Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd T. Higgins.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 pdf eicon PDF 213 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiadau monitro ynghylch y gyllideb ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd, Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd a'r Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol ynghyd â'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol, fel yr oeddent ar 28 Chwefror 2019, mewn perthynas â 2018/19.

 

 

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriodd yr Aelodau at y cynnydd o £108k mewn incwm yn sgil Mabwysiadu Priffyrdd, a dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd wrthynt fod hyn yn deillio o'r ffioedd sy'n gysylltiedig â chytundebau o dan Adran 38 o Ddeddf Priffyrdd 1980. Mae'r ffioedd yn talu costau sy'n gysylltiedig â gwirio dyluniadau, paratoi cytundebau, arolygu'r gwaith ac ati. Nodwyd bod hyn yn berthnasol i ddatblygiadau newydd yn unig.

 

·         Nododd yr Aelodau y costau a oedd yn gysylltiedig â Draenio Cynaliadwy. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod gan yr Awdurdod ddyletswydd, o dan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a D?r, i sicrhau bod materion draenio'n cael eu trin mewn modd cynaliadwy mewn perthynas â cheisiadau am ddatblygiadau newydd. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau na fyddai d?r ychwanegol yn achosi unrhyw niwed i lawr yr afon.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch staffio, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod yr Adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth yn cyflogi dros 400 o staff, gan gynnwys Hebryngwyr Croesfannau Ysgol, Gweithwyr Priffyrdd a Swyddogion Gorfodi Materion Amgylcheddol. Hefyd dywedodd nad oedd y swydd Rheolwr Traffig a Diogelwch Ffyrdd wedi cael ei llenwi, a bod y gwaith yn cael ei wneud yn rhannol gan y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth tra oedd adolygiad o'r strwythur ehangach yn cael ei gynnal. Cydnabuwyd bod rôl Rheolwr Traffig yn swydd allweddol yn yr adran a rhagwelwyd y byddai'r swydd yn cael ei llenwi yn ystod y misoedd nesaf.

 

·         Cyfeiriodd yr Aelodau at gostau teledu cylch cyfyng, gan nodi bod y cyfrifoldeb am hyn wedi'i drosglwyddo'n ôl i Heddlu Dyfed-Powys a gofynnwyd a oedd y camerâu teledu cylch cyfyng yn fyw ar hyn o bryd. Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth fod y camerâu teledu cylch cyfyng yn recordio, ac y byddai monitro byw yn dechrau yn yr wythnos ganlynol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

 

5.

BLAENRAGLEN WAITH PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD AR GYFER 2019/20 pdf eicon PDF 178 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2019/20.

 

Nododd yr Aelodau fod y rhaglen yn ddogfen hyblyg yr oedd modd ei haddasu i gynnwys eitemau agenda a chyfarfodydd ychwanegol yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Blaenraglen Waith Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ar gyfer 2019/20. 

 

 

6.

YMESTYN GORCHYMYN GWARCHOD MANNAU CYHOEDDUS (GORCHMYNION CWN SIR GAERFYRDDIN) pdf eicon PDF 470 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Ymgynghori ynghylch y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus. Dywedwyd bod yr adroddiad yn cael ei adolygu gan y Pwyllgor bob tair blynedd fel rhan o'r gwaith o adnewyddu'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Yn ôl Adran 11(B) o'r adroddiad, ni chaniateir i g?n fynd i mewn i le chwarae caeedig i blant, a'r diffiniad o 'caeedig' yw lle sydd wedi'i amgylchynu ar bob ochr gan ffensys, gatiau, waliau a strwythurau eraill.  Gofynnodd yr Aelodau a ellid ymestyn y gorchymyn i leoedd a oedd wedi'u hamgylchu ar dair ochr, gan fod sawl parc ledled y sir â lleoedd chwarae sydd wedi'u hamgylchynu ar dair ochr. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod hyn wedi'i ystyried yn ystod yr adolygiad diwethaf, ond ni ellid gweithredu'r egwyddor yn achos rhai lleoedd ac roedd yn anodd ei diffinio.

 

·         Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch sut yr oedd y gorchymyn yn berthnasol i g?n gwaith ar dir amaeth lle roedd Hawl Dramwy Gyhoeddus drwy'r tir. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod c?n gwaith wedi eu heithrio o'r Ddeddf.  Hefyd eglurodd nad yw'r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid cadw c?n ar dennyn, ond bod yn rhaid eu cadw o dan reolaeth.

 

·         Dywedodd yr Aelodau fod modd ymestyn y gorchymyn i gynnwys meysydd chwaraeon a chaeau ysgolion. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai a Diogelu'r Cyhoedd wrth y Pwyllgor y byddai cyfle yn y dyfodol i wneud diwygiadau i'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus arfaethedig a phwysleisiodd bwysigrwydd pasio'r gorchymyn cyn 3 Gorffennaf 2019. Nodwyd hefyd y byddai angen ystyried gofynion gweithredol ymestyn y gorchymyn, gan fod pedwar tîm o ddau Swyddog Gorfodi yn gweithio yn y sir ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD -

 

6.1 Bod hyd Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (Rheolaethau C?n) Cyngor Sir Caerfyrddin 2016 yn cael ei ymestyn am gyfnod pellach o 3 blynedd o 1 Gorffennaf 2019 ymlaen;

 

6.2 Bod y Cyngor yn gwneud Gorchymyn Ymestyn i weithredu'r estyniad uchod ac yn cymeradwyo Gorchymyn 2016 â geiriad addas er mwyn adlewyrchu'r ffaith fod hyd Gorchymyn 2016 wedi cael ei ymestyn.

 

6.3 bod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu yn cwrdd â'r Rheolwr Gorfodi Materion Amgylcheddol i drafod rheolaethau arfaethedig yn y dyfodol.

 

 

7.

STRATEGAETH GORFFORAETHOL 2018-23 DIWEDDARIAD DRAFFT MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 213 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio Perfformiad a Busnes drosolwg o'r adroddiad a dadansoddiad o'r newidiadau ers yr adroddiad blaenorol.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Ystyriodd yr Aelodau Gam Gweithredu 2 Amcan Llesiant 8, a gyfeiriodd at barhau i fonitro ansawdd aer, gan nodi nad oedd y cam gweithredu yn ymddangos yn uchelgeisiol mewn perthynas â'r uchelgais corfforaethol i ddatblygu cynllun clir ar gyfer llwybr tuag at fod yn awdurdod lleol di-garbon net cyn pen 12 mis, ac i fod yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030. Roedd yr Aelodau'n feirniadol o'r diffyg targedau penodol, ac roeddent yn annog cysoni'r targedau. Cytunwyd y dylai hyn gael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol yn dilyn cyfarfod gyda'r Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyfraddau ailgylchu Sir Gaerfyrddin, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod problemau o ran gwaredu gwastraff lludw du. Dywedwyd bod sbwriel bagiau du yn cael ei anfon i ffwrdd i gael ei losgi, a bod hyn yn cael ei gyfrif fel ailgylchu, ond bod gwaredu lludw du yn dal i fod yn broblem barhaus.  Dywedodd hefyd fod nifer sylweddol o ymwelwyr 'y tu allan i'r sir' wedi cael eu troi ymaith o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref o dan y cynllun newydd lle mae angen dangos prawf adnabod, ac y dylid adlewyrchu hyn yn y cyfraddau ailgylchu ar gyfer 2019/20.

 

·         Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am allyriadau cerbydau fflyd y Cyngor a pha gamau oedd yn cael eu cymryd i leihau hyn. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod y fflyd bresennol hanner ffordd drwy ei chylch ac mai un o elfennau allweddol y broses gaffael yn y dyfodol fyddai ystyried cerbydau electronig.  Y fflyd cerbydau priffyrdd bresennol oedd un o'r rhai mwyaf datblygedig o ran allyriadau ecsôst.

 

PENDERFYNWYD yn dilyn cyfarfod gyda'r Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel, y byddai'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd yn rhoi adborth i'r Bwrdd Gweithredol mewn perthynas ag uchelgais mwy a chysoni targedau amgylcheddol.

 

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno ar y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 10 Mehefin 2019.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau