Agenda a Chofnodion

CYLLIDEB, Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd - Dydd Llun, 14eg Rhagfyr, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone 0330 336 4321 Passcode: 86260917# (For call charges contact your service provider) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

Gwnaed y datganiad canlynol ynghylch buddiant personol:

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

T. Higgins

4 – Adroddiad Datganiad Blynyddol 2020 – Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd

Mae'r Cynghorydd Higgins yn byw yn Heol Penygarn.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

CYNLLUN RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD - ADRODDIAD DATGANIAD BLYNYDDOL 2020 pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Ar ôl datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, arhosodd y Cynghorydd Higgins yn y cyfarfod, cymerodd ran yn y drafodaeth ynghylch yr adroddiad a phleidleisiodd.]

 

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Datganiad Blynyddol 2020 y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd, a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd.

 

Roedd Adroddiad Datganiad Blynyddol 2020 yn cynnwys trosolwg o'r rhwydwaith priffyrdd ac yn manylu ar y tri maes allweddol canlynol ynghylch asedau priffyrdd:

 

  • Priffyrdd (ffyrdd cerbydau, troedffyrdd a llwybrau beicio)
  • Pontydd a Strwythurau

·      Goleuadau Priffyrdd a Goleuadau Traffig

 

Ar gyfer pob un o'r asedau a nodwyd uchod, manylodd yr adroddiad ar y cyflwr, sut roedd y cyflwr wedi newid ers yr adroddiad diwethaf ac esboniodd y newidiadau yn y dyfodol yn seiliedig ar senarios cyllido a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad a oedd yn ategu cynnwys yr adroddiad.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Gofynnwyd a oedd cyllid grant Llywodraeth Cymru o £5.2M yn daliad untro neu a fyddai rhagor o gyllid ar gael? Esboniodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod cyllid grant Llywodraeth Cymru yn becyn cyllido tair blynedd a ddechreuodd yn 2018/19 a bod trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn digwydd ar hyn o bryd ynghylch unrhyw gyllid yn y dyfodol.

 

·       Gwnaed ymholiadau penodol mewn perthynas â phryderon parhaus ynghylch arwyneb ffordd Heol Penygarn, T?-croes, Rhydaman. Roedd yr ymholiadau'n cynnwys: Pryd fyddai'r mater yn cael ei ddatrys ac a oedd unrhyw swyddogion/contractwyr wedi gweld cyflwr y ffordd? Dywedodd y Cadeirydd y dylai materion lleol gael eu codi y tu allan i'r Pwyllgor. Fodd bynnag, esboniodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod y ffordd dan sylw yn destun proses o'r enw chwistrellu hydro a gynhaliwyd gan gontractwr arwyneb yn 2019 a bod archwiliadau rheolaidd wedi'u cynnal. Aseswyd bod y ffordd yn ddiogel. Cynigiodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y mater penodol hwn i'r aelodau lleol.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a godwyd mewn perthynas â chwblhau'r rhaglen newid i oleuadau LED, cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a'r Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod y rhaglen wedi'i chwblhau'n sylweddol yn 2020. Fodd bynnag, er bod y pandemig wedi gohirio'r dyddiad cwblhau a gynlluniwyd, roedd y Tîm Goleuadau Cyhoeddus wedi gweithio i gwblhau'r prosiect i newid yr holl oleuadau sodiwm i oleuadau LED cyn diwedd haf 2020.

 

·       Mewn perthynas ag effaith tywydd eithafol ar arwynebau ffyrdd, gofynnwyd pa rôl oedd gan newid yn yr hinsawdd o ran pa mor hir y bydd cyflyrau'n parhau i fod yn dderbyniol yn y dyfodol ac a gafodd hyn ei ystyried yn yr adroddiadau cyflwr? Eglurodd y Rheolwr Asedau Priffyrdd, er mai 20 mlynedd oedd yr amser a argymhellir i gadw arwyneb ffordd, bod sawl ffactor a allai effeithio ar yr hyd oes a argymhellir a'i newid. Felly, roedd yr Adran Briffyrdd yn defnyddio triniaethau cywir ac atal er mwyn ymestyn yr hyd oes, ond yn anffodus roedd llai o'r triniaethau hyn yn cael eu lleihau wrth i'r gyllideb leihau.


Mewn ymateb i ymholiad pellach,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 294 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 24 TACHWEDD 2020 pdf eicon PDF 302 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd, 2020 gan eu bod yn gywir.