Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd Aled Vaughan-Owen fel Is-gadeirydd yn llywyddu'r cyfarfod ar gyfer Eitem 7 ar yr Agenda yn unig, oherwydd bod gan y Cadeirydd broblemau cysylltu].

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Davies, E. Morgan a'r Cynghorydd A. Davies, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a Materion Gwledig.

 

Estynnodd y Cadeirydd ei ddymuniadau gorau i'r Cynghorydd Eryl Morgan a oedd wedi cael ei dderbyn i'r ysbyty yn ddiweddar ar ôl cael codwm.  Ar ran y Pwyllgor, dymunai'r Cadeirydd wellhad buan i'r Cynghorydd Morgan a chynigodd y dylid anfon y sylwadau at y Cynghorydd Morgan drwy lythyr. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Cydnabu'r Cadeirydd mai'r cyfarfod hwn oedd cyfarfod olaf Mrs Ruth Mullen, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, gyda'r Cyngor a dymunodd fynegi ei ddiolch diffuant iddi am y gwaith proffesiynol a'i chefnogaeth i'r Pwyllgor.  Dymunodd y Pwyllgor yn dda i Mrs Mullen ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cadeirydd yn anfon llythyr at y Cynghorydd Morgan ar ran y Pwyllgor i ddymuno'n dda iddi.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

4.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CHWARTER 2 - 2021/22 (1 EBRILL I 30 MEDI 2021 pdf eicon PDF 346 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 2021/22 ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Medi 2021 a gyflwynwyd gan yr Aelodau Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd mewn perthynas â'r meysydd sy'n dod o dan eu portffolio a chylch gwaith y Pwyllgorau.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol ac ar gyflawni'r 13 Amcan Llesiant. Nododd y Pwyllgor mai 2021/22 oedd y flwyddyn gyntaf y byddai'r Cyngor yn ei hunanarfarnu ac yn adrodd arni o dan delerau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn enwedig Rhan 6 sy'n ymwneud â Pherfformiad a Llywodraethu.

 

Cyflwynwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol yn ymwneud â'r camau sy'n gysylltiedig â phortffolio'r Amgylchedd:-

 

·       Wrth gyfeirio at dudalen 7 yr adroddiad, mynegwyd sylwadau o ganmoliaeth i'r timau glanhau am eu hymateb cyflym i alwadau i gael gwared ar wastraff ychwanegol mewn mannau banc poteli. Cytunodd yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd fod y timau'n rhagweithiol iawn a dywedodd, gan fod y mater hwn yn dod o dan bortffolio diogelu'r cyhoedd, y byddai'n sicrhau bod canmoliaeth y Pwyllgor yn cael ei hanfon at y timau perthnasol.

 

·       Cyfeiriwyd at y cam gweithredu PAM/030 -  Canran y gwastraff sy'n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio .  Mewn perthynas â'r tarfu sylweddol ar y trefniadau didoli, trin a gwaredu gwastraff arferol o ganlyniad i dân yng nghyfleuster adennill deunyddiau CWM yn Nantycaws, gofynnwyd a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyriol o dargedau? Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd mai'r gobaith oedd y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyriol o'r sefyllfa ac esboniodd fod mesurau wedi'u rhoi ar waith i helpu i gyrraedd y targedau tra bod yr heriau o ran didoli'r gwastraff yn parhau.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod gan Lywodraeth Cymru y wybodaeth lawn am y sefyllfa. Yn ogystal, roedd monitro'r sefyllfa'n agos yn flaenoriaeth, yn enwedig yn ystod y pandemig.


 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch catalogio a dosbarthiad tyllau yn y ffordd ledled y Sir, dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd fod y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn nodi'r hierarchaeth o ran atgyweirio'r priffyrdd yn ôl dosbarthiad ffordd. Eglurodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ymhellach y byddai gwaith atgyweirio tyllau yn y ffordd yn cael ei flaenoriaethu drwy ystyried y ddau faen prawf 'categoreiddio angen'; 1) natur y ffordd lle mae'r twll wedi ymddangos a 2) difrifoldeb y twll yn y ffordd.  Yn seiliedig ar y meini prawf, pe bai twll yn bodloni'r meini prawf ar gyfer ei atgyweirio ar unwaith, byddai'r gwaith yn cael ei gwblhau o fewn 24 awr. Fodd bynnag, ni fyddai twll yn y ffordd y barnwyd nad oedd yn ddifrifol ac a oedd wedi'i leoli ar ffordd categori defnydd isel yn cael ei ddosbarthu ar gyfer ymyrraeth ac felly byddai'n parhau. Ategodd y Cyfarwyddwr sylwadau'r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ynghylch y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd sy'n ystyried amodau'r briffordd yn ei chyfanrwydd.

 

·       Cyfeiriwyd at y cam gweithredu a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD CYNNYDD INTERIM Y STRATEGAETH TOILEDAU LLEOL pdf eicon PDF 408 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Cynnydd Interim y Strategaeth Toiledau Lleol a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd.

 

Datblygwyd y strategaeth yn unol â Rhan 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 a oedd yn gosod dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol yng Nghymru i baratoi a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol ar gyfer ei ardal.

 

Dywedwyd nad oedd gofyniad statudol ar Awdurdodau Lleol i ddarparu toiledau cyhoeddus ac nid oedd y ddyletswydd i lunio strategaeth yn golygu ynddi ei hun bod yn rhaid i Awdurdodau Lleol ddarparu a chynnal toiledau cyhoeddus yn uniongyrchol, ond roedd yn ofynnol i Awdurdodau Lleol ystyried yn strategol sut y gellir darparu’r toiledau ar draws eu hardal a sut y gallai'r boblogaeth leol gael mynediad iddynt.

