Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer:  

·       Ar ôl cael cais gan y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod angen newid trefn busnes ar yr agenda i roi eglurder ac y byddai Eitem 7 yn cael ei ystyried cyn Eitem 6.  Fodd bynnag, er hwylustod cyfeirio, mae'r cofnodion hyn yn adlewyrchu trefn y materion ar agenda'r cyfarfod.

 

·       Oherwydd bod y Cadeirydd yn profi anawsterau technegol yn ystod Eitem 5 ar yr Agenda, cymerodd y Cynghorydd Aled Vaughan-Owen, Is-gadeirydd, yr awenau fel Cadeirydd ar gyfer y materion oedd yn weddill ar yr Agenda.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.J.G. Gilasbey, P. Edwards E. Morgan ac A. Speake.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

GRWP GORCHWYL A GORFFEN DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD 2021/22 DIWEDDARIAD pdf eicon PDF 318 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru gan Gr?p Gorchwyl a Gorffen Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd mewn perthynas â'r adolygiad o Reoli tipio anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin.  Rhoddodd yr adroddiad a gyflwynwyd gan Gadeirydd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am yr adolygiad, penderfyniad y Gr?p a'r rhesymau. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL;

 

4.1 derbyn adroddiad y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

 

4.2 derbyn penderfyniad y Gr?p i ohirio'r adolygiad o Reoli Tipio Anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin tan ar ôl etholiadau 2022.

 

5.

STRATEGAETH SEILWAITH GWEFRU CERBYDAU TRYDAN CYNGOR SIR CAERFYRDDIN (CSC) - DATGARBONEIDDIO TRAFNIDIAETH pdf eicon PDF 339 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi cynnigi fabwysiadu Strategaeth Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer Sir Gaerfyrddin.  Roedd y strategaeth arfaethedig, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, yn cynnwys 13 polisi allweddol yn benodol i Sir Gaerfyrddin a fyddai'n helpu i ddatblygu seilwaith gwefru cerbydau trydan ar draws y sir yn y dyfodol i helpu i gyrraedd y targedau ar gyfer lleihau carbon.

 

Amlinellodd yr adroddiad fod strategaeth a datblygiad y seilwaith yn anelu at annog busnesau, trigolion ac ymwelwyr i ddefnyddio cerbydau trydan.  Yn ogystal, byddai'r strategaeth yn caniatáu ar gyfer creu rhwydwaith strwythuredig sy'n seiliedig ar dystiolaeth a fyddai'n dangos ymrwymiad i gyrraedd targedau sero-net erbyn 2030 a 2050.

 

Dywedwyd, pe bai'r Awdurdod yn penderfynu peidio â mabwysiadu'r strategaeth, y byddai'n golygu bod y sir yn agored i golli cyllid gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol ac yn atal y ddarpariaeth yn ôl yr amcan o ran carbon sero-net. Gan nad oes unrhyw strategaeth ar waith ar gyfer y maes hwn lle mae pethau'n symud yn gyflym a bod ceir petrol a disel yn cael eu gwahardd yn 2030, roedd perygl na allwn hwyluso ac annog rhwydwaith gwefru a fyddai'n cefnogi'r holl breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/ymholiadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Gofynnwyd a fyddai modd ychwanegu'r defnydd o feiciau trydan at y 13 polisi allweddol? Eglurodd y Swyddog Cynllunio Trafnidiaeth - Strategaeth a Seilwaith fod darparu cysgodfan a chapasiti i wefru hyd at 10 e-feic ar gael neu byddai ar gael yn fuan yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin, Canolfan Hamdden Dyffryn Aman, Canolfan Hamdden Llanymddyfri, y Goleudy, Porth y Dwyrain, Parc Gwledig Pen-bre, Rhodfa'r Santes Catrin – Caerfyrddin a Phentywyn. Byddai modd defnyddio'r cyfleusterau hyn ar gyfer e-feiciau yn y lleoliadau hyn yn rhad ac am ddim a byddai Cyngor Sir Caerfyrddin neu drydydd partïon yn talu'r costau ynni.  Eglurwyd bod y Strategaeth hon ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar geir a cherbydau ysgafn yn unig ac y byddai angen strategaeth ar wahân ar gyfer cludo nwyddau. Ychwanegodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd, er bod y strategaeth hon wedi canolbwyntio ar y cerbydau hynny a fyddai'n cael eu heffeithio gan y newidiadau sylweddol yn y dyfodol agos, ei fod yn cydnabod y twf yn y defnydd o e-feiciau ac y byddai'n ystyried eu cynnwys yn y strategaeth.

 

·       Cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio Trafnidiaeth - Strategaeth a Seilwaith, mewn ymateb i ymholiad a godwyd yngl?n â'r cyfleuster gwefru yn Cross Hands, fod pedwar peiriant gwefru cyflym 50kw ar gyfer cerbydau ysgafn ac un peiriant gwefru cyflym iawn 150kw ar gael i'w defnyddio yn y cyfleuster yn Cross Hands. Yn ogystal, gan fod y ddarpariaeth ar y safle ar gael i'w hehangu, byddai'r defnydd yn cael ei fonitro ac os bydd gofyniad i ehangu, gellir gwneud hynny.

 

·       Cyfeiriwyd at y cynllun i osod cyfleusterau gwefru mewn lleoliadau cyhoeddus, codwyd ymholiad ynghylch pwy sy'n talu am y trydan, y cwsmer neu'r cyflenwr? Eglurodd y Swyddog Cynllunio Trafnidiaeth - Strategaeth a Seilwaith  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

LLAWLYFR CYNNAL A CHADW'R CYNLLUN RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD pdf eicon PDF 405 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Cafodd yr eitem hon ei hystyried ar ôl Eitem 7 ar yr Agenda]

 

Cafodd y Pwyllgor Lawlyfr Cynnal a Chadw'r Cynllun Rheoli Asedau Priffordd i gefnogi'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd.  Gofynnodd yr adroddiad i'r Pwyllgor ystyried a rhoi sylwadau ar rannau 4.1 i 4.4 sydd ynghlwm wrth yr adroddiad cyn i'r Cabinet ei fabwysiadu.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/ymholiadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at adran 4.2 Hierarchaeth Rhwydwaith Priffyrdd ar dudalen 13 yr adroddiad.  O ran CH4 ar y tabl, mynegwyd pryder ynghylch y flaenoriaeth isel o ran ffyrdd gwledig, dywedwyd bod llawer o'r ffyrdd gwledig yn gwasanaethu ac yn cysylltu cymunedau mewn ardaloedd gwledig ac oherwydd hyn dylid rhoi mwy o flaenoriaeth iddynt. Tynnodd y Pennaeth Trafnidiaeth a'r Priffyrdd sylw at raddfa'r her o ran yr asesiad cyflwr a datganiad blynyddol o'r ffyrdd, ynghyd â lefel y buddsoddiadau sy'n ofynnol i gynnal y rhwydwaith ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin. Er y cydnabyddir bod cymunedau gwledig yr un mor bwysig, roedd y rhestr yn adlewyrchu system asesu, arolygu ac atgyweirio wedi'i blaenoriaethu yn ôl yr adnoddau sydd ar gael.

 

·       Cyfeiriwyd at adran 4.3 Trefn Arolygu ac Atgyweirio Priffyrdd yr adroddiad.  Mynegwyd pryder mai dim ond unwaith y flwyddyn yr arolygwyd y ffyrdd gwledig fel y nodwyd yn yr adroddiad, a theimlwyd nad oedd hyn yn ddigon.  Cadarnhaodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth, er bod asesiad ffurfiol yn cael ei gynnal unwaith y flwyddyn, fod dulliau gwybodaeth eraill yn cael eu derbyn drwy wybodaeth gyhoeddus yr ymatebwyd iddi yn unol â hynny. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod system riportio ar-lein newydd bellach ar gael i'r cyhoedd a oedd yn anelu at ymateb mwy effeithlon i faterion yr adroddwyd amdanynt.


 

·       Cyfeiriwyd at y tabl Ffordd gerbydau: Amlder Archwiliad Arferol  Gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr ystod goddefgarwch. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod Amlder yr Archwiliadau Arferol o Briffyrdd wedi'i raglennu fel y dangosir yn yr adroddiad.  Roedd angen goddefgarwch o ran amlder archwiliadau yn achos unrhyw darfu megis tywydd gwael, digwyddiadau heb eu cynllunio a salwch neu absenoldeb. Rheolwyd y rhaglen a goddefgarwch o ran amlder gan y Rheolwr Rhanbarthol Cynorthwyol perthnasol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CABINET y dylai Rhannau 4.1 i 4.4 y Llawlyfr Cynnal a Chadw'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd gael eu cymeradwyo.

 

7.

