Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D.B. Davies, P.M. Edwards a W.G. Thomas, yn ogystal â’r Cynghorydd H.A.L. Evans (yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Technegol). 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwipiaid y pleidiau.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 274 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r eitemau i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf a oedd i’w gynnal ar ddydd Gwener 15 Chwefror 2016.

 

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2015/16 pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r Adroddiad Monitro Cyllideb Cyfalaf a Refeniw ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd a’r Tîm Diogelwch Cymunedol, a oedd yn nodi’r sefyllfa ar 31 Rhagfyr 2015 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2015/16. Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch peidio â chyflawni cytundebau diswyddo gwerth £78,000 yn Adran yr Amgylchedd, cadarnhaodd y Cyfrifydd Gr?p nad oedd y pecynnau diswyddo arfaethedig wedi cael eu gwireddu oherwydd amrywiaeth o amgylchiadau, ond ei bod yn rhagweld y byddai’r rhain yn cael eu cyflawni yn y flwyddyn ariannol nesaf. Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Stryd wybod i’r Pwyllgor bod rhai o’r ceisiadau diswyddo’n cael eu hailystyried fel rhan o adolygiad o wasanaethau adrannol.

 

Gofynnwyd a fyddai’r broses trosglwyddo asedau ar gyfer cyfleusterau cyhoeddus yn cael ei chwblhau ar amser. Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Stryd wybod i’r Pwyllgor bod 10 set o gyfleusterau cyhoeddus wedi cael ei trosglwyddo i gynghorau neu grwpiau cymunedol hyd yn hyn a bod y broses ar gyfer 8 arall yn mynd rhagddi ar hyn o bryd. Roedd yn rhagweld y byddai’r rhain yn cael eu cwblhau o fewn y tair blynedd a oedd wedi’u dyrannu i’r rhaglen, gan mai mater o egluro rhai mân faterion cyfreithiol gyda’r priod sefydliadau ydoedd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am y gorwariant o £72,000 ar gyfer y Gwasanaeth Glanhau, eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Stryd fod hyn yn gysylltiedig ag arbedion effeithlonrwydd a oedd wedi cael eu cynnig ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Fodd bynnag, gan nad oedd yn angenrheidiol mwyach i’r Adran ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd ychwanegol yn y blynyddoedd nesaf, byddai hyn yn cael ei reoli o fewn y gwasanaeth.

 

Cyfeiriwyd at y tywydd garw diweddar a swm y deunyddiau i’w hailgylchu a oedd wedi cael eu gwasgaru ar hyd ffyrdd y sir a gofynnwyd pa effaith oedd hyn yn ei chael ar y Gwasanaeth Glanhau Strydoedd. Roedd Rheolwr y Gwasanaethau Stryd yn cydnabod bod sbwriel ychwanegol yn cael effaith gan fod yn rhaid i’r gwaith o lanhau hwn gael ei gynnwys yn y rhaglen reolaidd ar gyfer glanhau strydoedd. Nid oedd unrhyw ostyngiad wedi bod yn nifer y staff a gyflogir ac roedd gan ganol trefi raglen saith diwrnod ar gyfer codi sbwriel a gwacau biniau. Fe wnaeth atgoffa aelodau’r Pwyllgor y dylent gysylltu â’r Adran os oedd ganddynt bryderon penodol ynghylch rhai ardaloedd yn eu wardiau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â’r posibilrwydd y byddai biniau ar olwynion yn cael eu rhoi i drigolion, nododd Rheolwr y Gwasanaethau Stryd fod cost system o’r fath yn rhy uchel ar hyn o bryd. Fe wnaeth atgoffa’r Pwyllgor, os oedd deunyddiau i’w hailgylchu neu fagiau gwastraff gweddillol yn rhwygo ac yn cwympo oddi ar gefn un o gerbydau’r Cyngor, y byddai’r gweithredwyr yn glanhau hyn ar y pryd; fodd bynnag, os oedd y gwastraff ar eiddo preifat, dyletswydd y deiliad t? oedd sicrhau ei fod yn cael ei lanhau.

 

Cyfeiriwyd at  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 208 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r rheswm dros beidio â chyflwyno’r adroddiad ar ‘Effaith Safonau Masnach Awdurdodau Lleol mewn Cyfnod Anodd’.

8.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 297 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddiweddariad a oedd yn nodi cynnydd mewn perthynas â chamau gweithredu, ceisiadau neu atgyfeiriadau a oedd yn deillio o gyfarfodydd craffu blaenorol. Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr un cam gweithredu a oedd heb ei gwblhau mewn perthynas â chais y Pwyllgor am seminar ar ddynladdiad corfforaethol a nododd fod sesiwn ddatblygu’n cael ei pharatoi. Pan fyddai dyddiad wedi’i bennu, byddai’r aelodau’n cael ei hysbysu yn ei gylch.

 

PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad.

9.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 11EG O IONAWR 2016 pdf eicon PDF 297 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar ddydd Llun 11 Ionawr 2016 fel cofnod cywir.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau