Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd - Dydd Mawrth, 24ain Tachwedd, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone 0330 336 4321 Passcode: 93076327# (For call charges contact your service provider) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Thomas a'r Cynghorydd S. Phillips.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

 

4.

EFFAITH COVID-19 AR WASANAETHAU ADRAN YR AMGYLCHEDD A GWMPESIR GAN Y PWYLLGOR CRAFFU - DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 537 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelodau o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a Diogelu'r Cyhoedd, a oedd yn cwmpasu elfennau yr Amgylchedd a Diogelu'r Cyhoedd y portffolio, ar effaith pandemig Covid-19 ar wasanaethau Adran yr Amgylchedd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Craffu fel a ganlyn:-

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Amgylcheddol sylw i'r canlynol:-

·       Gwasanaethau Gwastraff ac Amgylcheddol.

·       Glanhau Adeiladau (gan gynnwys Ysgolion, lle bo hynny'n berthnasol)

·       Trafnidiaeth a Gwasanaethau Stryd gan gynnwys Priffyrdd, Goleuadau Stryd, Pontydd, Rheoli Traffig, Gwasanaethau Parcio, Llwybrau Beicio a Hawliau Tramwy

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd sylw i'r canlynol:-

·       Gorfodi Materion Amgylcheddol gan gynnwys Sbwriel, Baw C?n,

Cerbydau wedi eu gadael ac ati

·       Gorfodi Rheolau Cynllunio

·       Bioamrywiaeth

 

Roedd yr adroddiad yn disgrifio sut roedd yr Awdurdod wedi ymdopi yn ystod y pandemig ac yn rhoi sylw i'r blaenoriaethau gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Dywedodd yr Aelodau o'r Bwrdd Gweithredol fod y pandemig wedi effeithio'n sylweddol ar gyllidebau'r Adran, o ran costau ychwanegol a cholli incwm. Roedd rhai o'r costau wedi'u talu gan grantiau Llywodraeth Cymru ond roedd llawer o feysydd nas ariennir o hyd, a byddai hynny'n effeithio ar gyllideb y Cyngor yn y dyfodol.

 

Codwyd nifer o gwestiynau/sylwadau wrth drafod yr adroddiad. Dyma'r prif faterion:

 

·         Gwnaed sylw ar y perfformiad o ran ailgylchu, yr oeddid yn rhagweld y byddai'n uwch na'r targed statudol o 64%.  Gofynnwyd sut yr oeddid yn manteisio ar y sefyllfa a pha gynlluniau oedd ar waith i gynnal y cyfraddau ailgylchu?  Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod llawer o gartrefi, yn ystod y cyfyngiadau symud, wedi achub ar y cyfle i gael cliriad mas, a diolchodd i bobl y sir am ddefnyddio'r darpariaethau ailgylchu.  Byddai'r gwaith gyda'r tîm marchnata a'r cyfryngau yn parhau er mwyn helpu i roi rhagor o sylw i ailgylchu ac i roi gwybod i drigolion pa wasanaethau ailgylchu oedd ar gael.  Y gobaith oedd cyrraedd targed perfformiad o 70% erbyn 2024/2025.

 

·        Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â chasglu gwastraff o ymyl y ffordd, ac a oedd unrhyw ddarpariaeth ychwanegol yn ystod y pandemig, esboniodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, er nad oedd y Cyngor bellach yn dosbarthu bagiau glas i aelwydydd unigol, fod nifer y bagiau glas oedd gan stocwyr penodol wedi cynyddu, ac roedd rhestr o'r stocwyr ar wefan y Cyngor.  Yn ogystal, roedd y gwaith blynyddol o ddosbarthu bagiau glas a bagiau bwyd wedi dechrau ac roedd yn debygol o gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2021.

 

·       Cyfeiriwyd at y system archebu ar-lein ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (HWRC).  Gofynnwyd a fyddai hyn yn parhau i'r dyfodol a beth oedd y costau?  Eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod angen adnoddau staffio ychwanegol ar y safleoedd HWRC ar gyfer y system archebu ar-lein newydd, a oedd yn haws i'w rheoli, er mwyn sicrhau y cydymffurfid yn effeithiol â'r  cyfyngiadau Covid-19, ynghyd â'r rheolaeth angenrheidiol wrth y fynedfa oedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

EFFAITH Y PANDEMIG COVID AR CARTREFI A CHYMUNEDAU MWY DIOGEL pdf eicon PDF 491 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd a roddodd grynodeb o sut roedd pandemig Covid-19 wedi effeithio ar wasanaethau Diogelu'r Cyhoedd o safbwynt defnyddiwr gwasanaeth, staff a'r Cyngor, gan roi gwybodaeth glir am y camau a gymerwyd.

 

Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar faterion cyflawni allweddol a datblygiadau yn y dyfodol yn y meysydd gwasanaeth canlynol:

 

·       Profi, Monitro ac Olrhain (TTP);

·       Iechyd Anifeiliaid;

·       Trwyddedu;

·       Uned Ymchwilio Ariannol;

·       Safonau Masnach;

·       Tîm COVID-19 - Cyngor a Gorfodi;

·       Llygredd;

·       Iechyd a Llesiant y Cyhoedd; a

·       Bwyd, Diogelwch ac Iechyd

·       C?n yn baeddu; Cerbydau wedi eu gadael ac ati

 

Codwyd nifer o gwestiynau/sylwadau wrth drafod yr adroddiad.  Dyma'r prif faterion:

 

·       Gofynnwyd a fu unrhyw broblemau o ran cael y wybodaeth gywir gan y cyhoedd?  Cydnabu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd, er bod yna unigolion nad oeddent yn cadw at y rheoliadau a'r cyngor a roddwyd er mwyn lleihau'r gyfradd drosglwyddo, fod y canrannau ar dudalen 45 yn rhoi sicrwydd bod y tîm monitro ac olrhain oedd wedi'i sefydlu yn y Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd yn parhau i ddarparu Gwasanaeth Monitro ac Olrhain llwyddiannus ac i ddarparu'r cyngor a'r arweiniad angenrheidiol.  Roedd y tîm yn rheoli'r broses TTP ar y cyd â chydweithwyr rhanbarthol a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

 

Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod y tîm TTP, ar gyfer yr wythnos 16 - 22 Tachwedd 2020, wedi llwyddo i wneud cyswllt ag 89% o'r 337 o unigolion a oedd wedi cael canlyniad Covid-19 positif. Dywedwyd bod y tîm TTP wedi cael trafferth cysylltu â rhai unigolion gan nad oeddent yn ateb galwadau ffôn.

 

Mynegwyd pryder fod y cyhoedd yn dal yn ôl wybodaeth hanfodol a oedd yn helpu i olrhain cysylltiadau. Cydnabu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd y pryder a dweud bod y tîm TTP yn gwneud eu gorau glas i reoli'r sefyllfa yn Sir Gaerfyrddin.  Yn ogystal, dywedwyd ei bod yn bosibl fod rhai gweithwyr yn dal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol er mwyn osgoi gorfod derbyn tâl salwch.  


 

Mynegwyd pryderon yngl?n â'r cyfnod roedd Covid-19 yn heintus ac a oedd y wybodaeth hon yn cael ei chyfleu'n briodol.  Roedd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel yn cytuno y gallai'r tîm TTP, ar y cyd â Hywel Dda ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyflwyno negeseuon clir ynghylch y cyfnod heintus a fyddai'n helpu i roi'r wybodaeth i'r cyhoedd. 

 

Mewn ymateb i ymholiad cynharach, dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel ei fod wedi derbyn cadarnhad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mai 10 diwrnod oedd cyfnod heintus Covid-19, ac felly prawf positif oedd y canlyniad yn debygol o fod yn ystod y cyfnod hwn.

 

Dywedwyd mai dim ond ar y ffonau clyfar diweddaraf roedd modd lawrlwytho'r ap monitro ac olrhain, ac felly mynegwyd pryder y gallai rhai o'r cyhoedd fod yn cael eu hanwybyddu gan nad oeddent yn gallu cymryd rhan yn y broses monitro ac olrhain. Rhoddodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel sicrwydd bod ap  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2020/21 pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer gwasanaethau y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Awst 2020, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2020/21.

 

Eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y crynodeb ar gyfer gwasanaethau'r Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn rhagweld gorwariant o £1,264K ar y gyllideb refeniw.  Roedd yr amrywiannau ar gynlluniau cyfalaf, a nodwyd yn yr adroddiad, yn dangos gwariant net rhagweladwy o £11,088k o gymharu â chyllideb net weithredol o £14,397k gan roi amrywiant o -£3,291k.  Yn ogystal, roedd y gyllideb yn cynnwys dyraniad newydd o £74k gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau mynediad i hawliau tramwy.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau wrth y Pwyllgor fod y gyllideb yn cynnwys dyraniad newydd o £74k gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau mynediad i hawliau tramwy.

