Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd - Dydd Gwener, 11eg Tachwedd, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Matthew Hughes 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr W.G. Thomas, W.J Lemon a T.J. Jones [Aelod o’r Bwrdd Gweithredol – Diogelu’r Cyhoedd a’r Amgylchedd].

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Hysbysodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y ffaith bod yr Eitemau ar gyfer y Dyfodol i’w trafod yng nghyfarfod mis Rhagfyr yn ymwneud yn gyfan gwbl â’r gyllideb, fe wnaeth y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd atgoffa’r Pwyllgor bod cyfarfodydd mis Rhagfyr yn cael eu neilltuo’n draddodiadol i graffu ar y cynigion ar gyfer cyllideb y flwyddyn sydd i ddod. 

 

Cyfeiriwyd at y digwyddiad diweddar a oedd yn ymwneud ag arllwysiad Olew Cerosin yn Nant-y-caws, ger Caerfyrddin. Rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd wybod i’r Pwyllgor fod yr argyfwng bellach yn symud i’r cam adfer gyda’r cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo’n ffurfiol gan Heddlu Dyfed-Powys i’r Gr?p Adfer Lleol (GALl). Bydd y GALl yn cael ei gadeirio gan Gyfarwyddwr yr Amgylchedd.

 

Yn dilyn ymholiad ynghylch cais y Pwyllgor am seminar ar Ddynladdiad Corfforaethol, cadarnhaodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau Dynol, Effeithlonrwydd a Chydweithio fod y Bwrdd Gweithredol wedi cael cyflwyniad ar ddynladdiad corfforaethol ond ei fod wedi penderfynu, gan fod disgwyl y bydd carfan newydd o aelodau etholedig ar ôl yr etholiadau ym mis Mai, y byddai’n fwy priodol i seminar o’r fath gael ei threfnu bryd hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol yn amodol ar gynnwys diweddariad ar yr arllwysiad olew yn Nant-y-Caws.

6.

TRAWSNEWID I WNEUD CYNNYDD (TIC) - DIWEDDARIAD AR Y RHAGLEN pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y rhaglen ‘Trawsnewid i Wneud Cynnydd’ (TIC). Nododd yr Aelodau fod y fenter, a sefydlwyd yn 2012, wedi’i lansio mewn ymateb i’r  heriau ariannol sylweddol yr oedd yr Awdurdod Lleol yn eu hwynebu a bod y dull TIC, hyd y dyddiad hwnnw, wedi bod o gymorth i adnabod, neu’n helpu i gyflawni, arbedion effeithlonrwydd gwerth tua £7m. Cafodd y Pwyllgor drosolwg hefyd o’r Adolygiad o Reoli Fflyd y Cyngor dan y Rhaglen TIC y dangoswyd ei fod yn dwyn arbedion sylweddol trwy ddefnydd mwy effeithiol ac effeithlon o fflyd y Cyngor o gerbydau a gostyngiadau yn y gwariant sy’n gysylltiedig â theithio gan staff trwy fabwysiadu ffyrdd doethach o weithio.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried y diweddariad: 

 

Yn dilyn ymholiad, rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd sicrwydd i’r Pwyllgor bod swyddogion yn hyderus y byddant yn cyflawni’r arbedion arfaethedig. O ran y broses TIC, roedd yn hollbwysig ymgysylltu â staff er mwyn sicrhau bod datrysiadau newydd yn cael eu cyflawni. Mewn ymateb i ymholiad pellach ynghylch y gorwariant yn y gwasanaeth cludiant teithwyr, rhoddodd wybod i’r Pwyllgor bod trafodaethau gyda’r Gwasanaethau Ariannol yn mynd rhagddynt i ddatrys y mater hwn.

 

Cyfeiriwyd at gynigion blaenorol i ddatblygu depo canolog ar gyfer gwasanaethau priffyrdd. Cadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod hwn yn dal i gael ei ystyried fel rhan o’r agenda gweithio hyblyg a bod tîm adrannol wedi cael ei sefydlu i ystyried gwahanol opsiynau a gofynion y gwasanaeth, er nad oedd unrhyw gynlluniau pendant i’w cael ar hyn o bryd. 

 

Gofynnwyd a allai’r model cyfrifiadurol a oedd yn cael ei ddefnyddio i gynllunio llwybrau casglu gwastraff gael ei ddefnyddio ar gyfer llwybrau Cludiant i’r Ysgol, er mwyn canfod arbedion effeithlonrwydd pellach a gofynnwyd a oedd ymgynghori’n digwydd â’r gwasanaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd ynghylch lleoliad ysgolion a chartrefi gofal newydd. Cadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod ymgynghori’n digwydd â’r gwasanaeth fel rhan o unrhyw ddatblygiad pwysig, yn enwedig ar gyfer ysgolion trwy’r Rhaglen Moderneiddio Addysg. Roedd anghenion cludiant disgyblion wedi dylanwadu ar leoliad Ysgol Bro Dinefwr, er enghraifft. Mewn perthynas â llwybrau cludiant i’r ysgol, roedd swyddogion yn sicrhau bod y galw’n cael ei reoli yn y lle cyntaf cyn penderfynu ar y llwybrau priodol. Roedd adolygiad diweddar o Gludiant Ysgol wedi canfod bod y llwybrau’n gweithredu ar lefel effeithlonrwydd o 95%. Fodd bynnag, roedd trefniadau i ddefnyddio tacsis ar gyfer disgyblion ysgol yn faes allweddol a oedd yn cael ei adolygu trwy’r broses TIC.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch gostyngiadau blaenorol mewn lefelau staffio, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd nad oedd unrhyw swyddi’n cael eu colli’n orfodol o ganlyniad i’r broses a bod arbedion effeithlonrwydd o ran staff yn cael eu gwneud trwy gyfraddau ymadael naturiol a chynlluniau diswyddiadau. Ychwanegwyd fod y tîm TIC yn gwneud gwaith parhaus i ystyried ffyrdd gwahanol o weithio er mwyn osgoi toriadau i wasanaethau rheng flaen, yr oedd yr adolygiad o'r fflyd yn enghraifft dda ohono, gan fod costau cyflenwi wedi cael eu lleihau o ganlyniad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM ADRODDIAD YMCHWIL LLYWODRAETH Y DEYRNAS UNEDIG I WASANAETHAU SAFONAU MASNACH pdf eicon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddiweddariad ar adroddiad ymchwil Llywodraeth y DU ar wasanaethau safonau masnach, sef ‘Impact of Local Authority Trading Standards in Challenging Times’, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2015.  

Amcanion yr ymchwil oedd:

  • archwilio manteision ac effeithlonrwydd gweithgareddau safonau masnach
  • dangos sut y maent yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol a lleol
  • dangos effaith toriadau i gyllid dros y blynyddoedd diwethaf

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth hefyd i ymateb gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i’r adroddiad. 

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at y seminar ddatblygu addysgiadol ar Gynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol y tîm Safonau Masnach a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2016 a chynigiwyd y dylid cynnwys hon fel sesiwn datblygu aelodau orfodol fel rhan o’r broses sefydlu ar ôl yr etholiad. Cytunodd y Pwyllgor yn unfrydol â’r cynnig.

 

Awgrymwyd y byddai’n fanteisiol i’r Pwyllgor wahodd y swyddog cyfrifol o CLlLC i fod yn bresennol mewn cyfarfod yn y dyfodol. Nododd Rheolwr y Gwasanaethau Safonau Masnach fod Simon Wilkinson wedi cael gwahoddiad i fod yn bresennol ond nad oedd wedi gallu gwneud hynny ar yr achlysur hwn. Fodd bynnag, byddai’n cadarnhau a fyddai’n gallu bod yn bresennol mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig hwn. 

 

Yn dilyn nifer o ymholiadau a godwyd ynghylch costau llys, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Safonau Masnach mai dim ond yn dilyn erlyniad llwyddiannus yr oedd y costau hyn yn cael eu dyfarnu ac mae dim ond costau a ysgwyddwyd oedd y rhain. Rhoddodd wybod i’r Pwyllgor fod Deddf Enillion Troseddau 2002 yn caniatáu i’r Awdurdod adfer costau ychwanegol gan droseddwyr ond bod yn rhaid bod cyfiawnhad dros y rhain. Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor hefyd y gallai’r Awdurdod fynd ar ôl mwy o’r achosion hyn yn y dyfodol. Ychwanegodd Rheolwr y Gwasanaethau Safonau Masnach y gellid darparu diweddariad pellach ar gyfer aelodau mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i sylw ynghylch effaith toriadau i gyllidebau ar y gwasanaeth, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Safonau Masnach mai dim ond yr elfen iechyd anifeiliaid oedd wedi’i datganoli i Lywodraeth Cymru ac mai gyda’r setliad cyllideb ar gyfer yr elfen hon y bu oedi sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. 

 

Roedd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau yn dymuno cydnabod y gwaith rhagorol yr oedd y Tîm Safonau Masnach yn ei ddarparu a dywedodd ei bod yn dda nodi bod safon uchel y gwaith wedi bod yn enghraifft o arfer gorau’n genedlaethol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1       Derbyn yr adroddiad.

 

7.2       Ymgorffori’r seminar ar y Cynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol fel rhan o’r Rhaglen Sefydlu Aelodau ar ôl yr etholiad fel sesiwn orfodol.  

 

7.3       Gwahodd Simon Wilkinson o CLlLC i fod yn bresennol yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD YR AMGYLCHEDD A'R GWASANAETHAU TRWYDDEDU 2015/16 pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad blynyddol a oedd yn nodi rolau a chyfrifoldebau Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu. Roedd y gwasanaeth yn cwmpasu diogelwch bwyd, clefydau heintus, iechyd a diogelwch, trwyddedu, llygredd (gan gynnwys aer, tir a s?n), niwsans (gan gynnwys s?n, aroglau, mwg a.y.b.), cyngor ynghylch rheoli plâu a gwasanaethau wardeniaid c?n. Roedd y gwaith yn statudol yn bennaf ac roedd yr adroddiad yn enghreifftio’r galwadau ar y gwasanaeth a’r heriau a wynebwyd yn 2015/16.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at y taliadau a godir am gyngor cyn cynllunio a gofynnwyd a allai’r Uned gael canran o’r ffi hon am ei chyfraniad i’r broses gynllunio. Cadarnhaodd Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu fod hyn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd, yn enwedig yng ngoleuni newidiadau deddfwriaethol diweddar.   

 

Cyfeiriwyd at ddatganiad yn yr adroddiad a oedd yn nodi nad oedd y fframwaith presennol ar gyfer monitro a rheoli’r diwydiant pysgod cregyn yn effeithiol ar hyn o bryd o ran sicrhau gorfodi llwyddiannus. Eglurodd Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu mai Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) oedd y corff a oedd yn gyfrifol am ardal Cilfach Tywyn tra bo gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau am Gilfach y Tair Afon. Roedd parhad tystiolaeth a heriau daearyddol yn amharu ar waith yr asiantaethau amrywiol.

 

Gofynnwyd pam y bu nifer uchel o achosion campylobacter yn 2015/16. Rhoddodd Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu wybod i’r Pwyllgor fod campylobacter yn codi’n naturiol yn yr amgylchedd yn hytrach nag o safleoedd masnachol a’i fod ar lefel uchel yn genedlaethol lle nad oedd achosion gwasgaredig yn anghyffredin.

 

Yn dilyn ymholiad, cafwyd trafodaeth am drin fermin a phlâu. Dywedodd Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu, er bod yr Awdurdod wedi rhoi’r gorau i ddarparu ei wasanaeth triniaeth nifer o flynyddoedd yn flaenorol, fod y tîm yn cynnal ymweliadau ymgynghorol â chartrefi mewn ymateb i gwynion am fermin a phlâu. Fodd bynnag, roedd prosiect peilot i drin digwyddiadau yng nghartrefi’r Cyngor yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i ganfod a oedd hyn yn gost-effeithiol ai peidio. Roedd arolwg yn cael ei gynnal hefyd yn gofyn i ddinasyddion Sir Gaerfyrddin a fyddent yn fodlon talu am wasanaeth rheoli fermin a phlâu yn y dyfodol. Roedd y prosiect peilot trin plâu yn cael ei gynnal gan y Wardeniaid C?n (ochr yn ochr â’u dyletswyddau eraill) ac roedd disgwyl iddo barhau tan ddiwedd mis Mawrth 2017. 

 

Yn dilyn ymholiad yn y cyfarfod blaenorol ynghylch tanau sbwriel gardd, gofynnwyd a allai Cynghorwyr gael canllawiau ynghylch y mater hwn. Dywedodd Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu y byddai’n darparu canllawiau ar gyfer Cynghorwyr ar ôl y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

9.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2016/17 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r Adroddiad Monitro Cyllideb Cyfalaf a Refeniw ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd, Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd a’r Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol, a oedd yn nodi’r sefyllfa ar 31 Awst 2016 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2016/17. Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at y gorwariant sylweddol yn yr Adain Polisi a Pherfformiad ac at y ffaith bod costau cefn swyddfa i’w gweld fel pe baent yn cynyddu tra bo toriadau’n cael eu gwneud mewn gwasanaethau rheng flaen megis glanhau strydoedd. Rhoddodd y Rheolwr Gwella Busnes wybod i’r Pwyllgor fod costau’r adain hon yn cynnwys materion megis cynllunio at argyfwng a hyfforddiant adrannol ond bod adolygiad o’r adain yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd sicrwydd i’r Pwyllgor fod yr adran yn bwrw golwg ar ei chostau gyda golwg ar ddiogelu gwasanaethau rheng flaen, ac mai dyma oedd y rheswm pam fod nifer o adolygiadau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd.

 

Mewn ymateb i’r Gwasanaeth Parcio a Theithio o Nant-y-ci i Ysbyty Glangwili, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd, er bod y Bwrdd Iechyd yn cyfrannu at gost y gwasanaeth, bod y gwasanaeth yn dal i fod yn bwysau ar y gyllideb a bod y pwysau’n cael ei fonitro. Y consensws cyffredinol oedd bod y Gwasanaeth Parcio a Theithio i’w weld fel pe bai’n dwyn budd i ddefnyddwyr eraill y ffordd, ond bod yr anawsterau parcio yn Ysbyty Glangwili yn dal i fod yn broblem. Rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Technegol wybod i’r Pwyllgor fod cyfarfodydd ar y cyd yn cael eu cynnal gyda’r Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch marchnadoedd da byw a’r golled hyd yma, dywedodd y Cyfrifydd Gr?p y byddai’n anfon manylion pellach ynghylch y mater hwn at yr aelodau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

10.

ADRODDIAD HANNER BLWYDDYN CWYNION A CHANMOLIAETH 2016/17 pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn darparu ystadegau a dadansoddiad ar gyfer yr aelodau mewn perthynas â chwynion, canmoliaeth ac ymholiadau a gafwyd ac yr ymdriniwyd â hwy rhwng mis Ebrill a mis Medi 2016/17.

