Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd - Dydd Llun, 11eg Ionawr, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr D.B. Davies, J.A. Davies, J.P. Jenkins a K.P. Thomas, ynghyd â’r Cynghorydd P.A. Palmer (Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau).

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau personol.

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 209 KB

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at drafodaethau yn y cyfarfod blaenorol pan wnaed cais am sesiwn ddatblygu ar ddynladdiad corfforaethol. Gofynnwyd a ellid cynnwys adroddiad ar y mater ar yr agenda nesaf a chynigiwyd y dylid cadarnhau dyddiad ar gyfer sesiwn ddatblygu neu adroddiad erbyn y cyfarfod nesaf. Awgrymwyd hefyd, pe bai sesiwn ddatblygu yn cael ei threfnu, y dylai fod yn agored i bob aelod etholedig ac nid i aelodau’r Pwyllgor yn unig. Cadarnhaodd y Pwyllgor y cynigion.

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor:

 

5.1       y dylid nodi’r eitemau i’w trafod yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar ddydd Gwener 26ain Chwefror 2016.

 

5.2       PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid cadarnhau dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor neu sesiwn ddatblygu ar gyfer aelodau etholedig ar ddynladdiad corfforaethol erbyn dyddiad y cyfarfod nesaf. 

6.

UNED CADWRAETH GWLEDIG - DIWEDDARIAD pdf eicon PDF 294 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad blynyddol ar waith yr Uned Fusnes Cadwraeth Cefn Gwlad yn ystod 2015. Atgoffwyd yr aelodau o wasanaethau’r Uned, gan gynnwys darparu cyngor i adrannau eraill y Cyngor yn ogystal â’r cyhoedd ar faterion yn ymwneud â thirwedd, coed, coetiroedd, cloddiau, bioamrywiaeth a thir comin. Nodwyd hefyd y prif uchafbwyntiau o’r flwyddyn ddiwethaf, oedd yn cynnwys partneriaeth Coed Cymru, gweithredu’r Strategaeth Diogelwch Coed, Prosiect Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr (SAC) a Phrosiect Corsydd Sir Gaerfyrddin oedd yn cynnwys lefel uchel o ymchwil o ansawdd gan Brifysgol Abertawe. 

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd ymhle roedd swyddogion Coed Cymru yn gweithio a faint roedd yr Awdurdod Lleol yn ei gyfrannu at ariannu eu swyddi. Dywedodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad wrth y Pwyllgor fod y swyddogion yn gweithio o Landeilo, a bod un swyddog yn llawn-amser a’r llall yn rhan-amser. Roedd y cyllid ar gyfer y swyddi yn dod o sawl ffynhonnell, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru (60% rhyngddynt) ac er na allai gadarnhau union gyfraniad yr Awdurdod, dywedodd y gellid danfon y wybodaeth honno at aelodau. Dywedodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad wrth y Pwyllgor hefyd fod y swyddogion hyn yn cynhyrchu incwm i’r Awdurdod trwy weinyddu ffi’r grant plannu coed. 

 

Croesawyd y ffaith y gweithredwyd y Strategaeth Diogelwch Coed a gofynnwyd sut roedd gwaith diogelwch ar goed oedd yn cael eu hystyried yn risg yn cael ei flaenoriaethu. Dywedodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad a’r Pennaeth Cynllunio wrth y Pwyllgor y datblygwyd y strategaeth dros y flwyddyn ddiwethaf gan nad oedd yn y gorffennol unrhyw gadwrfa ganolog yn cadw gwybodaeth o’r fath. Roedd y trefniadau newydd yn ddibynnol ar adrannau eraill yn darparu’r manylion angenrheidiol am goed ar dir yr Awdurdod Lleol ac yn dwyn coed oedd yn destun pryder i sylw’r Uned. Cysylltwyd hefyd ag ysgolion er mwyn cael gwybod ar ba safleoedd yr oedd coed y byddai angen eu harchwilio. Byddai ysgolion a chanddynt goed ar eu safleoedd yn cael eu blaenoriaethu oherwydd y perygl posib i ddisgyblion yn ymweld â pharciau gwledig, a rhoddir blaenoriaeth i’r coed hynny sydd o fewn pellter syrthio i lwybrau.

 

Wrth ymateb i gwestiwn am bwy oedd yn gyfrifol am gynnal ymweliadau safle i ddelio ag achosion o gloddiau uchel, dywedodd y Pennaeth Cynllunio y bu anghysondeb gydag achosion o’r fath yn y gorffennol lle y bu’r Pennaeth Gwasanaeth yn bersonol gyfrifol. Roedd prosesau newydd ar waith erbyn hyn a dirprwywyd y cyfrifoldeb i’r Rheolwr Rheoli Datblygu i weithio gyda’r Swyddog Coed. 

 

Cyfeiriwyd at waredu cloddiau a gofynnwyd am eglurhad o ran sut roedd yr Uned yn ymateb i ddigwyddiadau, megis yr un a amlygwyd yn yr adroddiad lle y cafodd darn 1,300m ei glirio gan berchennog tir. Dywedodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad wrth y Pwyllgor fod Rheoliadau Cloddiau 1997 yn caniatáu i’r Uned gymryd camau gorfodaeth a’i bod, yn y sefyllfa arbennig hon, wedi cyflwyno hysbysiad ail-blannu. Dywedwyd fod swyddogion yn ceisio gweithio gyda pherchnogion tir ac yn cychwyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

PRIFFYRDD - Y NEWYDDION DIWEDDARAF pdf eicon PDF 295 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y Gwasanaeth Priffyrdd i’w ystyried ganddynt. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y gwasanaethau a ddarperir, manylion am yr adolygiad hyd yn hyn a chynigion ar gyfer gwasanaethau i’r dyfodol. Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Lleisiwyd pryder ynghylch y lleihad yn amlder gwagio cafnau a gynigir yn yr adroddiad, yn enwedig felly os oedd amlderau glanhau ffyrdd yn cael eu lleihau hefyd. Croesawodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y sylwadau ond atgoffodd y Pwyllgor mai mater i’r Cyngor Sir fyddai penderfynu ar hyn fel rhan o’r cynigion ar gyfer y gyllideb a drafodir yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.

 

Awgrymwyd y dylid rhoi blaenoriaeth uwch i briffyrdd gan na fyddai trigolion, heb fynediad digonol a diogel at gyfleusterau o bob math, yn gallu teithio o gwmpas y sir a gofynnwyd am sicrwydd y byddai’r Bwrdd Gweithredol yn ail-ystyried ei gynigion ar gyfer y gwasanaeth. Cydnabu’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Technegol y sylwadau a rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai, yng ngoleuni’r setliad llai difrifol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ymladd am fuddsoddiad ychwanegol yng ngwasanaethau’r Adran.  

 

Awgrymwyd na allai’r Awdurdod barhau mwyach i weithredu gyda thoriadau i wasanaethau mor ddifrifol â’r rhai a gynigir yn yr adroddiad a bod y Cyngor mewn sefyllfa o argyfwng. Atgoffodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Technegol y Pwyllgor fod y weinyddiaeth bresennol yn ceisio gweithio o fewn cyfyngiadau cyllideb y weinyddiaeth flaenorol, a gytunwyd gan y Cyngor Sir ym mis Mawrth 2015.  

Cyfeiriwyd at hyd y rhwydwaith priffyrdd y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gyfrifol amdano ac awgrymwyd y dylai faint o arian a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru adlewyrchu hynny. Lleisiwyd pryder hefyd mai ffyrdd gwledig fyddai’n cael eu heffeithio fwyaf. Atgoffodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Technegol a Chyfarwyddwr yr Amgylchedd y Pwyllgor y byddai datblygu’r hierarchaeth rhwydwaith newydd yn llesol i ardaloedd gwledig gan y byddai’n seiliedig ar rwydwaith wedi’i flaenori yn ôl defnydd yn ogystal ag yn ôl pwysigrwydd strategol, yn groes i’r system bresennol sy’n seiliedig ar ddosbarthiad ffyrdd (e.e. A, B, C ac Annosbarthedig).

 

Wrth ymateb i sylw yn croesawu’r ffaith y prynwyd cerbydau sawl-rôl, dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd wrth y Pwyllgor y gellid defnyddio’r cerbydau ‘newid-corff’ newydd trwy gydol y flwyddyn ac y byddai hynny’n gwella’r defnydd o gerbydau ac effeithlonrwydd y gwasanaeth. Byddai’r cyrff tipio yn golygu y gallai cerbydau wneud gwaith adeiladu yn ystod y dydd a byddai cyrff graeanu yn golygu y gellid gwneud gwaith graeanu gyda’r nos.

 

Cyfeiriwyd at lefelau staffio ac at y ffaith fod adroddiadau blaenorol i’r Pwyllgor wedi cyfeirio at golli dim ond deugain aelod o staff yn y gwasanaethau rheng flaen dros yr wyth mlynedd diwethaf. Atgoffodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y Pwyllgor fod rhaid gwneud arbedion ymhob maes megis peiriannau, deunyddiau, prosesau caffael ac mai’r nod oedd cadw cymaint o staff rheng flaen ag y bo modd. Fodd bynnag, collwyd staff o’r gwasanaeth dros y blynyddoedd diweddar oherwydd afiechyd, ymddeoliadau a thrwy’r cynllun diswyddo.

 

Wrth ymateb i gwestiwn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

GRWP GORCHWYL A GORFFEN DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD 2015/16 - DOGFEN CYNLLUNIO A CHWMPASU pdf eicon PDF 300 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y ddogfen gynllunio a chwmpasu ar gyfer yr adolygiad gorchwyl a gorffen o daliadau parcio ceir i’r Pwyllgor. Hyd yn hyn, roedd y Gr?p wedi cyfarfod deirgwaith, a threfnwyd dau gyfarfod arall ar gyfer misoedd Ionawr a Chwefror. Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Awgrymwyd y dylai’r rhestr o randdeiliaid fyddai’n rhan o’r adolygiad gynnwys siambrau masnach. Rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai’r Gr?p yn derbyn crynodeb o’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd dros y blynyddoedd diwethaf ar fater taliadau parcio ceir. Atgoffodd y Pwyllgor fod yr Awdurdod, wrth ystyried unrhyw gynigion ar newidiadau i daliadau parcio ceir, bob tro’n cynnal ymgynghoriad a bod yr ymarferion hynny’n ennyn ymateb gan randdeiliaid o bob math, gan gynnwys siambrau masnach a fforymau tref, yn ogystal ag aelodau’r cyhoedd.

 

Wrth ymateb i gwestiwn am yr arbrawf parcio am ddim yn Llanelli, atgoffodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Technegol y Pwyllgor y gwnaed hyn er mwyn ceisio denu mwy o siopwyr i ganol y dref ar adeg o’r dydd oedd yn tueddu bod yn dawelach, gan roi pwyslais arbennig ar ddenu rhieni allai fod angen mynd i’r dref ar ôl oriau ysgol.

 

Gwnaed cyfeiriad arall at y fenter parcio am ddim yn Llanelli ac awgrymwyd y dylai’r Gr?p ystyried mentrau tebyg ar gyfer Caerfyrddin a threfi eraill y sir. Cydnabu’r Cadeirydd bryderon aelodau o rannau eraill o’r sir a rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai’r Gr?p yn ystyried y sir yn ei chrynswth yn hytrach na chanolbwyntio ar fentrau ar gyfer trefi unigol.  

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid derbyn y diweddariad.

 

9.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR, COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y 12FED O DACHWEDD 2015 pdf eicon PDF 578 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYDy dylid llofnodi’n gywir gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar ddydd Iau 12fed Tachwedd 2015.

10.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR, COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y 11EG O RAGFYR 2015 pdf eicon PDF 296 KB

Cofnodion:

Dywedwydna chofnodwyd cwestiwn am atal staff yn Adran yr Amgylchedd o’u gwaith yng nghofnodion cyfarfod mis Rhagfyr. Cydnabu’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Technegol ei bod wedi ymateb i ymholiad yn y cyfarfod hwn a’i bod ar y pryd wedi cadarnhau y byddai’r Pwyllgor yn cael gwybod am ganlyniad unrhyw gamau disgyblu ynghylch yr ataliadau.

 

PENDERFYNWYDyn amodol ar y newid uchod, y dylid llofnodi’n gywir gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar ddydd Llun 11eg Rhagfyr 2015.