 

Codwyd nifer o gwestiynau/sylwadau wrth drafod yr adroddiad. Dyma'r prif faterion:

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad 2 yr adroddiad [tudalen 63].  Mewn ymateb i ymholiad mewn perthynas â'r swydd wag dros dro yn yr adran Hawliau Tramwy Cyhoeddus, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod y swydd wedi dod yn wag oherwydd dyrchafiad diweddar a byddai'r broses o lenwi'r swydd yn dechrau yn y dyfodol agos.

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad 2 yr adroddiad [tudalen 61].  Gofynnwyd pryd y byddai'r swyddi gwag yn yr adain Diogelwch Anifeiliaid yn cael eu llenwi?  Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod y broses o lenwi'r swyddi wedi dechrau, ac ar ôl penodi iddynt byddai'r tîm yn llawn.

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad 2 yr adroddiad [tudalen 62].  Gofynnwyd pwy ariannodd Grant Cymorth Covid-19 Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed-Powys, ac a oedd potensial i'w dderbyn eto y flwyddyn nesaf?  Cadarnhaodd Cyfrifydd y Gr?p fod Grant Cymorth Covid-19 Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed-Powys wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac y byddai'n gofyn am arweiniad gan Lywodraeth Cymru ynghylch a ellid cario arian drosodd i'r flwyddyn ariannol nesaf, yn dibynnu ar faint oedd yn cael ei wario yn y flwyddyn ariannol hon.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad mewn perthynas â thaliadau'r dyfodol o ran PPE, Glanhau a Chorffdai, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu'r holl faterion oedd yn ymwneud â Covid-19. Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod y cyllid yn y dyfodol yn dibynnu'n helaeth ar barhad yr arian a ddoi i Lywodraeth Cymru gan y Llywodraeth Ganolog.

 

·       Mewn perthynas â'r Hebryngwyr Croesfannau Ysgol, eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod pob safle lle roedd gwasanaeth o'r fath wedi bod yn destun asesiadau risg iechyd a diogelwch cyn i'r ysgolion ailgychwyn, er mwyn sicrhau y gallent weithredu'n ddiogel o ran Covid-19 a'r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol. Bu i'r Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd ailddatgan bod safleoedd wedi'u hasesu mewn perthynas â Covid-19 ac ychwanegodd, yn unol ag arbedion effeithlonrwydd i'r gyllideb, fod asesiadau risg o safleoedd wedi'u cynnal. Lle nad oedd safle'n bodloni'r Meini  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2019/20 PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 300 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ei Adroddiad Blynyddol ar y gwaith a gyflawnwyd yn ystod blwyddyn y cyngor 2019/20 i'w ystyried. Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu baratoi adroddiad blynyddol sy'n egluro gweithgareddau'r Pwyllgor dros y flwyddyn flaenorol.

 

Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar raglen waith y Pwyllgor a'r materion allweddol a ystyriwyd yn ystod y flwyddyn.  Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am sesiynau datblygu ac am ymweliadau safle a oedd wedi'u trefnu ar gyfer y Pwyllgor, yn ogystal â data am bresenoldeb.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid derbyn Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ar gyfer 2019/20.

 

 

8.

BLAENRAGLEN WAITH PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD AR GYFER 2020/21 pdf eicon PDF 310 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2020/21 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr adroddiad a rhoi rhesymau dros absenoldeb yr adroddiadau perfformiad a'r cynlluniau busnes o'r Flaenraglen Waith.    Esboniodd y Cadeirydd fod Swyddogion bellach wedi cwblhau'r adolygiad o'r cylch monitro perfformiad ac awgrymodd y byddai adroddiadau'n barod i'w hystyried fel a ganlyn:-

  • Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Hanner Blwyddyn) - 1 Chwefror 2021
  • Cynlluniau Busnes Corfforaethol / Adrannol - 5 Mawrth 2021

 

Cynigiwyd ac eiliwyd cynnwys y Cynlluniau Busnes Corfforaethol/Adrannol ym Mlaenraglen Waith y Pwyllgor ac e-bostio'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol at  Aelodau'r Pwyllgor i gael eu sylwadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar ychwanegu'r cynlluniau busnes adrannol, gymeradwyo'r Flaenraglen Waith ar gyfer Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd am 2020/21.

 

 

 

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 21 CHWEFROR 2020 pdf eicon PDF 356 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2020 yn gywir.