ADRODDIAD DATGANIAD BLYNYDDOL 2021 Y CYNLLUN RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD pdf eicon PDF 343 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: ystyriwyd yr eitem hon cyn eitem 6 ar yr Agenda]

 

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Datganiad Blynyddol 2021 y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ac a gefnogwyd gan gyflwyniad PowerPoint a gyflwynwyd gan Reolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Gofynnwyd a oedd y gwariant isel o'i gymharu â Chynghorau eraill wedi'i briodoli'n uniongyrchol i'r rhwydwaith ffyrdd mawr yn Sir Gaerfyrddin?  Esboniodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod y gwariant a ddyrannwyd i briffyrdd yn cael ei briodoli drwy'r penderfyniadau ymwybodol a wnaed gan y Cyngor yn ystod y broses o bennu'r gyllideb ac y byddai'n cael effaith ar y rhwydwaith ffyrdd o dan gyfrifoldeb Cyngor Sir Caerfyrddin.  Byddai'r manylion a nodwyd yn yr adroddiad hwn yn cael eu hystyried wrth gyflwyno sylwadau yn erbyn y pwysau a'r gofynion eraill sy'n wynebu'r Cyngor.

 

·       Mynegwyd pryder bod y dull newydd o osod wyneb newydd wedi methu a bu'n rhaid ail-wneud y gwaith hwn a bod rhai ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin yn dal i aros i gael eu hatgyweirio ar ôl cyfnod hir o amser. Gofynnwyd am ragor o wybodaeth am y mater hwn. Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod gwaith gosod wyneb newydd ar y ffyrdd a gyflawnwyd gan gontractwyr yn gyfiawn ac y byddai unrhyw broblemau o ran deunyddiau yn cael eu cywiro ar draul y contractwyr.  Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth, mewn ymateb i'r materion penodol parhaus sy'n ymwneud ag arwynebau ffyrdd, y byddai'n cysylltu â'r Aelodau y tu allan i gyfarfod y Pwyllgor.

 

·       Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd mewn perthynas â newid goleuadau cyhoeddus i oleuadau LED, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Chludiant fod y rhaglen wedi'i chwblhau yn haf 2020 ac o ganlyniad i'r addasiadau, amcangyfrifwyd bod gostyngiad o 1200 tunnell o allyriadau carbon deuocsid wedi'i gyflawni.

 

·       Cyfeiriwyd at yr Ymchwiliadau Draenio yn yr adroddiad. O ran y darn"Mae'r arolygon hyd yma wedi dangos bod 32% o'n pibellau draenio naill ai wedi'u lleihau'n ddifrifol neu wedi'u blocio ac yn anniogel", mynegwyd prydery byddai d?r ychwanegol yn achosi amhariad ar arwynebau ffyrdd o ganlyniad i'r draeniau llai a'r draeniau sydd wedi'u blocio. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod y ffigur o 32% yn peri pryder, dywedodd ei fod yn seiliedig ar sampl fach o arolygon draenio a gynhaliwyd ar hyd yr A484 a ffyrdd critigol eraill a oedd yn dueddol o gael problemau yn ystod tywydd gwael.  Y gobaith oedd y byddai canran uchel o bibellau sydd wedi'u blocio yn cael eu datrys drwy chwistrellu d?r pwysedd uchel, ond cydnabuwyd y gallai rhai rhwydweithiau draenio fod â phroblemau strwythurol ar hyd piblinellau ac felly byddai angen eu hasesu ymhellach. Ychwanegodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod ceisiadau cyfalaf wedi'u cyflwyno i helpu i fynd i'r afael â'r materion ac mewn ymateb i stormydd, a chyflynwyd ceisiadau pellach am arian gan Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael ag unrhyw ddifrod a achoswyd.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 298 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau i gael eu cynnwys ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf oedd i'w gynnal ar 22 Rhagfyr 2021 a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am unrhyw wybodaeth benodol yr hoffai'r Aelodau ei chynnwys yn yr adroddiadau.

 

Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu'r newid bod y Strategaeth Farchogaeth a oedd i fod i gael ei dosbarthu drwy e-bost i aelodau'r Pwyllgor Craffu ym mis Rhagfyr, wedi'i ohirio tan fis Mawrth 2022.

 

Roedd adroddiad yn nodi hefyd fod dau adroddiad wedi'u dosbarthu i'r aelodau ym mis Hydref, yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor yn 2021 i graffu y tu allan i broses ffurfiol y Pwyllgor:-

 

·       Adroddiad Monitro Perfformiad (1 Ebrill 2021 - 30 Mehefin 2021)

·       Hierarchaeth Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau na dderbyniwyd unrhyw sylwadau nac ymholiadau.

 

Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf am y Rheoliadau Bridio C?n/Amodau Trwyddedu ac ychwanegu'r adolygiad gan Lywodraeth Cymru y cyfeiriwyd ato ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor.  Gan nad oedd yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod, oherwydd ei fod yn gorfod gadael yn gynnar, byddai'r Swyddog Cymorth Craffu yn cyfleu'r cais i'r Aelod Cabinet a byddai diweddariad yn cael ei ddosbarthu drwy e-bost i Aelodau'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1 nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 22 Rhagfyr 2021;

8.2 nodi Blaenraglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor 2021/22.

 

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 4 HYDREF 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau