Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd - Dydd Gwener, 24ain Mehefin, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, 3 Heol Spilman

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. James ac A.D.T. Speake.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 240 KB

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ddydd Llun, 26ain Medi, 2016.

 

6.

SEFYDLIADAU ANIFEILIAID - FFIOEDD TRWYDDEDU pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad oedd yn crynhoi'r ymatebion a ddaethai i law yn sgil yr ymgynghoriad oedd wedi'i gynnal i gael barn pobl am strwythur ffioedd newydd arfaethedig yr Awdurdod ar gyfer Sefydliadau Anifeiliaid.

 

Ar ôl ystyried yr ymatebion y farn oedd bod angen, yn achos trwyddedau lletya yn y cartref, adolygiad pellach o'r ffioedd ar gyfer y categori hwn.  Y rheswm dros y penderfyniad hwn oedd bod mwyafswm o ran nifer yr anifeiliaid y caniateir i'r gweithredwyr hyn eu lletya yn eu cartrefi, hynny yw 5 yn achos c?n a 6 yn achos cathod.  Eglurwyd bod archwilio'r sefydliadau hyn yn llawer llai trafferthus ac yn llawer cynt nag archwilio sefydliadau trwyddedig eraill. Yr oedd graddfa symudol yn ôl nifer yr anifeiliaid yn llawer o'r safleoedd trwyddedig eraill.

 

Felly'r cynnig oedd bod y ffioedd oedd wedi'u pennu trwy ddefnyddio'r pecyn cymorth, yn aros fel yr oeddynt yn flaenorol yn yr adroddiad yn achos yr holl sefydliadau trwyddedig ac eithrio'r rhai oedd yn lletya anifeiliaid yn eu cartrefi eu hunain. Yn achos y bobl oedd yn lletya anifeiliaid yn eu cartrefi eu hunain, y cynnig oedd codi ffi o £242.00 am drwydded ar ymgeiswyr newydd fel yr oeddid wedi'i amlinellu yn y pecyn cymorth ynghylch ffioedd.  Yn achos y sefydliadau hynny lle'r oedd trwydded gyfredol ac yn achos adnewyddu trwyddedau, y cynnig oedd lleihau'r ffi hon 50% gan godi £121.00, oherwydd bod angen cynnal ymweliad cyn trwyddedu ar gyfer cais cychwynnol er mwyn cloriannau addasrwydd y safle a bod hynny'n golygu bod gwaith gweinyddol ychwanegol i'w wneud hefyd ar y cychwyn.

 

Trafodwyd y mater canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith y dylai'r gwasanaethau a ddarperir fod yn rhai nad ydynt yn costio dim i'r Awdurdod. 

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL ei fod yn cymeradwyo mabwysiadu'r ffioedd trwyddedu arfaethedig ar gyfer sefydliadau anifeiliaid, yn amodol ar newid y ffioedd ar gyfer lletya yn y cartref.

 

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2015/16 pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiadau Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Gwasanaethau'r Amgylchedd, Diogelu'r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol 'derfynol bron' blwyddyn ariannol 2015/16.

 

Trafodwyd y mater canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

·       Gan fod y dyddiad cau wedi bod o ran cyflwyno mynegiannau o ddiddordeb mewn trosglwyddo asedau, gofynnwyd i'r swyddogion beth fyddai'n digwydd i'r rhannau hynny o'r Awdurdod nad oedd ymrwymiad wedi ei wneud yn eu cylch. Y farn oedd y byddai'n annheg â'r cynghorau tref a chymuned hynny oedd wedi cytuno i gymryd cyfrifoldeb dros asedau, petaent yn gweld bod y cynghorau tref a chymuned nad oeddynt wedi dewis cymryd cyfrifoldeb dros asedau yn dal i fod yn yr un sefyllfa sef bod y Cyngor Sir yn dal i gynnal a chadw eu hasedau.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod trafodaethau'n cael eu cynnal o hyd gyda'r 9 cyngor tref a chymuned nad oeddynt wedi cymryd cyfrifoldeb dros unrhyw asedau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL (2015/16) A CHYNLLUN GWELLA (2016/17) - DRAFFT pdf eicon PDF 430 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurwyd ei bod yn ofynnol gan y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) fod yr Awdurdod yn cyhoeddi Cynllun Gwella cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol ac yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ynghylch ei berfformiad blaenorol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn.

 

Yr oedd yr Awdurdod yn cyfuno'r ddwy ddogfen hyn gan olygu bod modd gwerthuso canlyniadau'r flwyddyn ddiwethaf a chytuno ar y deilliannau yn y dyfodol. Barn y rheoleiddwyr oedd bod cyfuno'r ddau beth yn yr un ddogfen yn arfer da.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gynhwysai ddarnau oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd siom ynghylch lefelau salwch ymysg y staff, a thanlinellwyd na fyddid yn goddef hyn yn y sector preifat. Yr oedd pryder ynghylch nad oedd y mater hwn yn cael sylw digonol, a gofynnwyd i'r swyddogion a oedd unrhyw faterion sylfaenol o ran hyn o beth. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod camau ar waith i roi sylw i'r mater hwn e.e. sesiynau lles i'r staff, a'r gobaith oedd y byddai'r sefyllfa'n gwella cyn bo hir.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

</AI8>

 

9.

ADRODDIAD DIWEDD BLWYDDYN AR REOLI PERFFORMIAD - 1AF O EBRILL 2015 HYD AT 31AIN O FAWRTH 2016 pdf eicon PDF 357 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Diwedd Blwyddyn ynghylch Rheoli Perfformiad a oedd yn amlinellu'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn o ran monitro perfformiad y gwasanaethau oedd yn ei faes gorchwyl ym mlwyddyn ariannol 2015/16.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

10.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 297 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad diweddaru a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, a'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o'r cyfarfodydd blaenorol.