 

Cyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin ei Strategaeth Toiledau Lleol yn ystod mis Awst 2019. Cafodd cynnydd 10 argymhelliad allweddol y strategaeth i wella darpariaeth toiledau hirdymor Sir Gaerfyrddin ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

Cadwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Gofynnwyd a fyddai unrhyw newidiadau mewn perthynas â'r taliadau?  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod y tâl presennol o 20c yn cael ei gynnal ar draws pob uned a byddai unrhyw ystyriaeth i newid hyn yn y dyfodol yn gorfod bod fel rhan o'r ymgynghoriad ar y gyllideb.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch Danfo, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod gan Danfo, y cwmni a gontractiwyd i wasanaethu a glanhau 9 o'r cyfleusterau toiled ledled y Sir, tua 12-18 mis ar ôl o dan y contract presennol. 

 

·       Dywedwyd y bu gwelliant amlwg o ran glendid y toiledau yng nghanol trefi a rhoddwyd canmoliaeth i'r Swyddogion ar adroddiad wedi'i ysgrifennu'n dda.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL I ARGYMELL I'R CABINET y dylid cymeradwyo Adroddiad Cynnydd Interim y Strategaeth Toiledau Lleol.

 

 

6.

DATGANIAD GORFODI RHEOLAU CYNLLUNIO DRAFFT pdf eicon PDF 341 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Ddatganiad Gorfodi Rheolau Cynllunio Drafft a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd.

 

Adroddwyd bod adolygiad diweddar Swyddfa Archwilio Cymru o'r Gwasanaethau Cynllunio wedi tynnu sylw at yr ôl-groniad sylweddol o gwynion nad ydynt wedi eu datrys yng ngwasanaeth Gorfodi Rheolau Cynllunio Sir Gaerfyrddin ac mewn ymateb i ganfyddiadau'r adroddiad, roedd y Cyngor yn adolygu'r modd y byddai'n cyflawni ei gyfrifoldebau gorfodi. Datblygwyd y Polisi Gorfodi presennol yn 2015. Yn dilyn hynny mabwysiadwyd Polisi Gorfodi Corfforaethol cyffredinol ym mis Ebrill 2018. Erbyn hyn, roedd angen adolygu'r Datganiad Gorfodi Rheolau Cynllunio gwreiddiol er mwyn ystyried newidiadau yn yr amgylchedd mewnol ac allanol a'i ailsefydlu fel y Datganiad Gorfodi Rheolau Cynllunio.

 

Cadwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a godwyd yngl?n â nifer y staff gorfodi, eglurodd y Pennaeth Cynllunio Dros Dro fod 4 aelod o staff parhaol a 2 aelod o staff ychwanegol ar gontract 12 mis ar hyn o bryd i reoli pob achos gorfodi rheolau cynllunio ar draws y Sir.

 

Yn ogystal, roedd y tîm, ynghyd â'r staff ychwanegol, yn ystod y 7 mis diwethaf wedi llwyddo i leihau'r ôl-groniad o gwynion nad ydynt wedi eu datrys drwy gau 428 o achosion. Er bod achosion newydd wedi parhau i ddod i law, dywedwyd bod yr ôl-groniad wedi ei leihau o ychydig o dan 1000 o achosion i 698 o heddiw ymlaen.

 

·       Gofynnwyd sut y rheolir lleoli carafannau yn ddigymell ar leiniau o goetir? Cydnabu Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Cynllunio fod y mater hwn yn bryder cynyddol ym mhob ardal wledig ledled y Wlad a bod yr adran gynllunio yn ymdrin â materion o'r fath yn unol ag arferion safonol a gweithdrefnau gorfodi pan fyddant yn cael eu dwyn i sylw'r adran gynllunio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CABINET fod Datganiad Gorfodi Rheolau Cynllunioyn cael ei gymeradwyo.

 

 

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 484 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Oherwydd bod gan y Cadeirydd broblemau cysylltu, roedd y Cynghorydd Aled Vaughan-Owen wedi llywyddu'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon] 

 

Ystyriodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau i gael eu cynnwys ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf oedd i'w gynnal ar 1 Chwefror 2022 a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am unrhyw wybodaeth benodol yr hoffai'r Aelodau ei chynnwys yn yr adroddiadau.

 

Nododd y Pwyllgor y cwestiynau a'r ymatebion a gafwyd mewn perthynas ag Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb(1 Ebrill 2021 – 30 Awst 2021) a ddosbarthwyd i Aelodau y tu allan i broses ffurfiol y Pwyllgor yn unol â'r Flaenraglen Waith.

 

Wrth gydnabod y byddid yn ystyried yr ymgynghoriad ar y gyllideb yn y cyfarfod nesaf, cynigiwyd y dylid rhoi Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb (1 Ebrill 2021 – 30 Hydref 2021) ar yr agenda ffurfiol i'w ystyried. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1    nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 1 Chwefror 2022;

 

7.2 bod yr ymholiadau a'r ymatebion yn yr adroddiad mewn perthynas ag Adroddiad Monitro'r Gyllideb (1 Ebrill 2021 tan 30 Awst 2021) yn cael eu nodi.

 

7.3 bod Adroddiad Monitro'r Gyllideb (1 Ebrill 2021 tan 30 Hydref 2021) yn cael ei gynnwys ar agenda'r cyfarfod nesaf ar 1 Chwefror 2022.

 

 

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 25 TACHWEDD 2021 pdf eicon PDF 419 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau