Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd - Dydd Gwener, 11eg Rhagfyr, 2015 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, 3 Heol Spilman

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Daff Davies, Andrew James, Winston Lemon, Alan Speake a Keri Thomas. 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 

J.P. Jenkins

 

8. Adolygiad o'r Polisi Hapchwarae

 

Mae'n gweithio yn y diwydiant hapchwarae.

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 114 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ddydd Llun, 11eg Ionawr 2016.

6.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2015/2016 TAN 2017/18 pdf eicon PDF 350 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2016/17 - 2018/19 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 16eg Tachwedd 2015. Rhoddodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Ariannol wybod i'r cyfarfod fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r setliad dros dro yn gynharach yr wythnos honno (9fed Rhagfyr), ac y byddai cyllideb Sir Gaerfyrddin 1% yn llai yn hytrach na 3.3% yn llai sef y ganran yr oedd y Strategaeth wedi ei seilio arni. Er y byddai'r setliad yn golygu bod Sir Gaerfyrddin yn cael £7.5m yn ychwanegol, byddai'r rhan fwyaf o'r cyllid ychwanegol hwn yn cael ei ddefnyddio i gyllido gofynion eraill megis y diffyg o ran arbedion effeithlonrwydd a'r Cynnig Cyflog i'r Gweithwyr yr oeddid wedi cytuno arno'n ddiweddar. Ychwanegodd nad oedd gwybodaeth ar gael hyd yn hyn ynghylch i ba raddau y byddai Llywodraeth Cymru yn diogelu cyllidebau'r ysgolion, er bod Strategaeth y Cyngor wedi ei seilio ar y rhagdybiaeth na fyddai cyllidebau'r ysgolion yn cael eu diogelu o gwbl. Hefyd yr oedd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a'r Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd wedi rhoi golwg gyffredinol gryno ar eu meysydd gwasanaeth.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch y setliad, a gofynnwyd a fyddai'r symiau yn strategaeth y gyllideb yn newid ac, os felly, oni fyddai hynny'n peri bod ystyried yr adroddiad yn amherthnasol. Cyngor pendant Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Ariannol i'r Pwyllgor oedd ystyried yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig a'r crynoadau taliadau a rhoi sylwadau arnynt, gan fod gweithredu'r arbedion effeithlonrwydd yn hanfodol a bod angen cadarnhau'r rhain yn y Flwyddyn Newydd. Byddai gohirio ystyried yr adroddiad yn golygu na fyddai digon o amser ar gael i wneud hynny.

 

Gan gyfeirio at Is-adran Polisi a Pherfformiad Adran yr Amgylchedd gofynnwyd oni ddylai'r isadran honno hefyd, sef swyddogaeth weinyddol a oedd yn costio mwy na £900,000, fod yn gweithredu arbedion effeithlonrwydd sylweddol ar adeg pan oedd gwasanaethau rheng flaen yn cael eu lleihau neu'u torri. Atgoffwyd y Pwyllgor gan Gyfarwyddwr yr Amgylchedd y byddai bob amser angen swyddogaeth swyddfa gefn er mwyn galluogi'r adran i weithredu'n llwyddiannus. Fodd bynnag yr oedd cyfleoedd bob amser i sicrhau bod swyddogaethau o'r fath yn fwy effeithiol, a byddid yn rhoi sylw i hynny fel rhan o fentrau corfforaethol eraill i aildrefnu gwasanaethau, systemau ac isadeiledd swyddfa gefn.

 

Awgrymwyd bod croesddweud o ran y wybodaeth oedd wedi ei chyflwyno yn yr adroddiad ynghylch goleuadau cyhoeddus a'r wybodaeth oedd wedi ei rhoi i'r aelodau yn y sesiwn gan Adran yr Amgylchedd ynghylch cyllideb yr adran yn gynharach yr wythnos honno. Honnwyd bod yr adroddiad yn datgan taw'r bwriad oedd lleihau'r costau gweithredu heb ddiffodd goleuadau, ond bod y wybodaeth yn y seminar yn datgan bod posibilrwydd na fyddai'r arbedion angenrheidiol yn deillio o hynny gan olygu bod y system goleuadau cyhoeddus yn cael ei diffodd yn llwyr. Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Stryd y byddid, yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, yn defnyddio'r cyllid Buddsoddi er mwyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADOLYGU FFÏOEDD A BENNIR YN LLEOL YN ADAIN IECHYD YR AMGYLCHEDD A THRWYDDEDU pdf eicon PDF 382 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adolygiad o'r ffioedd a bennir yn lleol mewn perthynas â'r Adain Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu, a oedd yn cynnwys barn y rhanddeiliaid am y ffioedd arfaethedig. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd wybod i'r Pwyllgor y byddai'r ffioedd arfaethedig ar gyfer cerbyd hacnai a hurio preifat (a amlinellwyd yn Atodiad 1), ar ôl i'r aelodau etholedig eu hystyried, yn cael eu hysbysebu am 28 o ddiwrnodau fel oedd yn ofynnol gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 er mwyn i bobl gyflwyno gwrthwynebiadau. Fodd bynnag dywedodd taw'r argymhelliad yn yr adroddiad oedd gweithredu'r ffioedd newydd ar unwaith ond, gan y byddai'r broses ymgynghori  a'r cyfnod hysbysebu yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth, byddai'n well petai'r ffioedd newydd yn dod i rym ar 1af Ebrill 2016 ar ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd. Cytunodd y Pwyllgor â'r cynnig hwn. 

 

Awgrymwyd bod y cynnydd arfaethedig o ran y taliadau oedd ynghlwm wrth brosesu c?n strae yn groes i'r sylwadau yn y crynodeb gweithredol gan fod y rhain yn awgrymu bod cynyddu'r ffioedd, a oedd wedi digwydd mewn siroedd cyfagos, mewn gwirionedd yn atal pobl rhag nôl eu c?n. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd wybod i'r Pwyllgor fod y cynnydd arfaethedig yn y taliadau yn cael ei gynnig er mwyn cwmpasu cost y wardeiniaid c?n yn ogystal â chost cadw c?n mewn cynel. Cynigiwyd ac eiliwyd y dylai'r ffi 'diwrnod cyntaf/rhan o ddiwrnod' am brosesu c?n strae fod yn £60 o hyd yn hytrach na £80 fel yr oeddid yn ei argymell. Pleidleisiwyd ar y mater, a gwrthodwyd y cynnig.

 

Gofynnwyd pam yr oedd cynnydd anferth yn y ffioedd am archwilio diogelwch caeau chwaraeon, gan ddweud nad oedd dim ffi ar hyn o bryd a bod y ffi arfaethedig yn £930. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd wybod i'r Pwyllgor fod y ddeddfwriaeth ynghylch y ffi hon yn ymwneud â dim ond meysydd/cyfleusterau chwarae mwyaf y sir (oedd â lle i 500+), yr oedd tri ohonynt yn y sir: Parc y Scarlets yn Llanelli, Parc Waun Dew yng Nghaerfyrddin a Chae Rasio Ffos Las. Yr oeddid wedi cyfrifo'r tâl arfaethedig drwy ddefnyddio'r pecyn perthnasol. 

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor argymell y canlynol i'r Bwrdd Gweithredol:

 

7.1       Hysbysebu'r ffioedd arfaethedig ar gyfer cerbydau hacnai/hurio preifat, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad 1, am gyfnod o 28 o ddiwrnodau fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 er mwyn i bobl gyflwyno gwrthwynebiadau.  Os na fydd unrhyw wrthwynebiadau, caiff y ffioedd eu gweithredu o 1af Ebrill 2016 ymlaen. 

 

7.2       Hysbysebu gweddill y ffioedd yn Atodiad 1 am gyfnod o 28 o ddiwrnodau a gweithredu'r ffioedd diwygiedig o 1af Ebrill 2016 ymlaen.

8.

ADOLYGIAD O'R POLISI HAPCHWARAE pdf eicon PDF 351 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yr oedd y Cynghorydd J.P. Jenkins wedi datgan buddiant gan ei fod yn gweithio yn y diwydiant hapchwarae.

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod

y Polisi Hapchwarae diwygiedig yn cael ei gymeradwyo.

9.

ADOLYGIAD O DDATGANIAD Y POLISI TRWYDDEDU (DEDDF TRWYDDEDU 2003) pdf eicon PDF 380 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adolygiad o Ddatganiad y Polisi Trwyddedu gan nodi bod y ddogfen Polisi Trwyddedu ddiwygiedig yn adleisio canlyniadau'r ymgynghoriad a'r broses adolygu. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd wybod i'r Pwyllgor fod tystiolaeth ddigonol wedi ei darparu i gyfiawnhau cadw'r Polisi Effaith Gronnol o ran Heol yr Orsaf, Llanelli. Ychwanegodd fod yr ymatebion a ddaethai i law i'r ymgynghoriad yn cyfiawnhau llunio cynigion penodol ar gyfer mabwysiadu Polisi Effaith Gronnol tebyg ar gyfer Heol Awst, Caerfyrddin, a bod angen cynnal ymgynghoriad arall er mwyn cloriannu a ddylid mabwysiadu polisi effaith gronnol o'r fath.

 

Felly PENDERFYNODD y Pwyllgor:

 

9.1       Bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

9.2       Cymeradwyo bod Datganiad diwygiedig y Polisi Trwyddedu yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Gweithredol.

 

9.3       Bod y Polisi Effaith Gronnol presennol yn cael ei gadw ar gyfer Heol          yr Orsaf, Llanelli fel y nodwyd yn Adran 10 o'r polisi amgaeedig.

 

9.4       Bod rhagor o dystiolaeth yn cael ei chasglu mewn perthynas â'r posibilrwydd o fabwysiadu Polisi Effaith Gronnol ar gyfer Heol Awst, Caerfyrddin yn sgil yr ymatebion i'r ymarfer ymgynghori.

10.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rheswm dros beidio â chyflwyno'r adroddiad am Bennu Cyllideb Rhaglen Gyfalaf 2016/17 - 2020/21.