 

Mynegwyd siom fod yr adroddiad Cwynion a Chanmoliaeth yn dal i hepgor ymholiadau gan Gynghorwyr a oedd yn aml yn gwynion ond yn cael eu cyflwyno trwy broses wahanol. Roedd teimlad nad oedd yr adroddiad felly’n adlewyrchiad cywir o’r ganmoliaeth a’r cwynion a oedd wedi dod i law’r Awdurdod. Yn dilyn trafodaeth fer, dywedodd y Rheolwr Cymunedau a Diogelu y byddai’n cysylltu â’r Uned Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â’r mater hwn ac y byddai’n ystyried hyn yn yr adroddiad nesaf.

 

Mewn ymateb i ymholiad a oedd yn gofyn pam mae 41% o’r cwynion a gyflwynwyd i Adran yr Amgylchedd wedi cael ymateb ar ôl y cyfnod penodedig, rhoddodd y Rheolwr Gwella Busnes wybod i’r Pwyllgor y bydd yr Adran yn aml yn cytuno ar estyniad gyda’r achwynydd er mwyn cynnal adolygiad trylwyr mewn perthynas â’i g?yn. Er y byddai’r Adran wedi ymateb i’r achwynydd o fewn y graddfeydd amser penodedig, ni chofnodir bod y broses o ymdrin â’r g?yn wedi’i chwblhau nes bod y g?yn wedi cael ei datrys.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

11.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn y diweddariad.

12.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU pdf eicon PDF 63 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod y Diweddariad ar y Strategaeth Gwastraff heb gael ei gyflwyno a gofynnodd a ellid ei ystyried yn y cyfarfod nesaf. Mewn ymateb i ymholiad pellach, cadarnhaodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Technegol fod y gwaith mewn perthynas â’r trefniadau cytundebol yn y dyfodol ar gyfer trin, ailgylchu a gwaredu gwastraff yn dal i fynd rhagddo.

 

Penderfynwyd:

 

12.1     Nodi bod y diweddariad heb gael ei gyflwyno.

 

12.2.    Y byddai’r Diweddariad ar y Strategaeth Gwastraff yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf.

 

13.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y 26AIN O FEDI 2016 pdf eicon PDF 192 KB

Cofnodion:

Mynegwyd siom nad oedd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu’r Cyhoedd a’r Amgylchedd wedi cyflwyno na blaenyrru diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran mynd i’r afael â phlanhigion goresgynnol. Cytunodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd y byddai hwn yn cael ei gynnwys ar raglen waith y Pwyllgor. 

 

Cyfeiriwyd hefyd at gais y Pwyllgor bod y Comisiynydd Heddlu a Throseddu newydd yn cael ei wahodd i un o’i gyfarfodydd yn y dyfodol. Rhoddodd y Cadeirydd wybod i’r Pwyllgor fod yr Arweinydd wedi penderfynu ei bod yn fwy priodol gwahodd y Comisiynydd i un o gyfarfodydd y Cyngor Sir yn y dyfodol ac y byddai hyn yn cael ei drefnu yn y dyfodol agos. 

 

Gofynnwyd hefyd pryd fyddai trigolion yn cael eu hysbysu ynghylch y trefniadau newydd ar gyfer casglu gwastraff gwyrdd o’r ardd. Rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Technegol wybod i’r Pwyllgor y byddai trigolion y Sir yn cael eu hysbysu ynghylch yr opsiynau maes o law ac y byddai samplau o finiau’n cael eu gosod ym mhrif adeiladau gweinyddol y Cyngor er mwyn i drigolion allu penderfynu pa ddatrysiad fyddai’n gweddu orau i’w hanghenion hwy, cyn archebu. 

 

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 26 Medi 2016 fel cofnod cywir.

14.

DERBYN COFNODION CYFARFOD AR Y CYD Y PWYLLGORAU CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD A GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD, A GYNHALIWYD AR Y 26AIN O FEDI 2016 pdf eicon PDF 139 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod ar y cyd y Pwyllgorau Craffu a gynhaliwyd ar 26 Medi 2016.