Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd - Dydd Gwener, 13eg Mai, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, 3 Heol Spilman

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd S.E. Thomas. 

2.

DATGELU BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau personol.

 

3.

DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau ynghylch chwipiaid pleidiau.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

ADRODDIAD TERFYNOL GR?P GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD 2015/16: TALIADAU PARCIO CEIR pdf eicon PDF 387 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad terfynol y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd ganddo ar 15 Mai 2015, i ymchwilio i'r gwahanol ddulliau gweithredu o ran taliadau parcio ceir y gellid eu rhoi ar waith yn y sir. Roedd yr argymhellion a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad wedi cael eu llunio gan y Gr?p ar ôl ystyried amrywiaeth o dystiolaeth dros gyfres o gyfarfodydd a gynhaliwyd rhwng mis Medi 2015 a mis Ebrill 2016. Hysbysodd y Cadeirydd ei fod wedi cael ceisiadau gan y Cynghorwyr A. Lenny a J. Thomas i ofyn cwestiynau ynghylch yr eitem hon ar yr agenda ac y byddai’r rhain yn cael eu cyflwyno ar ddechrau’r eitem hon. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd J. Thomas y cwestiwn canlynol:

 

Deallaf mai rhan o’r briff oedd sicrhau cysondeb ledled y Sir. Nid wyf yn credu bod hyn wedi cael ei gyflawni. Er enghraifft, mae mannau parcio am ddim ar ddydd Sul ym mhen Dwyreiniol Caerfyrddin i wasanaethu tri adeilad crefyddol, ac eto ym mhen gorllewinol y dref nid yw maes parcio arall am ddim unrhyw bryd ar ddydd Sul er bod pum adeilad crefyddol yn yr ardal. Gofynnaf, sut yr aethpwyd i’r afael â’r agwedd ar yr adolygiad gorchwyl a gorffen a oedd yn ymwneud â chysondeb?

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Thomas am ei gwestiwn a datganodd fod a wnelo’r adolygiad â Sir Gaerfyrddin gyfan, yn hytrach na materion parcio mewn tref benodol. Nid oedd cysondeb taliadau wedi bod yn rhan o gwmpas ac amcanion yr adolygiad, a gymeradwywyd gan y Pwyllgor mewn cyfarfod blaenorol. Fe wnaeth y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg atgoffa’r Pwyllgor fod yr eithriadau ar ddydd Sul yng Nghaerfyrddin wedi deillio o ganlyniad i ymgynghoriad ynghylch Gorchymyn Cydgrynhoi Mannau Parcio Oddi ar y Stryd yn 2014 a bod y rhain wedi cael eu cytuno yn dilyn cyfarfod rhwng yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol ar y pryd a chynrychiolwyr eglwysi. Roedd 54 o fannau parcio ceir am ddim ar y stryd ym mhen gorllewinol y dref.

 

Gofynnodd y Cynghorydd A. Lenny y cwestiynau canlynol:

 

Mae fy nghwestiwn i’n ymwneud â natur a chwmpas yr ymchwil a wnaed gan y gr?p. Pan na wnaethant wahodd unigolion neu gyrff (e.e. Siambrau Masnach) i gyflwyno tystiolaeth yn bersonol ac ymweld â threfi neu siroedd eraill fel rhan o’r ymchwil, yn hytrach na seilio’u hargymhellion yn bennaf ar ffigyrau ac adroddiadau (yn rhai mewnol ac allanol) a gyflwynwyd gan swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin ei hun ac na chawsant eu herio yn ôl pob golwg? 

 

Os nad yw argymhellion y Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn seiliedig ar lawer mwy nag adroddiadau a ffigyrau a gyflwynwyd gan swyddogion y cyngor sir, a fyddai’r Pwyllgor Craffu Diogelu’r Cyhoedd a’r Amgylchedd yn ystyried gwrthod yr adroddiad am ei fod wedi methu â chydymffurfio â’i gylch gwaith a’i fwriad datganedig oherwydd ei sail ymchwil gyfyngedig, sydd wedi arwain at ganlyniad nad yw’n llawer mwy na chymeradwyaeth i’r sefyllfa fel y mae?

 

Diolchodd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD AR GYFER 2016/17 pdf eicon PDF 375 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’w Flaenraglen Waith ar gyfer 2016/17 a oedd wedi cael ei datblygu yn dilyn sesiwn gynllunio anffurfiol y Pwyllgor a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2015. Cafodd y materion canlynol eu trafod wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i sylw ynghylch atal staff yn Adran yr Amgylchedd o’u gwaith, dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Technegol wrth y Pwyllgor fod yr achos disgyblu’n dal i fynd rhagddo ac, fel yr addawyd mewn cyfarfodydd blaenorol, y byddai diweddariad ar y sefyllfa’n cael ei ddarparu gan y Cyfarwyddwr wedi i’r achos disgyblu ddod i ben. 

 

Awgrymwyd y dylai’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu newydd gael ei wahodd i un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol. Awgrymodd y Cadeirydd y gallai fod yn fwy priodol ei fod yn cwrdd â’r holl aelodau, yn hytrach na dim ond y Pwyllgor ei hun, ond cytunodd i weithredu ar hyn maes o law.

 

Gofynnwyd am gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol y gwasanaeth gwaredu gwastraff ac ailgylchu yn y diweddariad ar y Strategaeth Gwastraff. Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Technegol wrth y Pwyllgor fod gwaith yn mynd rhagddo a bod cynnydd yn cael ei wneud mewn perthynas â chaffael contract newydd.  

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor gymeradwyo ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2016/17.