymdeithas Bysgota Amatur Caerfyrddin.

 

Mynegwyd siomedigaeth fawr ynghylch ymateb Valero. Yn dilyn sgwrs fer, cytunodd y swyddogion i ddilyn hynt y mater.

 

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod Pwyllgor Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a oedd wedi'i gynnal ar 3 Mawrth, 2017 yn gywir.