Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd - Dydd Llun, 26ain Medi, 2016 10.30 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Matthew Hughes 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Roedd ymddiheuriadau am absenoldeb wedi dod i law gan y Cynghorwyr J.P. Jenkins, W.G. Thomas a T.J. Jones [Aelod o'r Bwrdd Gweithredol – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd].

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

 Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL 2015/16 pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawyd y Cynghorydd P.A. Palmer (Cadeirydd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol) a'r Uwch-arolygydd Claire Parmenter (Heddlu Dyfed-Powys) i'r cyfarfod gan y Cadeirydd.

 

Rhoddwyd yr adroddiad blynyddol i'r Pwyllgor gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) Sir Gaerfyrddin a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol â chyfrifoldeb dros Gyswllt â'r Heddlu, Diogelwch Cymunedol, Cyfiawnder Cymdeithasol / Troseddau ac Anhrefn (a Chadeirydd y Bartneriaeth).  Roedd yr adroddiad yn rhoi sylw i'r camau a gymerwyd i fynd i'r afael â throseddau ac anhrefn yn ystod 2015/16 a'r newyddion diweddaraf gan ddau bartner allweddol, sef Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a'r Gwasanaethau Prawf. Hefyd roedd yn rhoi sylw i'r prif feysydd lle roedd gweithio mewn partneriaeth ac i flaenoriaethau presennol y grwpiau gweithredu amlasiantaeth a oedd yn gyrru'r agenda diogelwch cymunedol yn ei blaen.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn am gyllido teledu cylch cyfyng yn y dyfodol, dywedodd Cadeirydd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ei bod wedi cwrdd â'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a'i fod ef wedi gwneud cais am adolygiad mewn perthynas â'r ddarpariaeth yn y dyfodol, gan ei fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd y system yn nhyb pobl o ran diogelwch cymunedol. Cadarnhaodd yr Uwch-arolygydd Claire Parmenter ei bod yn cynnal adolygiad ar hyn o bryd a fyddai'n cael ei fwydo i Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ac y byddai hi'n rhoi gwybod i'r aelodau am unrhyw ddatblygiadau;

·        Cyfeiriwyd at benderfyniad blaenorol gan y Pwyllgor i wahodd  y Comisiynydd Heddlu a Throseddu i gyfarfod yn y dyfodol a chytunodd y Cadeirydd y dylid mynd ar drywydd hyn;

·        Mynegwyd pryder ynghylch niferoedd cymharol uchel y bobl ifanc 11-15 oed oedd wedi bod yn gysylltiedig â fandaliaeth a difrod i eiddo ac ymddygiad bygythiol. Dywedodd yr Uwch-arolygydd Parmenter er bod yr ystadegau yn achos pryder o bosibl, fod y digwyddiadau, a oedd yn aml yn rhai lefel isel, yn cwmpasu Sir Gaerfyrddin gyfan ar hyd y flwyddyn.  Ychwanegodd y byddai'n trefnu bod y swyddogion cyswllt ysgolion yn dilyn hynt y mater;

·        Mynegwyd pryder ynghylch diogelwch priffyrdd wrth gylchfannau Pen-sarn a Cross Hands a'r darn o'r A48 rhwng y ddwy gylchfan yn arbennig, a hynny o achos cyflymderau uchel a maint y traffig. Dywedodd yr Uwch-arolygydd Parmenter fod y ffordd yn cael ei phatrolio'n rheolaidd, gan ychwanegu mai Cross Hands oedd cartref pencadlys plismona ffyrdd y sir. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am y cylchfannau a'r A48. Fodd bynnag, fe ychwanegodd mai'r hyn oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o ddamweiniau oedd ymddygiad y gyrrwr a bod y duedd gyffredinol yn Sir Gaerfyrddin am i lawr. Yn ei farn ef roedd hynny'n tystio i'r cydweithio rhwng yr holl asiantaethau oedd yn ymwneud â diogelwch ffyrdd;

·        Mewn ymateb i gais, dywedodd yr Uwch-arolygydd Parmenter y byddai'n bosibl darparu crynodebau o droseddau ar gyfer trefi Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

6.

STRATEGAETH DIOGELWCH FFYRDD (Y RHAGLEN FUDDSODDI) pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch y rhaglen fuddsoddi bresennol

mewn perthynas â diogelwch ffyrdd a seilwaith cysylltiedig.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

·       Cadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg nad oedd unrhyw arian newydd ar gael o dan Fenter Benthyca Llywodraeth Leol ar gyfer yr hyn a elwid yn welliannau ymarferoldeb [ar gyfer seilwaith trafnidiaeth newydd]. Cytunodd i ddarparu'r Pwyllgor â manylion y dull diwygiedig o ran meini prawf ar gyfer pennu blaenoriaethau diogelwch ffyrdd, troedffyrdd a gwelliannau seilwaith eraill a oedd yn cael ei ddatblygu i'w gymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol;

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch dechrau ar Gam 2 Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg fod y broses o brynu tir yn mynd rhagddi wrth i gyllid ddod ar gael, mewn rhaglen a oedd yn cael ei chyflwyno fesul cam a bod ceisiadau cynllunio'n cael eu cyflwyno. Ychwanegodd mai hon oedd y flaenoriaeth fwyaf yn Sir Gaerfyrddin o hyd o ran ffyrdd;

·        Mewn ymateb i bryderon ynghylch y cynnydd mewn traffig trwy Landeilo, ac, o ganlyniad, gynnydd yn y lefelau Nitrogen Deuocsid yn sgil agor Ysgol Bro Dinefwr, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Technegol fod y ffordd osgoi arfaethedig wedi ei dwyn at sylw Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, a oedd wedi awgrymu ei fod yn dymuno ailedrych ar rai o'r materion a godwyd o ran llifogydd. Roedd y cynllun yn dal yn rhan o'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol;

·        Cytunodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg y byddai'n rhoi sylw i berthi a oedd yn gordyfu gan effeithio ar welededd ar y ffyrdd, yn dilyn pryder a fynegwyd am y mater.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

7.

GWASANAETH CASGLU GWASTRAFF GWYRDD O DŶ I DŶ pdf eicon PDF 292 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad am y cynigion a oedd i'w rhoi gerbron y Bwrdd Gweithredol ar gyfer cyflwyno system newydd o dalu am gasgliadau gwastraff gwyrdd/gwastraff gardd o d? i d?. Byddai'r system newydd arfaethedig yn cynnwys darparu whilfiniau plastig ar gyfer gwastraff gwyrdd, a byddai'r cartrefi oedd yn cymryd rhan mewn contract â'r Awdurdod ar gyfer y gwasanaeth ym mhob blwyddyn ariannol, am dâl penodol.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

·       Cytunodd swyddogion, mewn ymateb i bryder fod pobl mewn ardaloedd gwledig yn aml yn llosgi eu gwastraff gardd, i roi gwybod i'r aelodau beth oedd y sefyllfa gyfreithiol o ran coelcerthi mewn gerddi,

·       Dywedwyd nad oedd yn ddymuniad gan yr Awdurdod i gau canolfan ailgylchu Llangadog.

 

PENDERFYNWYDderbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r cynigion. 

 

 

8.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2016/17 pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiadau monitro ynghylch y gyllideb ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd, Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd a'r Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol fel yr oeddent ar 30ain Mehefin 2016, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2016/17.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

·        Mewn ymateb i ymholiad ynghylch pam yr oedd nifer o lwybrau bws i'r ysgol wedi eu haildendro, dywedwyd wrth y Pwyllgor mai'r rheswm oedd materion megis diogelwch, yr angen i gynnal mentrau bach a chanolig eu maint, ysgogi cystadleuaeth a datblygu'r farchnad leol;

·        O ran atgyfnerthu a chyfnewid pontydd, dywedwyd mai'r hyn oedd yn dueddol o achosi oedi oedd cyd-drafodaethau â pherchnogion.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

9.

CWARTER 1 ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD CYNLLUN GWELLA 1AF EBRILL I'R 30AIN O FEHEFIN 2016. pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Monitro Perfformiad Cynllun Gwella 2016/17 ar gyfer Chwarter 1, a oedd yn cynnwys camau gweithredu a mesurau yng Nghynllun Gwella 2016/17 a oedd yn berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad.

·       Mewn perthynas â phryder ynghylch yr eglurhad yn yr adroddiad dros beidio â chydymffurfio â'r targed ar gyfer gwaredu baw c?n, a awgrymai fod prinder staff, bu i Bennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff gydnabod bod problemau wedi bod o ran staffio a bod y gwasanaeth casglu sbwriel dyddiol wedi cael blaenoriaeth. Dywedodd y Swyddog Diogelwch Cymunedol fod awdurdod gan Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu i gyflwyno hysbysiadau cosbau penodedig ar gyfer troseddau baw c?n, ond ei bod yn ymddangos nad oeddent wedi bod yn gwneud hynny. Cytunodd i godi'r mater gyda'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu newydd a rhoi diweddariad i'r Pwyllgor. Hefyd cyfeiriodd y Cadeirydd at yr angen i ailedrych ar ardaloedd lle roedd biniau baw c?n wedi cael eu gwaredu a heb gael eu cyfnewid;

·       Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod rhaglen solar ffotofoltäig ar gyfer adeiladau annomestig y Cyngor yn cydymffurfio â'r targed.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

10.

PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015/16 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ar ei waith yn ystod blynyddoedd y cyngor 2015/16, a oedd wedi ei baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor Sir.

 

Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar y rhaglen waith a'r materion allweddol roedd y Pwyllgor wedi eu hystyried. Hefyd roedd yr adroddiad yn manylu ar y materion oedd wedi'u cyfeirio at y Bwrdd Gweithredol, adolygiad y Gr?p Gorchwyl a Gorffen neu ganddynt a'r sesiynau datblygu oedd wedi'u cynnal i'r Aelodau, yn ogystal â'u presenoldeb yng nghyfarfodydd y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

11.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at gais blaenorol gan y pwyllgor am seminar ar gyfer yr holl aelodau ar ddynladdiad corfforaethol. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Technegol fod y Bwrdd Gweithredol eisoes wedi cael seminar ar y pwnc. Gofynnodd y Cadeirydd am i sylw gael ei roi i'r mater.

Cytunwyd hefyd i ofyn i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd yr Amgylchedd  a Diogelu'r Cyhoedd beth oedd y sefyllfa ddiweddar o ran mynd i'r afael â phlanhigion ymledol.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 11 Tachwedd, 2016.

 

 

12.

COFNODION pdf eicon PDF 235 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfodydd oedd wedi eu cynnal ar 15 Ebrill 2016, 13 Mai 2016 ac ar 24 Mehefin 2016 gan eu bod yn gywir.