Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd - Dydd Llun, 10fed Mehefin, 2019 11.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd T Higgins a'r Cynghorydd J. E. Morgan.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

4.

STRATEGAETH TOILEDAU LLEOL DDRAFFT pdf eicon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn atodi strategaeth toiledau lleol ddrafft a oedd wedi'i datblygu yn unol â Rhan 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, lle'r oedd gan y Cyngor Sir ddyletswydd statudol i gyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

 

Roedd y Strategaeth yn cynnwys yr adborth a'r ymatebion a dderbyniwyd yn dilyn arolwg Asesu Anghenion a gynhaliwyd yn ystod Hydref/Tachwedd 2018. Amlinellwyd yn yr adroddiad y canfyddiadau allweddol o'r ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd ar 25 Mawrth a 12 Mai 2019 drwy'r cyfleuster ymgynghori ar wefan y Cyngor.

 

Yn ogystal nodwyd mewn Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, a oedd wedi'i atodi i'r adroddiad, nad oedd unrhyw effeithiau negyddol ac roedd cynnydd mewn mynediad gan y cyhoedd i doiledau cyhoeddus yn cael ei geisio.

 

Nododd yr aelodau er nad oedd dim gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu toiledau cyhoeddus, bwriad y strategaeth oedd lliniaru unrhyw effeithiau negyddol lle gallai toiledau gael eu colli. Cafodd y cynigion a nodwyd yn y Strategaeth Toiledau Lleol Ddrafft eu datblygu i wella a gwneud y defnydd gorau posibl o gyfleusterau presennol a hyrwyddo darpariaeth toiledau ychwanegol, priodol a hygyrch at ddefnydd y cyhoedd.  Hefyd byddai'r argymhellion a ddeilliai o'r strategaeth hon yn cefnogi'r weledigaeth o Sir Gâr iach sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol, yn ogystal â darparu cefnogaeth i'r bobl, y busnesau a'r cymunedau yn y sir.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch glanhau toiledau cyhoeddus, eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Trefol a Chydymffurfiaeth, er bod y Cyngor yn goruchwylio'r gwaith o redeg a gwasanaethu 19 o doiledau cyhoeddus ledled y Sir, mai gan Danfo oedd y contract ar hyn o bryd ar gyfer cadw'n lân y 9 bloc o doiledau cyhoeddus yr oedd Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y Cyngor yn gyfrifol amdanynt, ac roedd ymweliadau ychwanegol yn cael eu trefnu fel y bo'r angen. Ceir rhagor o wybodaeth mewn perthynas â chyfrifoldebau unigol pob cyfleuster yn Atodiad A o'r Strategaeth.

 

·         Cyfeiriwyd at yr adborth oedd wedi dod i law yn dilyn yr ymgynghoriad, a dywedwyd er nad oedd dyletswydd statudol ar y Cyngor i ddarparu toiledau, fod pryderon cryf ynghylch y ddarpariaeth ac ynghylch glendid, yn enwedig gan fod y Cyngor yn ceisio cynyddu twristiaeth ar draws y sir. Gwnaed sylw pellach a oedd yn adleisio'r pryder gan ychwanegu bod darparu toiledau yn hanfodol mewn lleoliadau i dwristiaid. 

 

·         Cafwyd ymholiad ynghylch toiledau ychwanegol, a dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff nad oedd gan y Cyngor unrhyw gynlluniau i ddarparu toiledau ychwanegol gan nad oedd cyllideb gyfalaf ar gael.  Mewn ymateb i ymholiad ychwanegol ynghylch diffyg toiledau cyhoeddus mewn datblygiadau ar gyrion trefi fel Pensarn, Caerfyrddin, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff er nad oedd grym gan y Cyngor i fynnu bod datblygiadau newydd yn agor eu toiledau i'r cyhoedd, gellid ystyried opsiynau lle gallai'r Cyngor o bosibl dalu cyfraniad i annog busnesau i agor eu toiledau i'r cyhoedd.

 

·         Gofynnwyd a fyddai'n bosibl trosglwyddo perchenogaeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

GRWP GORCHWYL A GORFFEN DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD 2019/20 DOGFEN GYNLLUNIO A CHWMPASU pdf eicon PDF 299 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl ystyried nifer o awgrymiadau ar gyfer prosiect Gorchwyl a Gorffen, yn ei Sesiwn Datblygu Blaenraglen Waith anffurfiol ar 22 Chwefror 2019 cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor i gynnal adolygiad i fenter Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin - y Cynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol (FESS).

 

Mae'r Cynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol, sef menter aml-asiantaethol a grëwyd ac a ddatblygwyd gan Safonau Masnach Sir Gaerfyrddin, yn gweithio i ganfod ac atal camfanteisio'n ariannol ar bobl sy'n agored i niwed gan ofalwyr, aelodau o'r teulu, troseddwyr ar y trothwy, twyll drwy'r post, a sgamiau dros y ffôn a thrwy'r e-bost.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y nodau a chwmpas gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, fel y'i nodwyd yn y ddogfen cynllunio a chwmpasu, a nodi'r amserlen ar gyfer cwblhau, a oedd yn cynnwys pum cyfarfod a drefnwyd gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen gyda golwg ar gyflwyno adroddiad terfynol i'r Pwyllgor ym mis Ebrill 2020.

 

Nododd y Pwyllgor fod swyddogion o'r Adran Safonau Masnach wedi cyfrannu at ddatblygu'r Ddogfen Cynllunio a Chwmpasu a byddent yn parhau i gefnogi gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen. 

 

Er mwyn ffurfio Gr?p Gorchwyl a Gorffen gwleidyddol gytbwys, gofynnodd y Cadeirydd am hyd at 6 enwebiad gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

5.1 derbyn Dogfen Gwmpasu y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

 

5.2  cymeradwyo nodau'r prosiect a chwmpas y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

 

5.3   bod yr aelodaeth o'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen fel a ganlyn:-

 

·         Y Cynghorydd Joseph Davies

·         Y Cynghorydd Karen Davies

·         Y Cynghorydd Penny Edwards

·         Y Cynghorydd Jeanette Gilasbey

·         Y Cynghorydd John James

·         Y Cynghorydd Dai Thomas

 

 

6.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 161 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau ar gyfer y cyfarfod oedd i'w gynnal ar 5 Gorffennaf 2019 a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am wybodaeth i'w chynnwys yn yr adroddiadau.

 

I baratoi ar gyfer mynd yn ddi-bapur ym mis Medi 2019, cytunodd y Pwyllgor y byddai Adroddiad Blynyddol y Cyngor am 2018/19 yn eitem ddi-bapur ac felly na fyddai'n cael ei chynnwys yng nghopi papur yr agenda a anfonir at Aelodau'r Pwyllgor. Anogwyd yr Aelodau gan y Cadeirydd i ddefnyddio eu dyfeisiau IPad i fwrw golwg ar agenda'r cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

6.1    derbyn y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol;

 

6.2  nodi Blaengynllun Gwaith diwygiedig Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd;

 

6.3 bod Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2018/19 yn eitem ddi-bapur ar yr agenda yn y cyfarfod nesaf ar 5 Gorffennaf 2019.

 

 

7.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y 18 EBRILL 2019 pdf eicon PDF 369 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 18 Ebrill, 2019 yn gofnod cywir.