Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD AR GYFER Y CYFARFOD

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd A.P. Cooper yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr W.G. Thomas, J. Williams, J. Tremlett [Yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd], a T.J. Jones [Yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd].

 

3.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

4.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip.

 

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

6.

ADRODDIAD Y BWRDD CYNLLUNIO ARDAL YNGHYLCH STRATEGAETH A DATBLYGU CAMDDEFNYDDIO SYLWEDDAU AC ALCOHOL 2015/16 pdf eicon PDF 180 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawyd Caroline Phipps [Drugaid Cymru] a'r Uwch-arolygydd Claire Parmenter (Heddlu Dyfed-Powys) i'r cyfarfod. [Yn gynharach roedd yr Aelodau wedi achub ar y cyfle i ymweld â bws Drugaid.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad y Bwrdd Cynllunio Rhanbarthol am y Strategaeth ynghylch Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol a'i Datblygiad 2015/16, a oedd yn rhoi sylw i ystod o feysydd, er mwyn rhoi gwybodaeth i aelodau a'u diweddaru o ran y trefniadau comisiynu presennol a'r gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a ddarperir. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am

 

·       yr amcanion strategol mewn perthynas â darparu gwasanaethau o'r fath, y trefniadau cyllido, a'r gwasanaethau/prosiectau oedd yn cael eu comisiynu;

·       datblygiadau lleol a chadarnhad ynghylch y trefniadau llywodraethu a chynllunio oedd ar waith yn rhanbarthol.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol, mewn ymateb i gwestiwn, fod swyddogion penodedig yn bod a oedd yn gyfrifol am fonitro contractau gyda'r holl asiantaethau gwasanaeth. Roedd y defnydd o Fws Drugaid yn cael ei groesawu, yn enwedig fel ffordd o ymestyn y gwasanaeth yr oedd yn ei gynnig i rannau mwy gwledig o'r sir.

Dywedwyd bod angen cymorth i ddod o hyd i waith ar bobl oedd â phroblemau cysylltiedig ag alcohol, os oedd yfed yn un o'r pethau oedd yn eu rhwystro rhag gwneud hynny, a bod angen cynnal ymgyrch mewn sefydliadau trwyddedig i fynd i'r afael ag yfed a chymryd cyffuriau.

Dywedodd cynrychiolydd Drugaid fod pobl â phroblemau cysylltiedig ag yfed neu gymryd cyffuriau yn gallu cael gwasanaethau cwnsela a bod cyllid Ewropeaidd wedi cael ei sicrhau yn ddiweddar ar gyfer ymchwilio i ffyrdd o gael unigolion o'r fath yn ôl i'r gwaith. Ychwanegodd y cynrychiolydd y byddai'n fodlon cynnwys y gwasanaeth mewn unrhyw ymgyrch mewn tafarn neu glwb a âi i'r afael ag yfed/cymryd cyffuriau. 

Pwysleisiodd cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys pa mor bwysig oedd gwybodaeth leol o ran mynd i'r afael â phroblemau cysylltiedig ag yfed a chymryd cyffuriau mewn cymunedau, yn enwedig gan fod y dirywiad cyffredinol yn yr economi hwyrol yn golygu bod yrHeddlu yn gweld cynnydd mewn trais cysylltiedig ag alcohol mewn lleoliadau domestig.

Mewn ymateb i gwestiwn am broblemau cyffuriau mewn ysgolion, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod gan yr Heddlu 5 swyddog amser llawn yn gweithio ledled ysgolion Sir Gaerfyrddin, a bod y swyddogion wedi mynychu tua 1900 o sesiynau ar gyffuriau, alcohol, seiberfwlio ac ati. Hefyd roedd bws Drugaid yn ymweld ag ysgolion.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

7.

ADOLYGIAD GORCHWYL A GORFFEN O WASANAETHAU TRÎN CAMDDEFNYDDIO SYLWEDDAU GAN Y PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD - MONITRO'R CYNLLUN GWEITHREDU pdf eicon PDF 215 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar y cynnydd oedd yn cael ei wneud mewn perthynas â'r argymhellion gan Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor yn dilyn adolygu'r gwasanaethau triniaeth camddefnyddio sylweddau yn 2013/14. Dywedwyd bod rhai o'r camau gweithredu'n dal i fynd rhagddynt ac yn cael eu cymryd gyda’r asiantaethau priodol. Mewn ymateb i gwestiwn dywedodd cynrychiolydd Drugaid fod y cynnydd mewn atgyfeiriadau i'r tîm camddefnyddio sylweddau yn dangos bod mwy o unigolion yn defnyddio'r gwasanaeth. Hefyd rhoddodd sicrwydd i'r aelodau, yn sgil mynegi rhai pryderon, fod cydnabyddiaeth yn cael ei rhoi i bwysigrwydd sicrhau bod y gwasanaethau oedd yn cael eu his-gontractio yn cael eu rheoli'n briodol.  Dywedodd cynrychiolydd yr Heddlu y byddai ei swyddogion yn ymweld ag unrhyw safle yr oedd pryderon yn ei gylch, ac y byddai unrhyw achos o droseddu'n cael ei drin mewn modd cyfatebol. Awgrymwyd y gallai'r holl Gynghorwyr elwa ar gael hyfforddiant ynghylch ymwybyddiaeth o gamddefnyddio sylweddau a ffyrdd o helpu'r Heddlu â gwybodaeth leol am gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

 

PENDERFYNWYD

 

7.1 Nodi'r cynnydd a wnaed a chymeradwyo'r cynllun gweithredu mewn perthynas â'r argymhellion gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn dilyn adolygu'r gwasanaethau triniaeth camddefnyddio sylweddau yn 2013/14;

 

7.2 Gofyn i'r Rheolwr Diogelwch Cymunedol drefnu seminar i'r aelodau ar gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau